Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Gilwern

LPL GreenYsgol Gynradd Gilwern

Wedi’i gynllunio’n strategol dros y tymor byr, canolig a hirach

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Gilwern Primary School PupilsMae ysgol Gilwern Primary School, sy’n ysgol cyfrwng Saesneg, wedi’i lleoli ger y Fenni yn Sir Fynwy ac mae’n darparu ar gyfer disgyblion rhwng pedair ac 11 oed. Mae gan yr ysgol dros 210 o ddisgyblion ar y gofrestr a 27 aelod o staff. Mae’n Ysgol Arloesi ar gyfer Dysgu Proffesiynol ac yn Ysgol Arweiniol Rhwydwaith mewn Gwyddoniaeth.

 

Dull a gymerwyd

Mae gweledigaeth ysgol gyfan wedi bod yn ganolog i’r ethos yn Gilwern Primary School ers nifer o flynyddoedd, ar ôl cael ei datblygu’n wreiddiol mewn cydweithrediad â’r holl randdeiliaid (dysgwyr, staff, llywodraethwyr a rhieni/gofalwyr). Mae’r pennaeth yn rhoi gwerth uchel ar gynnwys y gymuned gyfan wrth greu a pherchnogi gweledigaeth sy’n rhoi cyfeiriad clir i ddysgwyr, staff, llywodraethwyr a rhieni/gofalwyr. Adolygwyd y weledigaeth yn ddiweddar i sicrhau bod ganddi’r pedwar diben wrth ei chraidd, yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Mae tri datganiad gweledigaeth craidd fel a ganlyn:

  • Mae Gilwern Primary School yn creu amgylchedd hapus, diogel ac ysgogol, lle caiff dysgwyr eu hannog i gyrraedd eu llawn botensial.
  • Mae’r ysgol yn gweithio’n effeithiol gydag eraill ac yn chwarae rhan ganolog yn y gymuned.
  • Mae’r holl staff wedi ymrwymo i wella a chyflawni safonau uchel yn barhaus.

Ochr yn ochr â’r datganiadau hyn, mabwysiadodd yr ysgol yr is-bennawd ‘meithrin, grymuso a chyflawni’.

Mae arweinwyr yn credu’n gryf iddi fod yn bwysig cadw’n driw i’r weledigaeth wreiddiol ac ymwrthod â chael ein llygad-dynnu gan fentrau newydd nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’r weledigaeth honno. Mae wedi bod yn bwysig hefyd fod arweinwyr yr ysgol yn adolygu’n rheolaidd a yw’r ysgol yn cyflawni’r weledigaeth ac yn cymryd camau priodol lle bo angen.

 

Cynlluniau dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd ag amcanion gwella ysgol

Mae gweledigaeth yr ysgol yn llywio’r ffordd y caiff dysgu proffesiynol ei arwain yn Gilwern Primary School. Mae’r pennaeth yn gweithio’n agos gyda dau ddirprwy bennaeth i gysoni dysgu proffesiynol â chynllun datblygu’r ysgol, ac ar yr un pryd yn sicrhau bod y dull sydd ar waith yn ystyried anghenion ymarferwyr adrannol ac unigol (a nodwyd gan ddefnyddio’r Safonau Addysgu a Dysgu Proffesiynol). Mae’r dirprwy benaethiaid yn hwyluso dysgu proffesiynol ar draws yr ysgol a hefyd yn cyfrannu ar lefel clwstwr a chenedlaethol, gan ddod â safbwyntiau ehangach i’r amlwg yn Gilwern Primary School.

Mae’r uwch-dîm arwain o’r farn bod ei rôl yn ‘rhoi’r sgaffaldiau ar waith’ i alluogi ymarferwyr i berchnogi eu dysgu proffesiynol eu hunain ac i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Mae hyn yn golygu creu diwylliant lle mae ymarferwyr yn cael eu ‘grymuso a’u cymell i wneud eu gwaith yn well’, yn cael eu hannog i ganolbwyntio ar brosesau addysgeg yn hytrach na deilliannau yn unig a lle maen nhw’n manteisio ar eu cryfderau i gefnogi disgyblion a chydweithwyr.

Mae pwyslais ar bwysigrwydd buddsoddi yn sgiliau a lles staff, ac mae ymarferwyr ar bob lefel yn cael eu hannog a’u grymuso i gyfranogi mewn dysgu proffesiynol parhaus fel ffordd o gyflawni safonau uchel.

 

Cynlluniau dysgu proffesiynol yn creu rhythm o gyfleoedd a chymorth

Agwedd allweddol ar ddysgu proffesiynol yn Gilwern Primary School fu caniatáu amser i staff drafod, gwerthuso a herio pwrpas eu haddysgu – yn y bôn, i ofyn y cwestiwn ‘pam?’. Mae hyn wedi galluogi staff i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o ragoriaeth mewn addysg gymunedol ac wedi ailddatgan yr hyn mae’r ysgol yn ceisio’i gyflawni fel sefydliad sy’n dysgu.

Mae arweinwyr yn ceisio creu awydd ymhlith ymarferwyr i ymchwilio i ddulliau newydd, rhoi cynnig arnyn nhw a myfyrio yn eu cylch. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ‘ddysgu wedi’i arwain gan ddisgyblion’ yn ddiweddar, gydag athrawon yn cael mwy o ryddid i drin amserlenni mewn modd hyblyg ac ymateb i ddiddordebau disgyblion (o fewn fframwaith trosfwaol). Mae arweinwyr yr ysgol yn credu bod dysgu wedi’i ysgogi gan ddisgyblion yn ganolog i sicrhau cymhelliant cynhenid o fewn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae ymarferwyr yn cael eu grymuso i ymgysylltu â diddordebau dysgwyr gan hyrwyddo tueddiadau annibynnol a harneisio cyd-destunau dilys toreithiog hefyd wrth ddarparu llwyfan i ymarfer sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol. Mae’r tîm arwain yn annog ac yn cefnogi staff i dreialu a myfyrio ar ddulliau addysgeg newydd drwy Ymholiad Proffesiynol Cydweithredol Beirniadol pwrpasol. Mae hyn wedi galluogi staff i gymryd camau bach i hwyluso’r pedwar diben drwy gydol y profiadau dysgu ac i sicrhau bod addysgeg yn bwrpasol ac yn cyd-fynd â gweledigaeth yr ysgol gyfan.

Anogir yr holl staff i ddatblygu rhwydweithiau proffesiynol a chyfranogi mewn deialog broffesiynol bwrpasol ar draws cyfnodau o fewn yr ysgol a chydag amrywiaeth o ymarferwyr y tu allan i’r ysgol. Mae cyfranogiad o’r fath yn cynnig llwyfan ar gyfer cydweithredu ac ymgysylltu ag addysgeg arloesol.

Mae’r pennaeth hefyd o’r farn bod ganddo ddyletswydd i ddatblygu gallu arweinwyr ar bob lefel o fewn yr ysgol ac i ddefnyddio doniau arweinwyr unigol yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae’n ceisio cynnig her adeiladol ac edrych ar ddatblygiadau o fewn yr ysgol o safbwynt yr holl randdeiliaid, gan gynnwys dysgwyr, rhieni a llywodraethwyr.

Gilwern Primary School

Cynlluniau dysgu proffesiynol yn cael adnoddau priodol (dynol, ariannol ac amser)

Dros amser, drwy weledigaeth glir ac arweinyddiaeth gref, mae diwylliant o gydweithio wedi datblygu. Rhoddir amser i’r staff fyfyrio a rhannu eu dysgu parhaus, o fewn yr ysgol a thu allan iddi.

Neilltuir amser dysgu proffesiynol digyswllt i staff cymorth bob pythefnos. Hyd yma, mae’r ‘sesiynau’ hyn wedi’u hwyluso gan arweinwyr yr ysgol, ond gydag amser, disgwylir y bydd staff cymorth yn cael yr adnoddau i nodi ac arwain eu dysgu eu hunain fel grŵp hunangyfeiriedig.

Gwelwyd newid nodedig mewn diwylliant o fewn yr ysgol: nid yw dysgu proffesiynol bellach yn cael ei ystyried yn weithgaredd sy’n cael ei gyfarwyddo gan arweinwyr yr ysgol ond yn hytrach fel un lle mae ymarferwyr yn ymgysylltu’n rhagweithiol wrth nodi eu hanghenion dysgu proffesiynol eu hunain ac wrth benderfynu sut i fynd ati i fireinio eu sgiliau. Mae’r holl staff yn ymwybodol o sut mae eu dysgu proffesiynol yn bwydo i mewn i ddatblygiad ysgol gyfan, sut mae’n cynnal safonau uchel a sut mae’n cyfrannu at wireddu gweledigaeth yr ysgol gyfan.

Er bod rhywfaint o ddefnydd yn cael ei wneud o gyrsiau hyfforddi annibynnol, maen nhw wedi dod yn nodwedd llawer llai amlwg o’r ffordd y mae ymarferwyr yn dysgu.

Mae’r tîm arweinyddiaeth yn cydnabod bod newid yn cymryd amser, fodd bynnag, ac er bod buddsoddi mewn staff ysgol wedi helpu i greu lefelau newydd o ddealltwriaeth, i feithrin ymddiriedaeth a datblygu ethos a diwylliant sylfaenol yr ysgol, mae taith yr ysgol yn ei hanfod yn un barhaus.

Pob Astudiaethau Achos