Skip to main content
English | Cymraeg

Cenhadaeth Amlgyfrwng

Ysgol Gynradd Pilgwenlli

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad â Martin Worgan, Athro Uwch Arweinyddiaeth yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli, i ganfod sut y clywodd am y Grant Arloesedd trwy dderbyn ein negeseuon e-bost llawn gwybodaeth, gan ddysgu ynddyn nhw am fanteision datblygu a meithrin arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.

 

Y Broblem

Gellir datblygu arloesedd digidol mewn sawl ffordd, ac roedd Ysgol Gynradd Pillgwenlli eisiau cyflwyno arloesedd digidol newydd trwy weithgareddau amlgyfrwng i’w dysgwyr. Mae manteision gweithgareddau amlgyfrwng yn glir, maen nhw’n annog dysgwyr i weithio’n greadigol ac ar y cyd, mynegi eu gwybodaeth mewn sawl ffordd, datrys problemau ac adeiladu gwytnwch. Eglurodd Martin: “Roedden ni am ehangu ein darpariaeth amlgyfrwng o fewn yr ysgol fel bod mwy o’n dysgwyr yn cael mynediad at y maes dysgu hwn fel bod y sgiliau hyn yn gwella ledled yr ysgol mewn cyd-destunau ystyrlon dros amser.”

Daeth y syniad ar gyfer gweithgareddau amlgyfrwng gan fod gan yr ysgol ddyfeisiau nad oedd yn cael eu defnyddio’n effeithiol oherwydd diffyg meddalwedd a rhaglenni. Esboniodd Martin fod yr ysgol am ddatblygu’r defnydd o raglenni Adobe Creative Cloud ar gyfer tudalennau gwe, fideo, logos ac er mwyn adrodd straeon digidol gan ddefnyddio animeiddio a ffilmiau. Ychwanegodd: “Roedd dysgwyr yn aml yn cael anhawster gyda rhai gweithgareddau a oedd yn gofyn am wrando ar gynnwys neu recordio eu llais eu hunain. Roedden ni am ddarparu clustffonau a oedd yn gwella’r cyfle i ddysgwyr fod yn annibynnol wrth ddysgu ac i wella ansawdd y tasgau a fynnai llafaredd digidol.” Roedd Ysgol Gynradd Pillgwenlli am ddefnyddio’r Grant Arloesedd i brynu trwyddedau Stop Motion Pro ar gyfer iPads fel bod yr ystod lawn o nodweddion animeiddio amlgyfrwng yn hygyrch, yn ogystal ag adnoddau eraill fel stondinau, meicroffonau a chlustffonau. Byddai’r cyllid yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio amrywiaeth o wahanol dechnolegau, megis camerâu fideo, iPads, iMacs a Chromebooks, ac yn eu helpu i ymgysylltu â’r gymuned a hyrwyddo seiberddiogelwch. Yn ei dro, byddai hyn yn darparu cyfleoedd dysgu ac addysgu o ansawdd uchel a fyddai’n arwain at ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, gan ganiatáu i’r dysgwyr ddatblygu sgiliau cymdeithasol, galluoedd datrys problemau, creadigrwydd, cyfathrebu, cadernid ac annibyniaeth – sgiliau y gellir eu trosglwyddo’n rhwydd ar draws cwricwlwm yr ysgol.

 

Y Fethodoleg

Derbyniodd Ysgol Gynradd Pillgwenlli ein Grant Arloesedd ym mis Hydref 2022, a’r nod oedd sefydlu’r prosiect arloesedd digidol yn llawn erbyn diwedd tymor y Gwanwyn 2023. Ond dechreuodd taith arloesedd digidol yr ysgol mewn gwirionedd cyn mis Hydref 2022 pan aeth ati i ddefnyddio’r Hwb Technoleg Addysg i ddechrau i gynyddu darpariaeth ddigidol dyfeisiau i ddysgwyr. Y cam nesaf oedd sicrhau bod gan y dyfeisiau hynny’r feddalwedd a’r rhaglenni cywir i ganiatáu i’w cwricwlwm digidol ffynnu’n llawn a darparu tasgau cyfoethog, dilys i ddysgwyr a oedd yn gwella eu sgiliau amlgyfrwng. Diolch i’r Grant Arloesedd, roedd modd i’r ysgol brynu trwyddedau ar gyfer mwy o ddyfeisiau i ddefnyddio Stop Motion ar iPads ac iMacs. Gyda chefnogaeth Screen Alliance Wales, a helpodd i greu ffilmiau byr cydweithredol gydag ysgolion ar draws yr ardal, llwyddodd 76 o ddysgwyr Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Pilgwenlli i gymryd rhan yn y prosiect ffilm ynghyd â phedwar aelod o staff. Bu’r dysgwyr a’r staff yn cymryd rhan mewn gwersi byw wythnosol gyda thasgau dysgu ychwanegol yn cael eu cynnal rhwng dilyn ffocws y gwersi.

