Ar fy nhaith arweinyddiaeth, mae dysgu barhaus wedi bod yn allweddol, i ddatblygu fy ngwybodaeth ac i ehangu fy nghanfyddiad o arweinyddiaeth a’r effaith y mae’n ei chael ar ysgolion. Rwyf wedi dechrau ar fy mhedwaredd brifathrawiaeth yn ddiweddar, ar ôl cael y cyfle o’r blaen i arwain Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James ac Ysgol Pencae. Ym mhob ysgol, mae fy sgiliau arwain wedi addasu i anghenion y sefydliad ac rwyf wedi newid fy arddull arwain yn unol â hynny. Fy marn onest i yw nad yw arweinyddiaeth yn graff syml o gynnydd yn mynd i fyny ar inclein gadarnhaol ond yn hytrach yn ffordd greigiog yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Taith na fyddwn i’n ei newid i’r byd.
Ar hyn o bryd, myfi yw Pennaeth Ysgol Gynradd Groes-wen. Nid ysgol newydd yn unig fohoni, mewn maestref newydd sbon yng Nghaerdydd ond mae hefyd yn fodel ysgol newydd. Rwy’n teimlo’n freintiedig i fod wedi derbyn cais i arwain menter mor gyffrous, newydd ac arloesol. Mae’r cyfle i ddatblygu’r Gymraeg mewn bro newydd sbon ac i wreiddio’r diwylliant yng nghalon cymuned nad oedd yn bodoli o’r blaen yn anhygoel.
Ond beth sy’n fy ngwneud yn barod ar gyfer yr her newydd hon? Beth sy’n fy ngalluogi i gredu y gallaf gyflawni a gwneud llwyddiant o’r fenter newydd hon?
Rwyf wedi torri hyn i lawr i bedwar pwynt a fydd, gobeithio, yn eich cefnogi ar eich taith arweinyddiaeth eich hun.
Mae angen gwneud yn glir nad yw dysgu byth yn dod i ben, y funud y credwch eich bod yn gwybod popeth sydd i’w ddysgu, dyna’r amser i ymddeol! O fy mhrifathrawiaeth gyntaf yn 2008 dechreuais ddatblygu fy sgiliau fel arweinydd. Ymunais â chwrs oedd yn cael ei redeg gan wasanaeth cynghori lleol, ‘Bod yn Bennaeth newydd’ a phenderfynais ddarllen cymaint ag y gallwn am arweinyddiaeth ond nid gan y rhai mewn addysg yn unig. Y pwynt yw, rydyn ni’n tyfu fel arweinwyr wrth wrando ar eraill. Rwyf wedi achub ar y cyfle i dderbyn secondiadau yn ystod fy ngyrfa ac mae hyn wedi rhoi’r lle i mi dyfu fel person ac fel arweinydd. Rwyf wedi bod yn arweinydd systemau, yn ymgynghorydd her, yn arweinydd arweinyddiaeth ac yn arweinydd ar gyfer y Gymraeg yn y Consortiwm Canolbarth y De. Roedd cymryd yr awenau ar arweinyddiaeth yn her aruthrol ond roedd yn gyfle i weithio gyda chydweithwyr ledled Cymru, dysgu gan y goreuon a gwneud yn siŵr bod rhaglenni datblygu’n cael eu creu ym mhob agwedd ar arweinyddiaeth. Yn yr un modd â phopeth, efallai na fyddwch bob amser yn cytuno â’r negeseuon rydych chi’n eu clywed ond yn aml iawn mae’n ymwneud â’r rhwydweithiau rydych chi’n eu creu a’r sgyrsiau proffesiynol sy’n digwydd a all wirioneddol eich ysbrydoli i’r cam nesaf ar eich taith. O ran datblygiad proffesiynol a drawsnewidiodd fy arweinyddiaeth, byddwn yn cyfyngu hyn i reoli newid a chymell.
Ymddiheuraf am yr hyn sy’n ymddangos yn amlwg fodd bynnag pan fyddaf wedi gweithio gydag ysgolion sydd angen cymorth, yn aml y cyfathrebu sy’n torri lawr yn gyntaf ac mae’n arwain at droell o negyddiaeth. Yn y cyd-destun hwn, mae cyfathrebu’n golygu i bob rhanddeiliad. I arweinydd lwyddo, mae hynny drwy fod â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol, boed hynny o ran rhannu neges bwysig neu fel arall. Dydw i ddim bob amser wedi bod yn llwyddiannus yn fy nghyfathrebu, yn fy llythyr cyntaf un at rieni yn fy mhrifathrawiaeth gyntaf, roedd awtocywir wedi newid yr angen am wellies yn y Cyfnod Sylfaen i willi. Rwy’n siŵr y gallwch chi lenwi’r bylchau. O’r camgymeriad syml hwn, ar noson allan adeiladu tîm gyda’r staff, aethon ni i fowlio, ac fe wnaethon nhw roi fy enw i fel Mr Willi…. Roedd hyn yn torri unrhyw iâ ac roedd adeiladu tîm ymhell ar y ffordd. Fodd bynnag, mae camgymeriadau’n digwydd, ond sut rydych chi’n ymateb sy’n gallu eu galluogi i gael effaith gadarnhaol ar y daith ddysgu. Mae angen eglurder ar ddisgyblion, rhieni a’r Corff Llywodraethol. Gwnewch ddisgwyliadau yn hysbys, rhannwch feddyliau, addaswch yn ôl trafodaethau agored a gwnewch yn siŵr nad yw awtocywir yn newid eich sillafu!
