Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Penglais

LPL GreenYsgol Penglais

Yn bwrpasol ar gyfer ymarferwyr ac yn cael ei lywio ganddynt

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Penglais yn ysgol gyfun gymysg yn Aberystwyth gyda thua 1,200 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys tua 270 yn y chweched dosbarth. Sefydlwyd yr ysgol ym 1973 ac mae’n addysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf.

 

Dull gweithredu

Ein nod oedd datblygu diwylliant sy’n sicrhau bod staff yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Roeddem am sefydlu diwylliant anfeirniadol sy’n canolbwyntio ar addysgu a dysgu, rhannu ymarfer da, buddsoddi amser mewn datblygu addysgeg, a sicrhau bod cydweithwyr yn cymryd perchnogaeth o’u datblygiad eu hunain.

Dechreuodd ein taith i ddatblygu dysgu proffesiynol bedair blynedd yn ôl ym mis Medi 2017 pan roddwyd mwy o berchnogaeth i gydweithwyr o safbwynt sut maen nhw’n cyfrannu at ddysgu proffesiynol. Hefyd, cyflwynwyd grwpiau ymchwil yn cynnwys ein holl gydweithwyr fel bod modd iddynt gyfrannu at newid yn Ysgol Penglais.

Ym mis Medi 2018, aethom ati i roi mwy o berchnogaeth i gydweithwyr er mwyn eu helpu i weithio’n effeithiol yn eu cyfadrannau. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Gweithio mewn cyfadrannau i ddatblygu eu polisïau asesu eu hunain. Penderfynwyd rhoi’r gorau i raddio unrhyw wersi wrth arsylwi arnynt, gan ganolbwyntio yn hytrach ar ansawdd y drafodaeth broffesiynol a ddeilliodd ohonynt.
  • Roeddem yn parhau i gynnig arweiniad a chyfarwyddyd ‘o’r brig i lawr’ yn ymwneud â blaenoriaethau addysgu a dysgu, ochr yn ochr â’r bwriad i ddatblygu arweinwyr cyfadrannau sy’n cymryd mwy o berchnogaeth oddi mewn i’w cyfadrannau.
  • Aethom ati i annog cydweithwyr i ddechrau cyfrannu a rhannu syniadau yn ein sesiynau briffio ddwywaith yr wythnos yn ymwneud â Chynhwysiant ac Addysgu a Dysgu.

Erbyn mis Ionawr 2018 roeddem yn cefnu ar arddull cyfarwyddo arweinyddiaeth. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Datblygu cydweithwyr mewn dulliau ymarfer adferol.
  • Cydweithwyr yn gwneud mwy o gyfraniad at sesiynau HMS (gweithdai/arddull marchnad).
  • Cyflwyno cydweithwyr i’r broses hyfforddi er mwyn datblygu eu haddysgu.

Ym mis Medi 2019, datblygwyd amcanion datblygiad proffesiynol sy’n gysylltiedig ag addysgu ac arweinyddiaeth gyda phwyslais ar y safonau, gan gynnwys arweinyddiaeth ar gyfer pob cydweithiwr. Aeth yr Adran Fathemateg ati i dreialu dulliau gwahanol o ymchwilio i ddatblygiad gwybyddol, gan ddechrau addysgu rhannau o’u gwersi mewn ffordd ‘ddistaw’. Rhannodd cydweithwyr y canlyniadau gyda’r holl staff trwy sesiynau briffio a HMS.

Ym mis Medi 2020, aethom ati i ystyried sut y gallem wneud ein dysgu proffesiynol yn fwy pwrpasol. Defnyddiwyd oriau gwyll yn unigol neu gan adrannau i ddatblygu eu hymarfer. Cafwyd amrywiaeth o weithgareddau – roedd rhai cydweithwyr yn ymgymryd â hyfforddiant ar-lein, eraill yn gwneud gwaith ymchwil, a phenderfynodd eraill gael hyfforddiant yn yr adran a’i rannu yn ystod cyfarfodydd. Er enghraifft, penderfynodd yr Adran Fathemateg astudio agweddau gwahanol ar ymchwil yn eu pwnc cyn rhannu’r canfyddiadau mewn cyfarfodydd cyfadran. Trefnodd yr adran ieithoedd sesiwn hyfforddi ac addysgeg amser cinio bob dydd Mercher am 30 munud er mwyn trafod, rhannu a chefnogi’r broses o roi ymarfer da ar waith.

Cafodd COVID-19 effaith enfawr ar y genedl, a dangosodd y cyfnod hwn sut mae ysgol yn gallu gwella ei hun. Datblygwyd ein DPP mewn ffordd effeithiol iawn. Roedd rhywfaint o’r gwaith hwn yn cynnwys:

  • Cylchlythyr wythnosol ar ymarfer da yn cynnwys dolenni defnyddiol i gydweithwyr, heb deimlo y byddant yn ‘gwneud smonach ac yn methu’.
  • Sgrinlediadau a chyflwyniadau ar sut i ddatblygu dysgu byw a dysgu cyfunol.
  • Cydweithwyr, gan gynnwys ANG, yn gwneud cyflwyniadau yn y sesiynau briffio ar-lein.
  • Gweithiodd cyfadrannau gyda’i gilydd yn wythnosol i ddatblygu adnoddau a chefnogi dysgu cyfunol a dysgu byw, gan rannu eu recordiadau er mwyn datblygu dulliau addysgu sy’n seiliedig ar ddysgu cyfunol.
  • Datblygwyd diwylliant agored a thryloyw yn ein trafodaethau pan nad oedd yr addysgu cystal â’r disgwyl.

Ym mis Mehefin 2021, roeddem yn awyddus i weld sut y gallem ddatblygu ein harddull arweinyddiaeth Atebolrwydd Deallus. Fel Uwch Dîm Arweinyddiaeth, aethom ati i ddarllen llenyddiaeth ar Atebolrwydd Deallus, ac arweiniodd hyn at drafodaethau mewn cyfarfodydd ar sut y gallem gyflwyno rhywbeth tebyg yn Ysgol Penglais. Yna, cyflwynwyd hyn i’n tîm arweinyddiaeth estynedig a gofynnwyd am wirfoddolwyr i sefydlu gweithgor yn cynnwys ystod o rolau yn yr ysgol er mwyn datblygu’r manylion a’r dull gweithredu.

Ers mis Medi 2021, mae’r cysylltiad rhwng blaenoriaethau ysgol gyfan, amcanion datblygiad proffesiynol, dysgu proffesiynol, sicrhau ansawdd ac atebolrwydd yn llawer cliriach, ac mae wedi’i ddatblygu mewn ffordd sy’n cefnogi ymreolaeth staff ac yn gwella cymhelliant.

Pob Astudiaethau Achos