Ysgol gyfun gymysg 11-18 cyfrwng Saesneg yng Nghonwy yw Ysgol Aberconwy. Mae 910 o ddisgyblion ar y gofrestr, gydag oddeutu 150 yn y chweched dosbarth.
Mae’r Safonau Proffesiynol yn amlygu pwysigrwydd darllen ehangach, cymryd rhan mewn ymchwil gweithredol, arbrofi a myfyrio wrth ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer proffesiynol athrawon. Yn hanesyddol, fodd bynnag, nid oedd dulliau o’r fath yn nodwedd amlwg o strategaethau dysgu proffesiynol yn Ysgol Aberconwy, a chydnabuwyd y byddai’r syniad o gymryd rhan mewn unrhyw beth a labelwyd yn ‘ymchwil’ yn ‘wrthun’ i rai ymarferwyr (er nad pob un o bell ffordd).
Cydnabu arweinwyr yn yr ysgol yr angen i gymryd ymagwedd ailadroddol, gynyddol tuag at annog staff i ymgysylltu gydag ymchwil, gydag ‘arbrofi’ a myfyrio ar effeithiolrwydd dulliau newydd. Lluniodd arweinwyr yr ysgol ‘gylch arloesi’ pedwar cam a gynlluniwyd i lywio staff drwy broses ymchwil gweithredu mewn ffordd hygyrch, fel y dangosir yn Ffigur 3 isod.
Disgwylir i’r cylch arloesi gael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn academaidd, gyda’r cyfnod cynllunio yn dechrau ym mis Hydref a’r cyfnod adolygu yn dod i ben ar ddiwedd tymor yr haf. Mae pedwar ‘pwynt gwirio’ wedi’u cynnwys yn y cylch, sydd yn eu hanfod yn disodli cyfarfodydd y Gymuned Dysgu Proffesiynol a oedd gynt yn rhan o galendr yr ysgol. Roedd staff yr ysgol wedi nodi bod dysgu proffesiynol mewn cyfarfodydd cymuned dysgu proffesiynol wedi mynd yn oddefol, ac ymatebodd arweinwyr drwy gyflwyno’r cylch newydd hwn. Roedd cydweddu cyfarfodydd y gymuned dysgu proffesiynol â’r cylch arloesi yn ymgais i wneud y sesiynau hynny’n ‘fwy deniadol … yn fwy wedi’u harwain gan y staff ac yn fwy grymusol’.Lansiwyd y cylch arloesi cyntaf yn Ysgol Aberconwy ym mis Hydref 2019.
Wrth gyflwyno’r cylch arloesi, roedd arweinwyr yn ofalus i roi llai o bwyslais ar ffurfioldeb ymchwil o fewn y gweithgareddau i’w cyflawni: y bwriad oedd ‘ennyn brwdfrydedd pobl i ddatblygu eu prosiect eu hunain’ ac ‘annog pobl i roi cynnig ar ddod o hyd i wybodaeth. Cydnabuwyd bod arweinwyr addysgol wedi bod yn ‘paldaruo am ymchwil’ ers peth amser, ond mai ychydig o weithgarwch mesuradwy a oedd yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn Ysgol Aberconwy. Ystyriwyd y cylch arloesi fel ffordd o gael ‘staff i ymgysylltu â’r rhan honno o’r maes dysgu proffesiynol’ drwy roi’r modd iddyn nhw ‘fwrw iddi… rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ar sail yr hyn a ddysgwyd ganddyn nhw… arbrofi yn yr ystafell ddosbarth a gweld sut mae pethau’n gweithio’n ymarferol’, gyda’r nod yn y pen draw o ‘wella pethau i blant’.
Trefnwyd y staff yn ‘grwpiau datblygu cymheiriaid’ i archwilio themâu o ddiddordeb cyffredin. Nodwyd y themâu hyn drwy ymarfer nodiadau ‘Post-it’ ysgol gyfan lle gofynnwyd i staff gofnodi ‘pethau sy’n eu gwylltio’, ‘pethau sy’n mynd o dan eu croen’. Roedd uwch-arweinwyr yn ofalus i beidio â llywio’r themâu a ddewiswyd, gan adael i ymarferwyr feddwl am faterion a oedd o ddiddordeb gwirioneddol iddyn nhw neu a oedd yn sbarduno eu chwilfrydedd. Roedd y rhyddid hwn i ddewis eu thema eu hunain yn ‘ddiddorol a grymusol’, yn ôl yr ymarferwyr.
Roedd sefydlu grwpiau datblygu cymheiriaid (triawdau) ar sail cyd-fuddiannau yn golygu bod ymarferwyr yn gweithio gyda chydweithwyr a oedd yn chwilfrydig am bethau tebyg. Roedd arweinwyr yn ofalus i roi ymarferwyr mewn grwpiau yn cynnwys pobl nad oedden nhw fel arfer yn cyfranogi mewn deialog broffesiynol â nhw e.e. ymarferwyr o wahanol adrannau neu ymarferwyr profiadol iawn gydag athrawon newydd gymhwyso. Roedd yn ofynnol i bob grŵp datblygu cymheiriaid benodi arweinydd grŵp i fod yn gyfrifol am fonitro ac adrodd ar gynnydd y grŵp. Roedd arweinwyr yr ysgol yn annog defnydd o’r system rheoli perfformiad Blue Sky Education[1] i gasglu nodiadau o drafodaethau grwpiau a chanfyddiadau ymholiadau.