Efallai, yn fwy na dim, hyn sydd yn hollbwysig i’ch llwyddiant. Mae’n hawdd darllen sut i fod yn arweinydd a cheisio addasu i’r holl dueddiadau diweddaraf ond mae bod yn driw i chi’ch hun yn fwy anodd. Beth yw eich gweledigaeth? Beth sy’n eich gyrru i gyflawni? Pa werthoedd sy’n agos at eich calon? Pan es i am fy swydd Ddirprwy Bennaeth cyntaf, roedd fy adborth yn nodi fy mod yn swnio fel gwerslyfr ac nad oeddwn yn rhannu unrhyw beth ohonof fy hun. Cymerais hyn i galon a newidiodd fy safbwynt yn llwyr. Rwy’n credu’n gryf mewn dathlu Diwylliant Cymreig, gan ddarparu cyfleoedd i’r Gymraeg, i greu amgylchedd cynnes a gofalgar lle mae gan bawb lais. Roedd hyn yn golygu bob tro roeddwn i’n mynd am gyfweliad roeddwn i’n rhannu fy ngweledigaeth fy hun gydag addasiad ar gyfer ardal, cymuned ac anghenion yr ysgol. Os na chefais y swydd yna nid oedd fy ngweledigaeth yn iawn ar gyfer yr ysgol ac felly nid oedd yr ysgol yn iawn i mi. Byddwn yn awgrymu y dylai arweinwyr ysgolion fod â ffydd yn eu credoau ac er y gallai newidiadau cynnil ddigwydd, yn y pen draw, bydd bod yn driw i chi’ch hun yn caniatáu ichi fod yr arweinydd yr ydych am fod.
Pan ddechreuais fy mhrifathrawiaeth gyntaf roeddwn i eisiau bod yn bopeth i bawb bob munud o’r dydd. Roedd gen i staff ifanc oedd angen datblygiad, roedd angen i mi greu tîm arwain ond roeddwn yn teimlo bod angen i mi fod y person a oedd ym mhobman drwy’r amser. Yn sicr nid oedd hwn yn fodel cynaliadwy ac yn un yr wyf wedi ceisio osgoi ei hailadrodd ond weithiau mae hen arferion yn marw’n galed. Roedd dirprwyo yn sgil i’w ddysgu, i’w drysori ac i’w ddatblygu.
Mae bod yn Siwper Ddynol hefyd yn awgrymu y byddwch chi’n cael popeth yn iawn, fodd bynnag un o’r gwersi pwysicaf (fel y nodir uchod), yw dysgu o’ch camgymeriadau eich hun. Fel pawb arall, rydw i wedi gwneud camgymeriadau ond rydw i wedi mesur fy effaith yn ôl sut rydw i wedi ymateb iddyn nhw. Beth allwn i fod wedi ei wneud yn well? Sut gallwn i wella fy agwedd at sefyllfa? Yn syml iawn, dysgwch o gamgymeriadau a cheisiwch beidio â’u cymryd i galon fel ei fod yn effeithio’n negyddol ar y ffordd rydych chi’n symud ymlaen. Gall fod yn haws dweud na gwneud hyn ond rhaid i chi geisio cadw popeth mewn persbectif bob amser.
Yn olaf, pan fydd pethau’n mynd yn llethol, dysgwch i gerdded i ffwrdd ac edrych at gyfoedion, ffrind neu gefnogaeth broffesiynol i gadw’ch hun yn wastad.
Mae bod yn arweinydd mewn ysgol yn fraint ni ddylai hynny byth gael ei chymryd yn ganiataol. Wrth wraidd popeth a wnawn mai lles a chynnydd pob disgybl yn ein gofal. Weithiau mae’n llawer rhy hawdd i gofio y cwynion, y dyddiau tywyll, yr amseroedd unig yn lle rhoi ffocws ar y dyddiau arbennig hynny pan fydd plentyn yn darllen llyfr am y tro cyntaf, pan fydd eich tîm chwaraeon yn falch o fod wedi cystadlu mewn cystadleuaeth, pan fydd plentyn yn perfformio ar y llwyfan yn yr Eisteddfod a phan fydd rhieni yn dweud Diolch!
Richard Carbis, Pennaeth, Ysgol Gynradd Groes-wen