Skip to main content
English | Cymraeg

Defnyddio Flipgrid ar gyfer Asesu

Ysgol Gynradd y Clâs

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad â Matthew Brooks, athro dosbarth yn Ysgol Gynradd y Clâs, i ganfod sut y clywodd am y Grant Arloesedd. Roedd dirprwy bennaeth yr ysgol wedi rhoi gwybod iddo am fanteision datblygu a chwblhau arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.

 

Y Broblem

Yn dilyn y cyfnodau clo yn ystod pandemig Covid-19, canfu Ysgol Gynradd y Clâs fod annibyniaeth llafar a chymdeithasol dysgwyr wedi’u heffeithio a bod angen iddyn nhw chwilio am ffyrdd newydd o feithrin eu sgiliau llythrennedd mewn ffordd ddifyr. Eu syniad ar gyfer y Grant Arloesedd oedd defnyddio’r platfform digidol Flip, fel y gallai dysgwyr gael mynediad hawdd at ddysgu ar-lein, gan ddangos eu gwybodaeth a galluogi asesu dilys. Byddai dull cyfredol yr ysgol o daflenni ‘Profwch Hynny’, a ddefnyddir i fonitro cynnydd dysgwyr gyda hunanasesiadau ac asesiadau gan gyfoedion, yn cael ei ddisodli gan Flip a fyddai’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr ofyn cwestiynau a herio camsyniadau. Matthew sy’n egluro: “Rwy’n credu y byddai asesu o fewn Flip o fudd i’n lleoliad ni yn Ysgol Gynradd y Clâs ac yn galluogi ymarferwyr i wylio’r fideos cyfarwyddyd pryd bynnag y byddai ganddyn nhw amser i wirio dealltwriaeth. Byddai hyn hefyd o fudd mewn perthynas â’r cenadaethau annibynnol a ddarparwn i ddysgwyr.” Roedd yr ysgol yn bwriadu defnyddio’r Grant Arloesedd i brynu iPads i’r ystafelloedd dosbarth a fyddai’n gwaredu’r angen i ail-bwrpasu eu parth digidol cyfredol ac yn creu parth newydd ar gyfer cenadaethau annibynnol y dysgwyr a fyddai’n canolbwyntio’n bennaf ar Flip. Byddai’r cyllid yn cael ei ddefnyddio hefyd i ryddhau aelod o staff i ddysgu sut i ddefnyddio Flip yn effeithiol a bwydo’r wybodaeth.

 

Y Fethodoleg

Derbyniodd Ysgol Gynradd y Clâs y Grant Arloesedd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a oedd yn caniatáu digon o amser i brynu’r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer y prosiect. Yn ystod yr amser hwn, cafodd Matthew gyfle heb ei ail i dreulio amser yn ymgyfarwyddo â Flip a chwblhaodd hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r ap drwy gyrsiau Microsoft.

Fel gydag unrhyw brosiect arall, fe wnaeth Matthew a’r ysgol wynebu rhai cymhlethdodau ar y daith. Matthew sy’n ymhelaethu: “Mae’r prosiect cyfan yn dal i fynd yn ei flaen er gwaethaf problemau’n gosod rhaglenni ac yn paratoi’r iPads. Roedden ni’n barod i weithredu ap Flip gan fod gynnon ni liniaduron yn yr ardal ddigidol, ond fe dynnodd hyn i ffwrdd oddi wrth y cenadaethau digidol allweddol hynny.” I fynd i’r afael â hyn, parhaodd Matthew a’r tîm yn hyblyg o safbwynt yr amserlen a buont yn trafod y newidiadau arfaethedig yn barhaus gyda’r  dysgwyr. Cafwyd llawer o ddiddordeb yn y prosiect i ddechrau ac roedd dysgwyr yn awyddus i ddefnyddio’r ap. Canolbwyntiodd y prosiect ar un dosbarth o Flynyddoedd 3 a 4 a thros amser ehangodd Matthew yr arloesi digidol ar draws y garfan gyfan o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 3 a 4. Meddai Matthew: “Unwaith ro’n i wedi ymgyfarwyddo â defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu effeithiol o fewn Flip ro’n i’n gallu trosglwyddo’r wybodaeth i Athrawon Newydd Gymhwyso yn ystod cyfarfod ac i holl staff yr ysgol yn ystod cyfarfod staff.” Dros amser, bydd staff a dysgwyr yn parhau i addasu ac ymgyfarwyddo mwy ag ap Flip ac yn ei ddefnyddio i’w lawn botensial.

 

Y Canlyniadau

Er gwaethaf rhai anawsterau cychwynnol, mae’r arloesi digidol wedi cael ymateb cadarnhaol. Matthew sy’n egluro: “Fe wnes i roi cyflwyniad am fy nghanfyddiadau a manteision defnyddio Flip ar gyfer asesu i grŵp o Athrawon Newydd Gymhwyso, a gafodd ei ganmol gan gyn-bennaeth Ysgol Gyfun Treforys. Er bod y prosiect wedi newid mymryn, roedd y manteision yn amlwg gan fod lefel ymgysylltiad dysgwyr yn uchel, yn enwedig ymysg y rhai nad ydyn nhw’n ymgysylltu fel arfer.” O ganlyniad i’r canfyddiadau cychwynnol hyn, mae’r ysgol wedi prynu mwy o iPads i ddosbarthiadau eraill a bydd Flip yn parhau i gael ei ddefnyddio fel adnodd asesu. I hyrwyddo hyn ymhellach, mewn cyfarfod staff diweddar, darparwyd hyfforddiant i holl staff Ysgol Gynradd y Clâs ar sut i ddefnyddio Flip gan Matthew gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd yn ystod y prosiect. Mae’n nodi: “Roedd y Grant Arloesedd yn allweddol i lansio Flip yn llwyddiannus gan na fyddai gennym yr arian i’m rhyddhau i ar gyfer yr hyfforddiant nac ar gyfer y ddau iPad a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer Flip yn unig fel arall. Doedd dim rhaid ailbwrpasu’r ardal ddigidol o ganlyniad ac roedd yn ychwanegu ardal ychwanegol bwrpasol at ddibenion asesu Flip.”

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan yr arloesi digidol sydd wedi’i feithrin yn Ysgol Gynradd y Clâs. Er bod y prosiect wedi profi rhai heriau cychwynnol, llwyddwyd i oresgyn y rhain yn fuan a nawr mae’r dysgwyr a’r staff yn gallu gweld y manteision o roi prosesau dysgu ar-lein. Bydd hyn yn gwneud dysgu’n fwy hygyrch ac yn sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn cael ei fonitro’n haws fel bod yr holl ddysgwyr yn cael cyfle cyfartal i wella ac ennill hyder. Dim ond gwella wnaiff y broses hon wrth i amser fynd heibio. Gyda mwy o amser a hyfforddiant gloywi, mae’r ysgol yn gobeithio y bydd Flip yn disodli’r taflenni ‘Profwch Hynny’ yn gyfan gwbl i’r holl ddysgwyr. Matthew sy’n ymhelaethu: “Y camau nesaf fydd cefnogi’r holl ymarferwyr sydd angen cymorth a datrys problemau a fydd yn codi, fel gosod rhaglenni ar draws yr holl ddyfeisiau. Byddaf hefyd yn edrych i greu pro forma o fewn Flip y gellid ei ddefnyddio ar draws yr ysgol i asesu dealltwriaeth dysgwyr ac amlinelliad o system farcio bosibl.”

 

Cyngor i Eraill

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cefnogi llawer o ysgolion yng Nghymru ar eu taith arloesi, a meddai Matthew: “Pwynt allweddol i’w gofio wrth sefydlu rhaglen ddigidol newydd yw gadael digon o amser ar gyfer unrhyw broblemau a all godi.

“Mae’n bwysig cynnwys eraill yn y Llwybr Arloesedd am sawl rheswm:

  • Mynediad at adnoddau a chymorth
  • Twf proffesiynol
  • Deilliannau gwell i fyfyrwyr
  • Mynd i’r afael â heriau addysgol

Gall bod yn rhan o’r rhaglen a dechrau ar daith arloesi fod yn brofiad llawn boddhad i addysgwyr sy’n ymrwymo i wella’r system addysg.

Dylai arloesi digidol fod yn flaenoriaeth mewn addysg i wella’r dysgu trwy ei wneud yn ddifyr, yn rhyngweithiol ac yn hygyrch i bawb. Mae’n gallu gwella effeithlonrwydd hefyd sy’n gallu symleiddio tasgau gweinyddol a’u galluogi i ganolbwyntio ar addysgu a dysgu. Yn anad dim, mae’n ein paratoi ar gyfer y dyfodol, ac wrth i’r byd fynd yn fwyfwy digidol, mae angen i ni baratoi ein dysgwyr drwy ddarparu’r sgiliau y byddan nhw eu hangen mewn byd sy’n prysur newid.”

 

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesedd ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos