Skip to main content
English | Cymraeg

Prosiect Arloesedd Digidol

Ysgol Uwchradd Crucywel

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad ag Alan Lewis, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd Crucywel, a glywodd am y Grant Arloesedd ar ôl cael e-bost gan Gynghorydd Arloesi a Lles a chanfod manteision datblygu a chynyddu arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.

Y Broblem

Mae ysgolion yn defnyddio technoleg ddigidol fwyfwy yn yr ystafell ddosbarth, ac er bod hyn yn cynnig manteision i ansawdd dysgu ac addysgu, cydnabu Alan ei fod yn achosi problemau i Ysgol Uwchradd Crucywel o ran prosesau sicrhau ansawdd ysgolion fel ‘Craffu ar Waith’.

Roedd taith ddysgu ddigidol Ysgol Uwchradd Crucywel yn cynnwys cynnig menter 1:1 gyda phob dysgwr yn cael iPad. Fodd bynnag, yn sgil hyn roedd y broses Craffu ar Waith yn dameidiog, ac roedd yn anodd dod o hyd i waith dysgwyr oherwydd bod nifer o ffyrdd o ddysgu yn cael eu defnyddio, megis llyfrau ysgrifennu, llyfrynnau printiedig, iPads a Teams. Nod yr ysgol oedd gwrthbwyso’r costau sy’n gysylltiedig ag iPads gan hefyd leihau’r effaith ar yr amgylchedd drwy gyflwyno cynllunwyr digidol; arweiniodd hyn at weithredu Portffolio Digidol.

Byddai’r Portffolio Digidol yn lle canolog i ddysgwyr storio copïau o’r gwaith gorau, gwaith wedi’i farcio, defnydd trawsgwricwlaidd o sgiliau, a thasgau eraill. Eglura Alan: “Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddarparu staff llanw er mwyn i staff allweddol gydlynu eu hymdrechion wrth sefydlu gofynion y Portffolio Digidol, fel prynu templedi dylunio ar gyfer ysbrydoliaeth”.

Ar ôl i hyn gael ei gyflawni, bydd cyllid yn cael ei roi tuag at ddarparu hyfforddiant i staff, gwerthuso effeithiolrwydd y Portffolio Digidol, ac edrych ar welliannau cyn ei lansio gyda’r garfan newydd.”

 

Y Fethodoleg

Dechreuodd Ysgol Uwchradd Crucywel gynllunio a chanfod gofynion y Portffolio Digidol ac unwaith iddynt dderbyn eu Grant Arloesedd, fe wnaethant osod y flwyddyn academaidd yn darged iddynt eu hunain i greu, lansio, poblogi a gwerthuso’r Portffolio Digidol.

Daeth heriau wrth geisio poblogi’r Portffolio Digidol, ond yn ffodus cafodd Alan gymorth gan gymuned ehangach yr ysgol i oresgyn y rhain a gweithio tuag at eu targed. Roedd gan yr ysgol ymdeimlad clir o beth oedd eu problem a chawsant eu hysgogi i weithio tuag at eu cynllun ar gyfer y Portffolio Digidol i greu amgylchedd dysgu a oedd o fudd i ddysgwyr a staff. Ymhelaethodd Alan: “Fe wnaeth y Grant Arloesedd alluogi ni i ryddhau staff i neilltuo amser i greu a lansio’r Portffolio Digidol.”

 

Y Canlyniadau

Mae’r prosiect yn dal i gael ei fireinio wrth iddo barhau i dyfu, ond mae Alan yn fodlon bod y cysyniad sylfaenol yn gadarn ac y bydd yn datrys y prif broblemau a nodwyd gan yr ysgol. Bydd carfan bresennol Blwyddyn 7 yn parhau i ddefnyddio’r Portffolio Digidol i gynorthwyo eu dysgu a bydd yr ysgol yn gweithio gyda’u clwstwr cynradd i ddatblygu prosiect tebyg a fydd yn cynorthwyo gyda phontio di-dor a darparu data sylfaenol gwell ar gyfer yr amser pan fydd dysgwyr yn ymuno ag Ysgol Uwchradd Crucywel. Bydd yr ysgol hefyd yn parhau i ddatblygu’r defnydd o iPads fel adnodd ar gyfer dulliau modern o roi adborth ac asesu.

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan yr arloesi digidol sydd wedi’i feithrin yn Ysgol Uwchradd Crucywel a fydd yn hyrwyddo’r prosiect fel astudiaeth achos ar Hwb. Mae Hwb yn blatfform a ddarperir gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu gwasanaethau dwyieithog, digidol i bob ysgol a gynhelir i gefnogi addysgu a dysgu drwy’r Cwricwlwm i Gymru.

 

Cyngor i Eraill

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cefnogi llawer o ysgolion yng Nghymru ar eu taith arloesi, eglura Alan: “Roedd yn broses hawdd iawn i gymryd rhan ynddi ac mae wedi ein helpu i ddatblygu ein hymarfer yn Ysgol Uwchradd Crucywel. Mae’n gyfrwng ardderchog i arloesi a meddwl heb orwelion.” O ran Ysgol Uwchradd Crucywel, eu nod oedd archwilio’r agenda ddigidol o fewn eu dysgu trwy greu Portffolio Digidol, ac rydym yn falch bod ein Grant Arloesedd wedi eu galluogi i hyrwyddo’r arloesedd digidol yn eu hysgol.

 

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesedd ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos