Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gyfun Mary Immaculate

LPL GreenYsgol Gyfun Mary Immaculate

Yn bwrpasol ar gyfer ymarferwyr ac yn cael ei lywio ganddynt

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Mary Immaculate yn ysgol gyfun Gatholig, cyfrwng Saesneg i bobl ifanc 11–16 oed sydd wedi’i lleoli yng Ngwenfô ar gyrion Caerdydd. Mae gan bron 40% y disgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae wedi mynd drwy gyfnod o welliant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddenu canmoliaeth gan Estyn a Gweinidogion Addysg.

 

Dull a gymerwyd

Mae Mary Immaculate yn defnyddio dull ‘ysgol gyfan’ o ran Dysgu Proffesiynol, gan gydweddu gweithgareddau â’r Safonau Addysgu Proffesiynol a’r dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol.

Bob blwyddyn, cynigir cyfres o sesiynau hyfforddi craidd ac opsiwn sy’n mynd i’r afael â meysydd i’w datblygu sy’n gweddu i’r cwricwlwm presennol a’r un newydd. Rhaid i bob aelod o staff gwblhau o leiaf 10 awr, a rhaid i 6 ohonyn nhw fod yn sesiynau craidd gyda’r nos.

Wedyn, gellir dewis y sesiynau opsiwn o bedwar maes i’w datblygu a nodwyd o asesiadau hunanwerthuso staff. Yn 2020-21 y meysydd hynny oedd:

  • Gwahaniaethu ar gyfer grwpiau o ddysgwyr
  • Dysgu cydweithredol a gweithredol
  • Anawsterau dymunol[1] ar draws y cwricwlwm
  • Asesu ar gyfer dysgu (modelu, cynnydd gweladwy ac adborth).

Caiff yr holl sesiynau eu cynnal yn fewnol a’u harwain gan aelod o’r tîm Addysgu a Dysgu. Goruchwylir y tîm gan y Pennaeth Cynorthwyol dros Addysgu a Dysgu, dan arweiniad Pennaeth Addysgu a Dysgu, gyda chefnogaeth tri Anogwr Dysgu ac Addysgu. Gellir cyflawni’r rôl Anogwr Dysgu ac Addysgu gan staff addysgu sydd wedi cwblhau’r rhaglen athro rhagorol ac annog sy’n digwydd yn fewnol. Mae’n rôl â thâl sydd wedi’i chyfyngu i ddwy flynedd, gan fod hyn yn rhoi cyfle i staff eraill ddod yn Anogwyr Dysgu ac Addysgu.

Y syniad yw bod y tîm Addysgu a Dysgu yn gwneud y gwaith sylfaenol ac yn cyflwyno strategaethau addysgu a dysgu sy’n gweithio ar draws sawl pwnc. Cyflwynir y strategaethau hyn gyda disgrifiadau, enghreifftiau a dolenni i adnoddau.

Mae pob Anogwr Dysgu ac Addysgu yn arwain y sesiynau ar gyfer un o’r opsiynau dysgu proffesiynol. Mae ganddyn nhw eu Cymuned Dysgu Proffesiynol eu hunain yn yr ysgol, a thrwy’r rhain, maen nhw’n arwain ymchwil weithredu ac yn hwyluso cydweithio sy’n gysylltiedig â’r maes datblygu hwn. Mae’r sesiynau’n cael eu gyrru gan ymchwil addysgol perthnasol ac mae staff yn defnyddio’r wybodaeth o’r sesiynau i gynnal ymarfer bwriadol.

Mae Anogwyr Dysgu ac Addysgu hefyd yn cynnal samplau llyfrau, adolygiadau cyfadrannau ac yn cynnal teithiau cerdded dysgu wythnosol i ddod o hyd i arfer gorau ac i ddathlu enghreifftiau rhagorol o ddysgu proffesiynol ar waith. Mae’r ysgol yn cynnal cyfres o gyfleoedd hyfforddi mewnol pellach i staff ar wahanol gamau o’u gyrfa bob blwyddyn, gan gynnwys:

  • Cynllun Athro Rhagorol
  • Rhaglen Athro Da (anogaeth wedi’i theilwra)
  • Rhaglen Arweinyddiaeth Ganol
  • Rhaglen Arweinwyr Canol i Uwch-Arweinwyr
  • Cymhwyster y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) Lefel 4 a 5
  • Rhaglen Athrawon Newydd.

 

Arweinwyr yn ystyried mannau cychwyn ac uchelgeisiau ymarferwyr

Yn ystod mis Mawrth bob blwyddyn, mae pob athro yn Mary Immaculate High School yn cael cais i gynnal asesiad hunanwerthuso yn amlinellu eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu. Mae arweinwyr yr ysgol yn awyddus i bwysleisio i athrawon mai adolygiadau addysgu a dysgu unigol yw’r rhain, a dim ond gyda’u Penaethiaid Adran y caiff eu canlyniadau eu rhannu. Mae arweinwyr yr ysgol yn annog staff i fod yn agored ac yn onest, ac mae’r staff yn ymddangos yn barod i dderbyn eu barn.

‘Maen nhw wedi gwrando arnom ni fel athrawon – rydyn ni’n gallu mynegi barn a chynnig awgrymiadau yn yr adolygiad addysgu a dysgu. Mae’n wych i ni – rydyn ni’n gwybod bod arweinwyr yr ysgol yn gwrando a bod pob barn yn ddilys’

Mae’r wybodaeth o’r broses hunanwerthuso yn cael ei chrynhoi ar lefel adrannol ac mae popeth yn cael ei uno ar lefel cyfadran i greu crynodeb cyffredinol o gryfderau a meysydd i’w datblygu neu eu gwella. Mae’r Pennaeth Cynorthwyol sy’n gyfrifol am Addysgu a Dysgu wedyn yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu cynllun dysgu proffesiynol pwrpasol ar gyfer y flwyddyn academaidd honno sydd hefyd yn ymgorffori’r safonau addysgu proffesiynol.

‘Mae’r arweinwyr mor drefnus ac mor angerddol – mae’n hidlo i lawr. Rydyn ni’n datblygu drwy’r amser.’

 

Arweinwyr sy’n ystyried anghenion dysgu unigol ymarferwyr yng nghyd-destun blaenoriaethau’r ysgol

Er bod arweinwyr yr ysgol yn goruchwylio, yn trefnu ac yn dylunio’r ddarpariaeth dysgu proffesiynol yn yr ysgol, mae’n ddull hynod o gydweithredol. Mae’r sesiynau dysgu proffesiynol craidd a dewisol ar gyfer staff wedi’u cysylltu’n agos ag anghenion yr ysgol a’r adborth o’r broses hunanasesu flynyddol.

Wedyn, caiff y ddarpariaeth dysgu proffesiynol hon ei chyflwyno’n ‘fewnol’ gan dri Anogwr Dysgu ac Addysgu’r ysgol. Oherwydd y dull ymchwil gweithredu sy’n digwydd o fewn y Cymunedau Dysgu Proffesiynol, nid oes cyfeiriad penodol o ran beth sy’n gorfod digwydd. Er bod y cymunedau dysgu proffesiynol hyn yn cael eu llywio i gyfeiriad penodol gan yr Anogwyr Dysgu ac Addysgu i gyd-fynd â’r meysydd datblygu a nodwyd, y staff eu hunain sy’n llywio’r cyfeiriad hwnnw’n bennaf yn sgil cael eu galluogi gan yr uwch-dîm arwain.

Mae’r tîm arwain ei hun hefyd yn barod iawn i dderbyn adborth, a’n rhoi cyfle ar ddiwedd pob Cymuned Dysgu Proffesiynol i staff fyfyrio a nodi beth weithiodd a beth na weithiodd yn dda, ac mae hynny yn ei dro yn llywio cynllunio ar gyfer y dyfodol.

‘Mae adborth staff ar yr holl ddatblygiad proffesiynol parhaus yn bwysig. Weithiau mae’n heriol – ond dyna sut byddwn ni’n gwella!’

 

Arweinwyr yn ystyried dewisiadau ac arddulliau dysgu ymarferwyr

O fewn y Cymunedau Dysgu Proffesiynol, mae arweinwyr yr ysgol yn annog gwahaniaethu er mwyn galluogi ymarferwyr unigol i edrych ar y materion penodol sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw neu i addasu’r dull ynghlwm wrth gymuned dysgu proffesiynol i gyd-fynd ag amcanion ymarferydd – er enghraifft, mae’r rhai hynny sy’n awyddus i ymgymryd â rolau arwain yn y dyfodol yn cael eu hannog i arwain sesiwn: ‘Rydyn ni’n ceisio teilwra’n bwrpasol’

Er bod gan rai o’r sesiynau craidd gynnwys penodol y mae’n rhaid ymdrin ag ef, mae’r mwyafrif yn seiliedig ar rannu a dysgu am arfer gorau gan ddefnyddio technegau fel ‘cyfarfod cyflym’ a TeachMeets a Carousel. Mae’r sesiynau’n dathlu arfer da ac anogir ymarferwyr, mewn fformat grŵp hamddenol, i edrych ar sut gellir cymhwyso’r dysgu i’w maes pwnc neu eu hanghenion: ‘Does dim rhaid i neb ei wneud mewn unrhyw ffordd benodol… mae’r dull dysgu gweithredol hwn yn dweud wrthym ni fel arweinwyr beth sy’n gweithio.’

