Skip to main content
English | Cymraeg

Stori Arweinyddiaeth: Russ Dwyer

Bu Nia Miles, Pennaeth Mewnwelediad yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, yn cyfweld â Russ Dwyer, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas am ei daith arweinyddiaeth. Darganfyddwch ei stori arweinyddiaeth isod.

Pwy neu beth wnaeth eich ysbrydoli i fod yn arweinydd addysgol yng Nghymru?

Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod sawl person wedi fy ysbrydoli ar hyd fy nhaith i arweinyddiaeth addysgol. Fe wnaeth fy rhieni a’u hethos gwaith cryf sefydlu egwyddor gydol oes o ymrwymiad ac awydd i roi fy ngorau bob amser. Chwaraeodd fy athro Lefel A Hanes yn yr ysgol ran ganolog yn fy addysg fy hun; roedd yn athro ac yn arweinydd rhagorol, ac roeddwn i bob amser yn meddwl pe bawn i’n dechrau addysgu, byddwn i eisiau bod yn debyg iddo. Yn olaf, dysgais lawer iawn gan Brifathro blaenorol San Tomos. Ef a roddodd yr hunan-gred imi y gallwn fod yn arweinydd a chafodd llawer o’r elfennau sy’n bwysig i mi yn awr, megis ymddiriedaeth, perthnasoedd, cynhwysiant ac ymgysylltiad rhieni, eu meithrin yn ystod ei stiwardiaeth.

Beth ydych chi’n ei wneud yn weithredol i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn eich lleoliad?

Mae’n bwysig datblygu dyhead o fewn sefydliad a sicrhau bod staff sy’n dangos diddordeb mewn arweinyddiaeth yn cael y cyfle i arwain. Mae angen i chi danio eu diddordeb gydag ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol deniadol a phriodol, ac mae angen i chi roi’r annibyniaeth iddynt archwilio rolau a datblygu sgiliau. Dylid annog arweinwyr posibl i fod yn arloesol, ond i gydnabod bod risg yn gysylltiedig ag arloesi a bod hyn yn gallu golygu na fydd pethau bob amser yn mynd yn ôl y cynllun. Mae hefyd yn bwysig annog myfyrio, cydweithredu ac ymholi proffesiynol i annog twf. Yn ddiweddar, rydym wedi cyflwyno rolau wedi’u secondio i’n Uwch Dîm Arwain a Rheoli, fel y gall staff â diddordeb gael profiad uniongyrchol o rôl arwain.

Fel arweinydd, sut ydych chi’n modelu blaenoriaethu eich lles eich hun fel esiampl i staff?

Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi gorfod gweithio arno. Yn fy mlwyddyn gyntaf fel pennaeth, wnes i ddim taro’r cydbwysedd cywir ac yn y pen draw ar y llawr, yn llythrennol! Roedd hynny’n alwad deffro. Roeddwn i’n ceisio bod yn bopeth i bawb, ond mewn gwirionedd roeddwn i’n llosgi fy hun allan ac yn y pen draw ddim yn gosod esiampl dda. Ers hynny, rwyf wedi bod yn llawer mwy ystyriol o fy iechyd a lles fy hun, tra’n parhau i sicrhau bod staff yn gwybod fy mod yn poeni am eu hiechyd a’u lles nhw. Rwy’n meddwl bod arweinyddiaeth dosturiol yn allweddol i greu amgylchedd gwaith iach. Mae ymddiriedaeth yn rhan annatod o unrhyw sefydliad, ac yn ein un ni mae’n hwyluso sgyrsiau agored a gonest. Mae’r staff yn gwybod fy mod yn gwerthfawrogi eu lles yn fawr ac maent yn rhoi’r gofal hwnnw i’w gilydd. Mae pethau fel teulu ac iechyd yn cael eu blaenoriaethu ac yn yr ysgol, mae gennym ni fantra… os nad yw rhywbeth yn ‘hydrin’ ac yn ‘bwrpasol’ yna dylem bob amser gwestiynu pam ein bod yn ei wneud.

Pa lyfr/cyfle dysgu proffesiynol/darn o ymchwil ydych chi wedi’i ddefnyddio’n ddiweddar i lywio’ch ymarfer arweinyddiaeth?

Mae llawer o’r ymchwil yr wyf wedi’i wneud yn ddiweddar wedi’i gysylltu â’n comisiwn gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, i ystyried lles arweinwyr addysgol. Mewn gwirionedd, mae hyn wedi fy ysbrydoli i gofrestru o’r diwedd ar gyfer doethuriaeth mewn addysg, gan ganolbwyntio o bosibl ar yr agwedd hon. O ran dysgu broffesiynol, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar gynhwysiant gwirioneddol yn yr ysgol ac wrth wneud hynny rwyf wedi ceisio archwilio hyfforddiant a ddarperir gan bobl y mae’r gwahaniaethu y maent yn ei drafod yn effeithio’n uniongyrchol arnynt. Roedd cynhadledd DARPL (Amrywiaeth a Dysgu Proffesiynol Gwrth-hiliol) yn enghraifft wych o hyn ond mae hyfforddiant gan unigolion niwroamrywiol hefyd wedi bod yn ysbrydoledig. Yn olaf, y llyfr addysg olaf i mi ei archwilio oedd Steve Munby, ‘Imperfect Leadership’. Rwy’n meddwl bod y neges yn y llyfr hwn yn allweddol – fel arweinwyr rydym yn aml yn ceisio perffeithrwydd ac yn gweld amherffeithrwydd fel gwendid. Mae angen inni gydnabod bod cydnabod amherffeithrwydd yn ein gwneud yn arweinwyr cryfach a mwy uchel eu parch.

Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt gyrfa i chi yn ystod eich cyfnod fel arweinydd addysgol yng Nghymru?

Mae rhai uchafbwyntiau wedi bod yn fy ngyrfa hyd yn hyn. Roedd cael y cyfle i ymweld â Chanada gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i archwilio eu system addysg yn uchafbwynt gwirioneddol a chafodd effaith ar fy arweinyddiaeth ar ôl i mi ddychwelyd. Rwy’n meddwl bod cymryd risg ac ymgymryd ag ymchwil gyda Choleg y Brenin, lle symudwyd ein dosbarthiadau derbyn i Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe, hefyd yn uchafbwynt, ac mae hyn wedi parhau i gael effaith barhaol ar ein cwricwlwm. Yn olaf, mae’r cyfle i fod yn Gydymaith gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol rhagorol, ynghyd â’r cyfle i rwydweithio ag arweinwyr addysg o bob rhan o Gymru, wedi rhoi hwb newydd i mi herio fy hun a datblygu ymhellach fel arweinydd.

Pob Astudiaethau Achos