O ganlyniad i’r arloesedd digidol newydd hwn, mae ymagwedd addysgeg yr ysgol at ddysgu ac addysgu wedi newid er gwell ac wedi caniatáu i’r dysgwyr ddod yn fwy annibynnol gyda’u tasgau a’u taith ddysgu. Fodd bynnag, yn ôl Martin, cafwyd sawl her ar hyd y daith: “Roedd gennym Ystafell Amlgyfrwng bwrpasol a oedd yn cynnwys iMacs ac ardal ar gyfer gweithgareddau digidol. Ni ddefnyddiwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol oherwydd byddai’n ofynnol i aelod o staff fynd â grwpiau i’r gofod hwn a doedd dim modd i ni hwyluso hyn. Felly, symudon ni’r iMacs i leoliad newydd fel y gellid eu defnyddio’n rheolaidd ar gyfer dysgu a gweithgareddau amlgyfrwng a gynlluniwyd i gael eu cynnal yn yr ystafelloedd dosbarth.” Mae technoleg wedi chwarae rhan bwysig gan ddarparu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli ddysgu a chymhwyso sgiliau amlgyfrwng digidol yn rheolaidd.

 

Y Canlyniadau

Er bod y prosiect cychwynnol wedi dod i ben, mae canlyniadau’r arloesedd digidol yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli ar waith o hyd. Ledled yr ysgol, mae mwy o ddarpariaeth bellach i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau amlgyfrwng. Fodd bynnag, cafodd y prosiect yr effaith fwyaf ar ddysgwyr Blwyddyn 6 a gymerodd ran yn y fenter arloesedd digidol i ddechrau. Fe ddysgon nhw ystod newydd o sgiliau a phrofiadau, gan gynnwys synau Foley, sgiliau sgriptio, creu bwrdd stori, effeithiau arbennig, sgrin werdd a golygu i greu ffilmiau byr. Ar ddiwedd y project, cafodd dysgwyr Blwyddyn 6 gyfle i ymweld â stiwdios y BBC yng Nghaerdydd. Meddai Martin: “Mae’r prosiect, ynghyd â’r ymweliad â’r stiwdios, wedi helpu i godi dyheadau llawer o ddysgwyr, rhai ohonyn nhw o gefndiroedd difreintiedig. Maen nhw wedi cael cipolwg ar ddiwydiant sy’n cynnwys llawer o wahanol rolau a sgiliau sy’n cyfateb i’w hymgysylltiad â’r prosiect.

Roedd y rhai a oedd am actio yn gallu gwneud hynny trwy fynd o flaen y camera a llwyddodd dysgwyr tawelach i ymgymryd â rolau eraill fel ffilmio neu sgriptio. Roedd hyn yn golygu bod y dysgwyr yn gallu defnyddio eu cryfderau a chymhwyso eu hunain mewn meysydd yr oedd eu personoliaethau’n addas ar eu cyfer.”

O ganlyniad, mae’n amlwg bod y prosiect hwn wedi cael effaith ar wella sgiliau llafaredd yn ogystal â sgiliau digidol dysgwyr a oedd yn aml yn dawelach yn y dosbarth, ond sydd bellach yn fwy hyderus wrth recordio eu lleisiau eu hunain yn breifat. Roedd eraill hefyd yn gweld y manteision a gafodd y Grant Arloesi ar yr ysgol. Ar ôl cynnal première ffilm ar gyfer teuluoedd y dysgwyr a fu’n gwirfoddoli, gwnaed llawer o sylwadau gan y rhieni am ba mor greadigol oedd y ffilmiau, gydag un fam yn dweud ei fod yn “un o’r prosiectau gorau iddi weld ei phlentyn yn cymryd rhan ynddo” ac na allai gredu bod y gwaith i gyd wedi’i wneud gan y dysgwyr. Roedd gan Rhys Bebb, Rheolwr Addysg a Hyfforddiant y Gymraeg yn Screen Alliance Wales, sylwadau cadarnhaol i’w rhannu hefyd; Meddai Rhys: “Mae’n wych pan fyddwn yn gweithio gydag ysgolion brwdfrydig fel Ysgol Gynradd Pilgwenlli sy’n manteisio i’r eithaf ar y rhaglen.”