Arweinwyr yn rhoi amser i ymarferwyr gynllunio ar gyfer ymgorffori dulliau newydd mewn arferion dyddiol
Mae’r cylch arloesi yn rhoi bron i bedwar mis i ymarferwyr archwilio maes o ddiddordeb. Yn ystod y cyfnod hwn, mae staff yn cael eu hannog i adolygu llenyddiaeth, i chwilio am adnoddau ac i ymgysylltu ag arbenigwyr o fewn a thu allan i’r ysgol. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, disgwylir i staff fod wedi nodi datblygiadau arloesol neu ddulliau newydd maen nhw’n awyddus i’w cynnwys yn eu harfer yn yr ystafell ddosbarth.
Rhoddodd dau uwch-arweinydd hwb i’r broses hon drwy roi cyflwyniad byr i grwpiau datblygu cymheiriaid ar ddulliau posibl i ymchwilio i themâu penodol. Fodd bynnag, roedden nhw’n ofalus i osgoi bod yn rhy rhagnodol ac i ganiatáu rhywfaint o gyfle i grwpiau benderfynu ar eu dull gweithredu eu hunain. Cydnabuwyd, fodd bynnag, ‘nad yw’r athro cyffredin yn siŵr ble i fynd’ wrth chwilio am ddeunydd perthnasol, ac roedd arweinydd dysgu proffesiynol yr ysgol yn darparu cyfarwyddyd, yn ôl y gofyn.
Rhoddwyd ffurflen profforma byr i grwpiau datblygu cymheiriaid, gyda’r bwriad o’u helpu i strwythuro eu meddyliau a chadw golwg ar gynnydd ym mhob un o bedwar cam y cylch arloesi. Mae’r ffurflen yn gwahodd grwpiau i nodi sut maen nhw’n bwriadu mynd ati i ymchwilio i’w thema, cofnodi manylion ymchwil a gyflawnwyd a nodi ‘pwyntiau dysgu allweddol’ i ddod i’r amlwg. Mae adran cam arloesi’r ffurflen yn gwahodd grwpiau i nodi eu ‘cynllun arloesi’ ac i gofnodi ‘deilliannau’ datblygiadau arloesol a gyflawnwyd.
Mae arweinwyr yr ysgol yn ceisio gwneud amser i ganiatáu i ymarferwyr wneud gwaith ymchwil a chyfarfod â’u grwpiau datblygu cymheiriaid. Mae hyn yn cynnwys pedwar digwyddiad gwirio blynyddol wedi’u trefnu fel rhan o’r cylch arloesi ac amser wedi’i neilltuo, yn ôl yr angen, yn ystod cyfarfodydd staff wedi’u hamserlennu. Mae arweinwyr yr ysgol hefyd yn ceisio sicrhau staff cyflenwi i alluogi ymarferwyr unigol i arsylwi a siarad â chydweithwyr (gan gydnabod bod llawer iawn o arbenigedd yn Ysgol Aberconwy), i fynychu digwyddiadau penodol neu i ymweld ag ysgolion eraill.
Mae disgwyliad hefyd y bydd ymarferwyr yn dod o hyd i’r amser i gynnal eu hymholiadau ac i ymgysylltu â’u grwpiau datblygu cymheiriaid. Yn y cyd-destun hwn, nodwyd cynnydd yn nifer yr achosion o staff yn Ysgol Aberconwy yn trafod dulliau addysgegol gyda chydweithwyr, yn ffurfiol (o fewn grwpiau datblygu cymheiriaid) ac yn anffurfiol (yn yr ystafell staff).
Arweinwyr yn sicrhau bod amser i ymarferwyr adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd drwy brofi dealltwriaeth, sgiliau, technegau a strategaethau newydd
Mae llinell amser y cylch arloesi yn caniatáu dau fis i ymarferwyr wneud defnydd o’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn ystod y cyfnod ymchwil ac i brofi unrhyw ddulliau newydd. Roedd disgwyl i gam arloesi’r cylch cyntaf ddechrau yng nghanol mis Mawrth 2020, ond cafodd ei lethu gan effeithiau’r pandemig COVID-19 ar ysgolion.Y bwriad oedd y byddai grwpiau’n cynllunio rhaglenni gweithgareddau megis arsylwadau gwersi ac adborth.
Arweinwyr yn sicrhau bod ymarferwyr yn cael yr amser i fyfyrio ar effeithiau newidiadau sy’n cael eu gwneud
Mae llinell amser y cylch arloesi yn caniatáu cyfnod o ddau fis ar gyfer y cyfnod adolygu (rhwng mis Mai a diwedd tymor yr haf) ac mae’r ffurflen yn cynnwys adran adolygu lle mae’n ofynnol i grwpiau datblygu cymheiriaid gofnodi effeithiau ac effeithiolrwydd datblygiadau arloesol a gyflwynwyd ac ystyried pa ddatblygiadau a allai fod yn briodol yn y dyfodol.
Mae’r broses hon o fyfyrio yn bwydo i mewn i adolygiadau rheoli perfformiad/datblygiad proffesiynol ymarferwyr unigol. Rhoddir tri nod i bob aelod o staff ar ddechrau’r flwyddyn ac ers 2019, mae un o’r rhain yn ymwneud â’r thema cylch arloesi y mae unigolion yn ymwneud â hi.
Mae arweinwyr yr ysgol yn annog staff i gofnodi trafodaethau a chanfyddiadau eu grwpiau datblygu cymheiriaid ar system rheoli perfformiad Blue Sky, gan ei gwneud yn bosibl i’w profiadau gael eu rhannu ar draws yr ysgol. Mae’r arweinwyr hefyd yn ystyried y system fel ffordd o gasglu deunydd i lywio trafodaethau rheoli perfformiad rhwng ymarferwyr a’u hanogwyr/rheolwyr llinell.
Yn sgil effaith COVID-19, daeth y cylch arloesi llawn cyntaf i ben yn ystod haf 2021. Cwblhawyd gwerthusiad trosfwaol o’r rhaglen cylch arloesi gan yr uwch dîm arweinyddiaeth gan ystyried: