Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gymunedol Heolgerrig

LPL GreenYsgol Gymunedol Heolgerrig

Yn canolbwyntio ar gymhwyso dysgu proffesiynol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymunedol Heolgerrig ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful. Ar hyn o bryd mae 233 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 31 o ddisgyblion meithrin llawn amser. Mae cyfartaledd treigl disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd diwethaf tua 7% ac mae ffigurau ADY yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod tua 20% ar gyfartaledd.

 

Dull a ddilynwyd

Mae ein dull o ddysgu proffesiynol wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Arferai gael ei ystyried yn weithgaredd ynysig ar gyfer aelodau unigol o staff, ond rydym yn edrych ar ddysgu proffesiynol fel rhywbeth cyfannol bellach a’i ddefnyddio i gefnogi unigolion yn ogystal â chymuned gyfan yr ysgol  – staff, disgyblion a thu hwnt.

I ddechrau, gwnaed newidiadau i’r ffordd y trefnwyd dysgu proffesiynol a’i ddefnyddio i sicrhau gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chynllun datblygu’r ysgol, y cylch monitro, rheoli perfformiad ac anghenion unigol. Mae hyblygrwydd bob amser, gan fod cyfleoedd dysgu proffesiynol yn codi’n aml na ellid cynllunio ar eu cyfer ymlaen llaw.

Gallai staff gynnig eu hunain ar gyfer dysgu proffesiynol neu gael eu hargymell i helpu i gefnogi agenda ehangach ar gyfer yr ysgol. Cafodd hyn ei reoli’n ofalus i sicrhau bod y person cywir yn cael y cyfle dysgu proffesiynol cywir a bod cyfrifoldebau’n cael eu rhannu.

Sefydlwyd gyriant electronig a rennir lle’r oedd staff a oedd yn defnyddio dulliau dysgu proffesiynol yn creu crynodeb un dudalen o’r hyn a wnaethant, yr hyn a ddysgwyd ganddynt a sut y gallai effeithio ar ein hysgol. Yn amlach na pheidio, fodd bynnag, dyrannwyd amser mewn cyfarfodydd staff wythnosol er mwyn rhannu hyn mewn ffordd fwy cydweithredol.

Fe wnaeth cyfarfodydd staff wythnosol newid o broses rhannu data a thrafod busnes diangen y gellid ei drafod drwy e-bost neu fwletinau, i fod yn fforwm ar gyfer dysgu proffesiynol.

Anaml y cynhelir cyfarfod staff lle nad yw aelod o staff wrth y llyw – rhannu arferion da, arwain dysgu neu gefnogi eraill. Mae’r holl staff yn cael eu cynnwys mewn agendâu yn ystod y flwyddyn, rhai’n cael slotiau rheolaidd lle cânt gyfle i gyflwyno elfen o ddysgu proffesiynol eu hunain, yn gosod tasgau i staff roi cynnig arnynt yn y dosbarth ac yna’n dilyn y cyfan gydag adborth a myfyrdodau mewn cyfarfodydd staff diweddarach. Mae hyn wedi digwydd ar gyfer llu o gyfleoedd dysgu proffesiynol dros y blynyddoedd diwethaf megis datblygu llafaredd, darllen, y cwricwlwm newydd ac ati.

Mae’r holl staff yn cael eu cydnabod fel arweinwyr. Efallai mai dim ond un person sy’n cael cyfle dysgu proffesiynol y tu allan i’r ysgol sy’n gysylltiedig â blaenoriaeth benodol, ond mae wedyn yn rhaeadru’r hyn a ddysgwyd i’r aelodau staff eraill mewn ffordd bwrpasol â ffocws i sicrhau bod pawb yn cael dysgu mewn rhyw ffordd.

Ar bob agenda wythnosol, mae safon addysgu broffesiynol newydd yn cael ei rhannu i’w thrafod neu fyfyrio arni. Lle mae’r safon yn cysylltu’n uniongyrchol ag agwedd ar ein siwrnai o wella fel ysgol, byddwn yn ei thrafod ymhellach. Yn ogystal, gofynnir i’r holl staff nodi unrhyw ddysgu proffesiynol  a fyddai’n fuddiol iddyn nhw wrth bennu targedau rheoli perfformiad er mwyn ystyried hyn. Mae dull cyfunol o ymdrin â dysgu proffesiynol. Nid yw’n dod o’r tu allan i’r ysgol bob amser. Weithiau, arweinwyr yn yr ysgol fydd yn gyfrifol am rannu arbenigedd, dro arall, byddwn yn edrych i’r clwstwr a thu hwnt. Defnyddir mwy a mwy o waith darllen ac ymchwil fel ffordd o gyrchu dysgu proffesiynol.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r pwyslais ar ddysgu proffesiynol wedi’i gysylltu â’r cwricwlwm newydd ac addysgeg. Cafodd y staff gyfle i gysylltu ag aelod o staff o ysgol gyfagos i ymchwilio i Egwyddor Addysgegol, arsylwi ar ei gilydd yn addysgu, rhannu llyfrau, a myfyrio ar ymarfer. Roedd yn werthfawr ac yn effeithiol.

Mae’r dull hwn wedi’i ategu ymhellach gan gydweithio effeithiol â’r clwstwr. Dysgu gyda’n gilydd yn fwy diweddar i ddatblygu cwricwlwm seiliedig ar glwstwr, nad yw’n agored i drafodaeth. Cyrchwyd dysgu proffesiynol o’r rhanbarth fel sbardun ar gyfer hyn. Yna rhoddwyd amser i’r staff ddarllen, ymchwilio, rhannu arferion da a drafftio’r dogfennau nad ydynt yn agored i drafodaeth.

Hefyd, mae staff wedi cael amser ymchwil proffesiynol gyda chyfleoedd i ddarllen ymchwil berthnasol sy’n gysylltiedig ag addysgeg, penderfynu ar brosiect ymchwil weithredu bach ar gyfer eu dosbarthiadau eu hunain a rhoi adborth i eraill. Mae’r ffocws ar gymhwyso’r dysgu bob amser, gan ofyn i staff roi cynnig ar bethau, myfyrio a mireinio. Mae’r dull cyfunol o ddysgu proffesiynol wedi grymuso staff, gan helpu i’w datblygu i gyd fel arweinwyr a chael effaith ar draws yr ysgol. Mae hyn wedi meithrin eu hyder a’u gallu, gan effeithio ar addysgeg ac ymarfer.

Mae’r ffordd y trefnir dysgu proffesiynol bellach yn caniatáu defnydd gwell o amser ac adnoddau. Mae staff yn cydweithio, yn dysgu gan ei gilydd, ac yn barod i ddweud beth sydd yn, neu ddim yn gweithio’n dda. Mae datblygiad proffesiynol sy’n gysylltiedig ag agweddau fel darllen, llefaredd ac ADY yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn rhai yn unig o’r agweddau sydd wedi gweld safonau gwell i ddisgyblion.

Pob Astudiaethau Achos