Pwrpas y papur trafod hwn yw ymchwilio i gwestiwn allweddol ac amserol: “Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth gyflawni gweledigaeth Ysgolion Bro yng Nghymru?” Nod yr ymholiad hwn a gynhaliwyd gan Gymdeithion yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, yw taflu goleuni ar y rôl ganolog y mae Arweinyddiaeth addysgol yn ei chwarae wrth wireddu’r nodau uchelgeisiol a nodir ar gyfer Ysgolion Bro yng nghyd-destun unigryw Cymru. Mewn tirwedd addysgol sy’n esblygu’n gyflym, lle mae’r cydadwaith rhwng ysgolion a’u cymunedau cyfagos yn dod yn fwy arwyddocaol, mae’n hanfodol deall rôl ddynamig arweinyddiaeth wrth gyflawni trawsnewidiad addysgol a chymdeithasol.