Skip to main content
English | Cymraeg

Elin Wakeham

Cydymaith

Elin Wakeham yw Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr yn Abertawe ac mae wedi bod yn y swydd ers Ionawr 2020. Mae Elin wedi bod yn dysgu ers 1996 ac mae wedi cyflawni amrywiaeth o rolau fel rhan o’i thaith arweinyddol. Mae hi’n frwdfrydig dros ddylunio cwricwlwm ac yn ei deall ac yn deal pwysigrwydd arweinyddiaeth yn y broses ddylunio. O fewn ei hysgol ei hun, mae dyluniad y cwricwlwm wedi’i ddisgrifio fel un arloesol a meistrolgar, ac mae’n rhannu ei thaith dylunio cwricwlwm gyda phenaethiaid ac arweinwyr eraill drwy gyflwyniadau a gweithio gydag ysgolion eraill. Mae hi’n arwain ac yn gweithio’n agos iawn gyda’r ysgolion clwstwr fel rhan o’r broses hon. 

Ar hyn o bryd, mae Elin wedi’i secondio i’r Tîm Gwella Ysgolion fel cynghorydd gwella ysgolion o fewn yr Awdurdod Lleol.  Mae hi hefyd yn gweithio fel arolygydd cymheiriaid gydag ESTYN. 

Mae Elin yn edrych ymlaen at fwy o gyfleoedd cydweithio proffesiynol ac at ddatblygu dysgu a sgiliau newydd fel cyswllt â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. 

Ar lefel bersonol, mae Elin ar hyn o bryd yn byw yn ardal Cwmtawe er ei bod yn wreiddiol yn hanu o ardal Cydweli/Llanelli gyda rhywfaint o deithio rhyngwladol yn cael ei daflu i’r gymysgedd.  Mae Elin yn mwynhau sgïo a cherdded, gofalu am 2 blentyn yn eu harddegau, 2 gi a 3 ieir.  Ei hoff ffordd o ymlacio yw gyda llyfr da neu ymweld â lleoedd newydd. 

Elin Wakeham

Cwrdd â Charfan 7

Gweld y Cyfan
Nick Hudd

Cydymaith

Mike Tate

Cydymaith

Jonathan Angell

Cydymaith