Mae’r arfer bwriadol yn cael ei gofnodi yn OneNote ar ffurf nodiadau myfyriol, lluniau a fideos sy’n tynnu sylw at athrawon a’u meysydd arbenigedd ac yn dathlu eu cyflawniadau. Mae hyn yn caniatáu rhannu dysgu gydag ymarferwyr y tu hwnt i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol.

 

Arweinwyr yn ystyried lles ymarferwyr

Mae arweinwyr yr ysgol yn awyddus i sicrhau lles staff yn y broses ddysgu broffesiynol. Anogir ymarferwyr i ymgymryd â rolau fel Anogwr Dysgu ac Addysgu neu i ymgymryd â’r cynllun Athro Rhagorol, gan wybod y byddan nhw’n cael eu cefnogi’n llawn drwy Dîm Rheoli’r Ysgol.

Mae’r tîm arwain yn awyddus i bwysleisio nad oes unrhyw stigma neu ymdeimlad o fethiant ynghlwm wrth ddysgu proffesiynol – mae’r ffocws bob amser ar sut i wella a’i wneud yn well yn hytrach nag ar ddod o hyd i wendid neu fai. O’r herwydd, mae ymarferwyr yn teimlo eu bod nhw’n gallu rhoi cynnig ar ddulliau newydd neu droi at gydweithwyr i gael adborth. Bob wythnos, mae’r tîm Addysgu a Dysgu yn cydnabod dysgu proffesiynol rhagorol ac yn dyfarnu potel o win i aelod o staff.

 

Arweinwyr yn ystyried ymrwymiadau ymarferwyr o ddydd i ddydd

Mae’r ysgol wedi cynnwys amser dysgu proffesiynol adrannol yn yr amserlen, sy’n caniatáu i athrawon neu dimau gyfranogi mewn dysgu proffesiynol ychwanegol tu hwnt i’r 10 awr o sesiynau gyda’r hwyr.

Rhaid i’r holl staff gwblhau’r sesiynau gyda’r hwyr sydd wedi’u hamserlennu’n benodol yn y calendr gan eu bod yn cyfateb i’r 2 ddiwrnod i ffwrdd yn ystod y flwyddyn, ac felly mae’r holl staff, gan gynnwys Cynorthwywyr Addysgu, yn mynychu. Mae’r tîm arwain yn teimlo bod presenoldeb yr holl staff yn bwysig, gan ei fod yn rhoi cyfle i’r holl staff addysgu gyfrannu at drafodaethau ac ymgyfarwyddo â strategaethau addysgu fel eu bod yn cael eu gweithredu’n llawn yn ystod ymarfer bwriadol.

Mantra arweinydd yr ysgol ar Addysgu a Dysgu yw ‘Mymryn o Ymdrech, Llawer o Effaith’. Mae’r ddarpariaeth dysgu proffesiynol fewnol yn seiliedig ar ymchwil academaidd ac addysgeg gadarn a gafodd ei gyflawni gan aelodau o’r tîm Addysgu a Dysgu. Mae’r tîm Addysgu a Dysgu yn diweddaru pecyn cymorth addysgu a dysgu rhyngweithiol yr ysgol yn barhaus fel bod ymarferwyr yn gwybod ble mae’r holl wybodaeth ac arbenigedd sydd eu hangen arnyn nhw, heb orfod treulio eu hamser yn cynllunio neu’n ymchwilio neu’n cael eu llethu gan eu hymdrechion i ddod o hyd i atebion:

‘Dydy’r strategaethau hyn ddim yn cymryd oriau o waith paratoi. Rydych chi’n gwybod eu bod nhw’n gweithio oherwydd bod eraill wedi’u defnyddio – maen nhw [y tîm Addysgu a Dysgu] wedi arwain y ffordd – gan ddod o hyd i fodelau a thempledi gwych mae modd i chi droi atyn nhw. Dydy o ddim yn cymryd oriau, ac mae’n cael effaith ar unwaith.’

Roedd dull cydweithredol yr ysgol o ymdrin â dysgu proffesiynol wedi arwain at fwy o ffocws ar effaith yn hytrach na chynllunio. Mae’r strwythur yn caniatáu i arfer da gael ei nodi a’i rannu ar draws yr ysgol gyfan. Mae staff yn teimlo bod eu cryfderau’n cael eu cydnabod o fewn strwythur dysgu proffesiynol sy’n cefnogi eu hanghenion unigol a chyfeiriad strategol yr ysgol.

Cyfeiriadau:
  1. Mae cysyniad Robert Bjork o anawsterau dymunol (Bjork, 1994) yn awgrymu bod cyflwyno rhai anawsterau i’r broses ddysgu yn gallu gwella’r broses o ddal gafael ar y deunydd a ddysgwyd yn y tymor hir yn sylweddol.
Pob Astudiaethau Achos