Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Maendy

LPL GreenYsgol Gynradd Maendy

Yn canolbwyntio ar gefnogi pob dysgwr ac yn ystyried lles

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Maindee PrimaryMae Ysgol Gynradd Maendy yn ysgol gynradd ddiwylliannol amrywiol yng nghanol Dinas Casnewydd. Mae tua 520 o ddisgyblion ar y gofrestr, ond mae cymuned yr ysgol yn fyrhoedlog gyda llawer o ddisgyblion yn symud. Mae Saesneg yn iaith ychwanegol ar gyfer 92% o’r disgyblion.

Dull a ddilynwyd

Ym Maendy mae lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol ac mae’r ysgol yn rhoi cryn bwyslais ar gefnogi lles pawb gan gynnwys rhieni. Mae’r ysgol yn troi at hierarchaeth anghenion Maslow yn gyson ac yn deall bod angen helpu pob haen er mwyn sicrhau bod eu disgyblion yn cael y cyfle gorau i lwyddo yn yr ysgol.

Yn Ysgol Gynradd Maendy mae gennym agwedd ysgol gyfan glir at les ac anogaeth. Rydym yn sicrhau bod yr holl staff yn deall Hierarchaeth Maslow gan fod angen cymorth ar lawer o deuluoedd i ddiwallu anghenion sylfaenol y plant. Hefyd, mae gennym ddealltwriaeth a rennir ymhlith yr holl oedolion sy’n camu drwy ddrysau’r ysgol, ein bod ni gyd yn bwysig. Drwy ymrwymo i ymgysylltu â Peace Mala mae gennym reol euraidd – ‘trin eraill fel yr hoffech gael eich trin’ sy’n cyd-fynd â holl waith yr ysgol. Mae’r rheol hon yn llifo drwy bob cred grefyddol a diwylliannol ac yn canolbwyntio ar weledigaeth yr ysgol o “ddysgu a byw mewn cytgord”. Yng ngoleuni’r gwaith ar draws yr ysgol rydym wedi mabwysiadu Heddwch fel gwerth ysgol gyfan.

Gydol y cyfnodau’r cyfnod clo ac ailagor ysgolion, mae’r ysgol wedi buddsoddi llawer iawn o amser mewn materion lles ac anogaeth. Rydym wedi hyfforddi ymarferwyr Thrive ar draws yr ysgol ac wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant ysgol gyfan ar Thrive a hyfforddiant lles cymdeithasol ac emosiynol arall. Rydym wedi ailedrych ar bolisi ymddygiad yr ysgol sydd wedi’i newid i bolisi perthynas ac ymddygiad ac mae wedi’i lywio’n helaeth gan yr ymchwil ddiweddaraf ar ddeall ymddygiad. Mae’r ffocws ar feithrin perthynas o’r radd flaenaf â phawb sy’n gysylltiedig â’n hysgol yn allweddol i’n gwaith yn y maes hwn. Rydym wedi buddsoddi’n helaeth mewn hyfforddiant yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac wedi cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol amrywiol sy’n ymwneud â deall ymddygiad a phwysigrwydd perthnasoedd. Mae pob oedolyn yn yr ysgol yn deall bod pob ymddygiad a ddangosir gan unigolyn yn ffurf ar gyfathrebu. Mae’r ysgol yn canolbwyntio ar arferion adferol pan fydd problem yn codi, gan ein bod yn deall pwysigrwydd cyswllt dynol, a byddwn yn buddsoddi amser mewn pobl i drafod problemau a dod o hyd i atebion.

Mae ein hagwedd at ddysgu proffesiynol yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar anghenion aelodau unigol o staff a disgyblion unigol hefyd. Mae sawl math o gymorth a hyfforddiant, ac mae trafodaethau datblygiad proffesiynol yn annog staff i nodi meysydd darllen ac ymchwil pellach er mwyn helpu disgyblion yn eu dosbarth. Bwriedir i hyfforddiant ysgol gyfan gefnogi anghenion ar draws yr ysgol gan ailedrych yn rheolaidd ar hyfforddiant mewn meysydd lles ac ymddygiad e.e. ymwybyddiaeth o ymlyniad, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, arferion adferol a sawl maes arall.

Cynigir cymorth pwrpasol i aelodau staff sy’n newydd i’r ysgol gan gynnwys staff tymor byr sy’n cael eu cyflogi drwy asiantaethau recriwtio. Mae’n bwysig bod gan bob aelod o’r staff ddealltwriaeth gyffredin a’u bod yn gweithio ochr yn ochr â staff sefydledig i arsylwi ar arferion rhagorol a datblygu eu hymarfer eu hunain. Yr effaith fwyaf ar ddysgu proffesiynol yr holl staff yw ein bod ni’n ymgysylltu’n ehangach na dim ond trwy gymuned yr ysgol yn unig – sy’n golygu ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill yn ogystal â grwpiau yn y gymuned. Mae ymgysylltu â phartneriaid cymunedol ac arweinwyr crefyddol wedi ein helpu i ddeall credoau diwylliannol a chrefyddol ein teuluoedd ymhellach a mynd ymlaen i feithrin perthynas hynod effeithiol â disgyblion a theuluoedd wedyn. Mae’r gwaith hwn wedi braenaru’r tir ar gyfer cynnal gwaith pellach i feithrin perthnasoedd a rhoi’r ysgol yng nghanol y gymuned, sydd o fudd mawr i’r disgyblion a’r teuluoedd fel ei gilydd.

Mae’r ffocws ar les yn cael effaith enfawr ar safonau lles ar draws yr ysgol sydd yn ei dro yn effeithio ar ddysgu. Mae cynnydd ein disgyblion yn rhagorol er bod llawer o’n disgyblion newydd angen cymorth dwys i’w helpu i ffynnu yn yr ysgol. Mae pob disgybl, waeth pryd mae’n ymuno â’r ysgol, yn cael llawer iawn o anogaeth er mwyn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn yn yr ysgol. Mae hyn yn amlwg yn yr agweddau at ddysgu a ddangosir gan ddisgyblion a’r ymdeimlad cryf o falchder o fod yn ddisgybl yn yr ysgol.

Pob Astudiaethau Achos