Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes

LPL GreenYsgol Gynradd Gymunedol Llanfaes

Wedi’i gynllunio’n strategol dros y tymor byr, canolig a hirach

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes yn Aberhonddu, Powys. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed ac mae ganddi 200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae canolfan asesu cyn-ysgol a lleoliad 3+ ynghlwm wrth yr ysgol.

 

Dull a ddilynwyd

Mae Cynllun Datblygu’r Ysgol wedi bod yn seiliedig erioed ar fewnbwn amrywiol gan randdeiliaid (cyfarfodydd staff, dadansoddi data, holiaduron, gwrando ar ddysgwyr, Llywodraethwyr). Fodd bynnag, nid oedd yr ysgol gyfan yn ymgysylltu’n llawn â’r broses o roi’r cynlluniau ar waith. Trwy ddatblygu dull cyd-adeiladu, roedd perchnogaeth a chyfranogiad pawb yn ddilys ac yn seiliedig ar ddysgu proffesiynol.

Llanfaes Primary SDP

Mae’r ysgol yn cyd-gynhyrchu Cynllun Datblygu’r Ysgol bob blwyddyn, ac mae rhanddeiliaid fel ymarferwyr, disgyblion, rhieni, ymwelwyr ysgol a’r corff llywodraethu’n cyfrannu at y gwaith. Yn dilyn ei ddatblygiad cychwynnol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, mae Cynllun Datblygu’r Ysgol yn cael ei arddangos ar wal yr ystafell staff a’i ddiweddaru dros amser. Mae Cynllun Datblygu’r Ysgol yn ‘ddogfen fyw’, ac mae pob aelod o staff yr ysgol yn gallu ei ddiweddaru, yn ôl yr angen. Yn ogystal, mae’r cyngor ysgol yn edrych ar y targedau y cytunwyd arnynt a’u datblygu mewn ‘iaith plant’ er mwyn helpu i rannu ein nodau gyda’r plant. Mae’r targedau hyn yn cael eu harddangos yn glir yn ganolog i bawb eu gweld.

Mae proses rheoli perfformiad a datblygiad proffesiynol yr ysgol yn cynnwys adolygiad cychwynnol gyda staff addysgu ym mis Hydref a staff cymorth ym mis Ionawr, cyn cynnal adolygiad bob tymor gyda phob ymarferydd. Mae’r holl adolygiadau rheoli perfformiad yn cael eu cynnal drwy ddefnyddio’r Safonau Proffesiynol fel fframwaith ar gyfer trafodaethau proffesiynol. Disgwylir i ymarferwyr gwblhau hunanasesiad yn erbyn pum maes y Safonau Proffesiynol cyn eu hadolygiad rheoli perfformiad. Gan fod pob ymarferydd yn cyfrannu at y broses o ddatblygu Cynllun Datblygu’r Ysgol, mae arweinwyr yr ysgol wedi gweld bod yr holl staff yn ystyried Cynllun Datblygu’r Ysgol wrth ymgymryd â’u hunanasesiad eu hunain. Disgwylir i ymarferwyr nodi tri maes i’w datblygu, yn ymwneud ag uchelgais bersonol, Cynllun Datblygu’r Ysgol a datblygiad proffesiynol parhaus.

Elfen allweddol oedd sefydlu sesiynau cydweithredol bob hanner tymor ar gyfer staff. Caiff amser penodol ei neilltuo fel bod staff yn gallu cydweithio i gynllunio, trafod ac adolygu elfennau gwahanol o’u haddysgeg neu Gynllun Datblygu’r Ysgol. Mae diwylliant o drafodaeth agored wedi’i feithrin sy’n hwyluso sgyrsiau grymus mewn awyrgylch o ymddiriedaeth a pharch. Yn ogystal, lle y bo’n briodol, mae staff wedi gofyn am gymorth o fewn y clwstwr neu gan rwydweithiau proffesiynol eraill i wella eu datblygiad personol.

Mae yna gysylltiad cryf rhwng dyheadau a thargedau unigol, a’r rhai sy’n cael eu nodi ar gyfer yr ysgol gyfan. Mae cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol yn cael eu nodi’n glir ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu bob tymor. Mae pwysigrwydd dull amrywiol o ddysgu proffesiynol yn amlwg, gyda chynnydd yn nifer y staff sy’n cynhyrchu eu cyfleoedd eu hunain. Mae deialog broffesiynol yn well ac mae ganddi ffocws. Mae hinsawdd ysgol gyfan o archwilio, arloesi, cyd-ymddiriedaeth a pharch yn amlwg.

Pob Astudiaethau Achos