Fel y soniwyd eisoes, mae’r ysgol yn dal i elwa ar ganlyniadau’r prosiect hwn ac mae gan Martin gynlluniau mawr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Meddai: “Fel ysgol, rydyn ni’n hynod hapus gyda chanlyniadau’r ffilmiau a gynhyrchodd y dysgwyr. Byddwn yn parhau i adolygu’r ddarpariaeth a’r profiadau dysgu ar gyfer gweithgareddau amlgyfrwng drwy’r ysgol a bydd y prosiect cychwynnol yn parhau i ddylanwadu ar ddysgu ein dysgwyr wrth i’r staff dan sylw adeiladu cynnwys tebyg i’w cwricwlwm yn y dyfodol.”

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan yr arloesi digidol sydd wedi’i feithrin gan Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Er i arloesedd digidol yr ysgol ddechrau gyda’u dosbarth Blwyddyn 6, yn y dyfodol, bydd mwy o ddysgwyr o bob rhan o’r ysgol yn cael cyfle i ddefnyddio’r feddalwedd a’r dyfeisiau er mwyn gwella eu sgiliau amlgyfrwng. Bydd hyder a galluoedd staff hefyd yn gwella wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddynt oherwydd fe fyddant yn agored i fwy o ddysgu proffesiynol gyda thîm cwricwlwm STEM i ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o weithgareddau amlgyfrwng y gellir eu defnyddio gyda’u dysgwyr. O ran y dyfodol, ychwanega Martin: “Byddwn yn mapio’r gweithgareddau a’r profiadau amlgyfrwng ledled yr ysgol i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu. Yn dilyn hyn, byddwn yn dathlu ac yn rhannu arfer da, gan gefnogi lle bo angen.” Mae’n wych gweld Martin a gweddill Ysgol Gynradd Pilgwenlli yn frwd am ddatblygiad arloesedd digidol yn yr ysgol, ac mae’n well byth gweld bod ganddyn nhw gynllun effeithiol ar waith ar gyfer y prosiect er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu yn y dyfodol.

 

Cyngor i Eraill

Mae bob amser yn ddiddorol clywed pa wersi sy’n cael eu dysgu gan wahanol ysgolion ar ôl eu prosiect arloesedd digidol. Mae Martin yn esbonio bod dangos hyblygrwydd a gallu dysgu sut i addasu yn bwysig iawn gan y gallai cyfleoedd godi i esblygu ac adeiladu ar syniad cychwynnol y prosiect er gwell, a hyd yn oed os aiff pethau o chwith, mae cyfle yr un fath i ddysgu a defnyddio’r cyfan fel canllaw ar gyfer y tro nesaf. Meddai Martin: “Roedd yn weddol hawdd gwneud cais am y Grant Arloesedd ac fe wnaeth y dysgwyr elwa’n fawr gan fod y cyllid yn caniatáu i grŵp blwyddyn gyfan gymryd rhan mewn prosiect gwerthfawr a oedd yn caniatáu iddyn nhw adeiladu nid yn unig eu sgiliau digidol ond hefyd sgiliau bywyd hanfodol eraill.

Gall y cyllid helpu gydag unrhyw flaenoriaeth ddigidol sydd gan ysgol ar adeg pan fo ysgolion yn wynebu anawsterau ariannol. Bydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr brofi gweithgareddau a all wella sgiliau digidol a sgiliau allweddol eraill fel llafaredd, perthnasoedd personol, cadernid a datrys problemau sy’n bwysig yn ein cymdeithas heddiw.”

Mae’r sgiliau a ddysgodd y dysgwyr drwy gymryd rhan yn y prosiect yn drosglwyddadwy ar draws sawl maes o’r cwricwlwm a bywyd go iawn. Mae hyn yn bwysig iawn gan fod angen i ysgolion sicrhau eu bod yn paratoi dysgwyr ar gyfer cymdeithas sy’n newid yn barhaus, ac sy’n gynyddol ddigidol.

 

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesi ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos