Teitl y ddarpariaeth arloesi: Ymwybyddiaeth Ofalgar i Arweinyddion mewn Addysg
Dyddiad y ddarpariaeth arloesi:Llwybr Arloesi Awst 2019
Elizabeth Williams – learningmindfully@gmail.com
Rhoddodd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gefnogaeth frwd i ddatblygiad ein cwrs pwrpasol ar ymwybyddiaeth ofalgar, Ymwybyddiaeth Ofalgar i Arweinyddion mewn Addysg drwy’r Llwybr Arloesi. Mae’r cwrs yn cyflwyno sylfeini ymwybyddiaeth ofalgar ac yn cael ei gefnogi gan wybodaeth niwrowyddonol gyda chysylltiadau clir i sgiliau datblygu arweinyddiaeth.
Clywsom am y Llwybr Arloesi ar y cyfryngau cymdeithasol mewn neges yn atgoffa pobl mai dim ond pythefnos oedd ar ôl cyn dyddiad cau ceisiadau 2019. Arweiniodd hyn at ras yn erbyn amser i sicrhau ein bod ni’n cymryd rhan. Roedd cwblhau’r cais yn ysgogi’r meddwl – ac yn cymryd amser – ond fe’n galluogodd ni i werthuso a diffinio beth oeddem am ei wneud. Roedd y broses ymgeisio ei hun yn syml; roedd proses graffu’r Academi Arweinyddiaeth yn drylwyr, ond roedd y tîm yn llawer o gymorth ac yn gefnogol iawn bob amser.
Galluogodd cyllid y Llwybr Arloesi ni i ddod â’r tîm Ymwybyddiaeth Ofalgar i Arweinyddion mewn Addysg at ei gilydd i sicrhau’r profiad a’r arbenigedd amrywiol gorau posibl i greu rhaglen o ansawdd uchel wedi’i chefnogi gan ddeunyddiau o safon uchel. Golygodd y grant hefyd ein bod wedi gallu cyfieithu’r holl ddeunyddiau i’r Gymraeg ac wedi gallu gwerthuso effaith gyffredinol y rhaglen. Hyd yn hyn, mae 69 o gyfranogwyr wedi elwa ar y rhaglen; 47 yn y cyfnod peilot a 12 arall mewn cohortau dilynol.
Rydym yn gwneud cais am gymeradwyaeth gan yr Academi Arweinyddiaeth yn y cylch cyfredol ac yn gobeithio y byddwn yn cael y gydnabyddiaeth honno erbyn Mai 2021. Rydym yn teimlo bod cydnabyddiaeth trwy gymeradwyaeth yn darparu ‘marc ansawdd’ i ni y credwn y gellir ei gyfiawnhau gan ansawdd y ddarpariaeth rydym wedi’i datblygu ac ansawdd y tîm rydym wedi’i greu i ddarparu’r rhaglen. Mae cymeradwyaeth yn dynodi lefel o sicrwydd ansawdd ar gyfer darpar gyfranogwyr, yn arbennig ar gyfer darpariaeth arloesol.
“Yn y cyfnod rhyfedd ac anodd iawn hwn, mae’n haws PEIDIO â chymryd rhan a chwblhau’r math hon o raglen gan ei bod hi’n anodd neilltuo’r amser i fod yn ‘hunanol’ a gwneud rhywbeth i chi yn unig a’ch iechyd meddwl pan fo cymaint o bethau eraill yn dibynnu arnoch chi. Fodd bynnag, nid yw’r datganiad ‘rhowch fasg ocsigen arnoch chi eich hun yn gyntaf’ erioed wedi bod yn fwy gwir os yw arweinwyr i oroesi hyn heb ffrwydro. Mae cymaint o weithredoedd a phryderon pobl eraill yn cael eu gosod ar ein hysgwyddau ac rydym angen ac yn haeddu’r pecyn cymorth hunanofal gwerthfawr hwn.” – Pennaeth ysgol gynradd yn y gogledd