Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Pontlliw

Teitl y ddarpariaeth arloesi: “A all strategaethau ymarfer adalw cefnogi dysgu ac adalw geiriau sillafu aml iawn, ac yn ei dro ddatblygu hyder mewn sillafu?”

Dyddiad y ddarpariaeth arloesi: Llwybr Arloesedd Rhagfyr 2021

Mae sillafu wedi bod yn rhan annatod o addysg ers tro, o wneud marciau yn y blynyddoedd cynnar hyd at CA3 a thu hwnt. Yn ein lleoliad ein hunain, fe wnaethom ddefnyddio detholiad o weithgareddau ymarfer sillafu sydd wedi dod o ffynonellau fel ymgynghorwyr addysgol a strategaethau a ddefnyddiwyd ers tro. Roedd ein cwestiwn ymchwil wedi’i nodi fel maes i’w ddatblygu ar gyfer ein hysgol oherwydd er bod sgorau sillafu wedi aros yn gymharol sicr, roeddem yn teimlo nad oedd rhai geiriau bob amser yn cael eu cofio a’u defnyddio mewn ysgrifennu annibynnol. Ein nod oedd gweld, trwy ddefnyddio strategaethau ymarfer adalw, y gallem wreiddio’r sillafiadau hyn yn ddyfnach, gyda’r nod o gefnogi datblygiad sillafu ar draws yr ysgol gyfan.

Fe wnaethom greu cynllun ymyrraeth i wella’r gallu i alw geiriau ‘Amlder Uchel’ i gof a dadansoddi ein gweithgaredd trwy ddata sgôr a holiaduron hyder yn ymwneud â sillafu. Defnyddiwyd y canfyddiadau hyn wedyn i ddatblygu ein haddysgu sillafu y tu hwnt i eiriau amlder uchel.

Trwy’r ymchwil gweithredu hwn, canfuom fod mwyafrif y plant yn dangos gwelliant yn eu sgorau sillafu a hefyd yn eu hyder wrth ddefnyddio sillafu yn eu hysgrifennu eu hunain. Rydym hefyd wedi canfod ers cyflwyno’r ddarpariaeth i gymuned ehangach yr ysgol fod staff wedi arsylwi canlyniadau tebyg ac wedi nodi bod disgyblion yn gwneud cynnydd ac yn cymryd mwy o ran yn eu sesiynau sillafu.

Trwy’r prosiect hwn fe wnaethom sawl darganfyddiad arweinyddiaeth allweddol:

  • Mae addasu yn bwysig.
  • Mae gweithio rhwng y Cyfnod Sylfaen a CA2 yn fwy cymhleth na dim ond newid ychydig o weithgareddau.
  • Mae amserlennu a strwythur yn chwarae rhan fawr mewn ymchwil.
  • Ac mae pethau eraill yn rhwystr!

Yn ogystal, dysgom sawl gwers y tu hwnt i’n prif ffocws o wella sillafu. Ochr yn ochr â gwneud newidiadau i’n dull o gyflwyno ac asesu sillafu ar draws yr ysgol gyfan, fe wnaethom hefyd ddechrau datblygu diwylliant o ymholi proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys cefnogi staff i ddatblygu’r hyder i ymgymryd â’u hymholiadau a’u hymchwil eu hunain yn ogystal â llunio fformat dogfennaeth gytûn i staff adrodd ar eu canfyddiadau.

Clywsom am gyllid y Llwybr Arloesedd drwy ein cylchlythyr addysg sirol wythnosol. Roeddem eisoes yn y broses o wneud rhywfaint o ymchwil gweithredu ac yn teimlo y byddai’r cymorth ychwanegol hwn o fudd i’n prosiect. Roedd y cais yn hynod o syml i’w wneud gan ei fod wedi’i osod yn glir gyda’r wybodaeth ofynnol, ac yn caniatáu digon o sgôp i ni ddarparu digon o fanylion am ein prosiect. Galluogodd y grant gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ni i weithio ar y cyd ag asiantaethau allanol a chydweithwyr eraill yn ein lleoliad trwy ddarparu amser i gynnal ymchwil, asesiadau a rhoi strategaethau ymyrraeth ar waith.

Roedd cyfathrebu â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn ardderchog, ac roeddent yn cefnogi ein cais yn llawn. Roedd y Cyllid Llwybr Arloesedd yn amhrisiadwy o ran ein galluogi i gynnal ymholiad proffesiynol. Dylai rhwyddineb gwneud cais ac argaeledd cyllid fod yn gynnig deniadol i unrhyw un sy’n dymuno datblygu ymholiad o fewn eu lleoliad eu hunain. Ar ôl cael profiad mor gadarnhaol o weithio gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, byddai cydweithredu yn y dyfodol yn cael ei groesawu ac rydym yn cefnogi ac yn annog ein holl staff i ymgysylltu â chyfleoedd a ddarperir gan y sefydliad.

Pontlliw Primary School Research Poster

www.pontlliwprimary.co.uk

Twitter icon @PontlliwPrimary

Pob Astudiaethau Achos