Skip to main content
English | Cymraeg

Datblygu Asesiad Digidol

Ysgol Gyfun Pontarddulais

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at ddatblygiad galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy ein Llwybr Arloesedd ac mae ar agor i’r rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Roedd Cyfres Arloesedd 2022 yn edrych ar ‘Arloesedd Ddigidol’ gyda’r cyfranogwyr yn cynnig syniadau prosiect i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad â Dylan Lewis, Cydgysylltydd y Cwricwlwm yn Ysgol Gyfun Pontarddulais, i ganfod sut y clywodd am y Grant Arloesedd drwy fynychu ein trydedd gyfres o weithdai Arloesedd. Yma, dysgodd am fanteision datblygu a chamu ymlaen gydag arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesi.

 

Y Broblem

Ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus am y Grant Arloesedd, defnyddiodd Ysgol Gyfun Pontarddulais yr arian i ddatblygu prosesau asesu digidol yn yr ysgol. Gan fod y byd o’n cwmpas yn mynd yn fwyfwy digidol bob dydd, mae’n bwysig i ysgolion addasu a gwneud eu prosesau’n ddigidol hefyd. Felly, mae cael cyfarwyddiadau digidol (canllaw sgorio a ddefnyddir i werthuso perfformiad) ar gyfer athrawon wedi dod yn hanfodol o ran eu helpu i symleiddio eu prosesau gwerthuso a marcio. Dylan sy’n esbonio: “Mae fformatau digidol yn galluogi system farcio gywir a chyflym gan fod athrawon yn gallu cyfeirio’n hawdd at y meini prawf a’r disgrifiadau lefelau wrth werthuso gwaith dysgwyr. Yn ogystal, gellir defnyddio cyfarwyddiadau digidol hefyd i ddarparu adborth i ddysgwyr mewn modd mwy amserol ac adeiladol.”

Roedd Ysgol Gyfun Pontarddulais am fynd i’r afael â chywirdeb ac effeithlonrwydd amser trefniadau marcio asesiadau eu hathrawon. Drwy wella’r maes hwn gydag arloesedd digidol, roedd yr ysgol yn gobeithio y byddai’r athrawon yn gallu rhoi adborth mwy ystyrlon heb greu gormod o lwyth gwaith i’r staff. Mae Dylan yn ymhelaethu: “Fe benderfynon ni ddefnyddio’r Grant Arloesedd i greu adnoddau digidol sy’n galluogi ein hathrawon i ddarparu adborth ysgrifenedig a sain yn hawdd i ddysgwyr ar agweddau penodol ar eu gwaith, fel trefn, cynnwys a chyflwyniad. O ganlyniad, bydd dysgwyr yn gwybod mwy am sut i wella eu sgiliau a’u pherfformiad yn well.”

 

Y Fethodoleg

Ar ôl i Ysgol Gyfun Pontarddulais dderbyn y Grant Arloesedd aethant ati’n syth i gychwyn ar y daith arloesedd. Yn y gorffennol, roedd yr ysgol wedi bod yn defnyddio Teams a Moodle, a hynny’n fwy nag erioed yn ystod y pandemig er mwyn dosbarthu a chasglu gwaith gan y dysgwyr, ac yn ystod y cyfnod hwn y gwelodd yr ysgol fod y broses werthuso’n rhy hir ac nad oedd yr adborth yn cynnwys digon o fanylion. Daeth datrys y broblem hon yn brif flaenoriaeth i’r ysgol ac i gyflawni hyn, creodd yr ysgol gynllun syml a oedd yn cynnwys trefnu sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i esbonio sut mae cyfarwyddiadau yn gweithio a sut y gellir eu defnyddio ar y cyd ag aseiniadau. Yn dilyn yr arddangosiad, derbyniodd yr holl athrawon daflen gymorth a set o sesiynau tiwtorial i lywio eu defnydd o gyfarwyddiadau.

Roedd y Grant Arloesedd yn cefnogi’r arloesi digidol hwn gan ei fod yn galluogi Ysgol Gyfun Pontarddulais i dalu i ryddhau staff, a oedd yn galluogi’r ysgol i gasglu ei meddyliau a datblygu dealltwriaeth glir o sut mae cyfarwyddiadau yn gweithio a sut i sefydlu cyfarwyddiadau mewn aseiniad. Dylan sy’n esbonio: “Defnyddiwyd yr arian yn bennaf i dalu am gostau athrawon cyflenwi, i sicrhau bod aelodau staff yn gallu cael eu rhyddhau ar adegau penodol i fynychu sesiynau hyfforddi a chydweithio ar y broses o ddatblygu cyfarwyddiadau.”

Bu’r cymorth hwn yn amhrisiadwy, gan ei fod wedi’n galluogi i weithredu a gwerthuso’r defnydd o gyfarwyddiadau yn ein harferion addysgu’n effeithiol ac wedi arwain at broses asesu symlach a arweiniodd at well ddeilliannau dysgu gan y dysgwyr yn y pen draw.”

Roedd Ysgol Gyfun Pontarddulais yn lwcus gan mai prin oedd y problemau a gawsant yn ystod y prosiect ac roedd yna arian ar ôl yn y gyllideb hyd yn oed i greu canllawiau fideo ar gyfer dysgu a chynefino pellach hefyd. Un o’r prif heriau a wynebodd yr ysgol oedd bod rhai adrannau’n teimlo bod y cyfarwyddiadau yn eu cyfyngu’n ormodol. Fodd bynnag, roedd yr ysgol yn gallu goresgyn hyn drwy fynd i’r afael â’r mater ac annog athrawon i ddarparu sylwadau ychwanegol gyda’r cyfarwyddiadau, gan roi’r hyblygrwydd iddynt ehangu eu hadborth a darparu ymatebion mwy personol i ddysgwyr unigol. Bu hyn yn llwyddiannus ac mae’r athrawon a’r dysgwyr wedi croesawu’r arloesedd digidol yn frwd. Roedd hyn o fudd i athrawon hefyd gan fod arloesedd digidol yn darparu datblygiad proffesiynol ystyrlon ac yn meithrin cydweithio trawsgwricwlaidd rhwng arweinwyr ar draws yr ysgol.

 

Y Canlyniadau

Saith mis ar ôl i daith arloesedd digidol yr ysgol ddechrau, mae’n dal i elwa ar y canlyniadau cadarnhaol. Mae Dylan yn cadarnhau: “Mae llwyddiant y cyfarwyddiadau ym Maes Profiad Dysgu y Dyniaethau wedi bod mor sylweddol fel bod arloesedd digidol nawr wedi’i rannu ar draws yr ysgol i gyd, gan fod o fudd i staff ar bob lefel a helpu i leihau llwyth gwaith marcio gan wella ansawdd yr adborth i ddysgwyr ar yr un pryd.”

Gydag arloesedd digidol Ysgol Gyfun Pontarddulais wedi’i fabwysiadu ar draws yr ysgol gyfan, mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer dyfodol y prosiect hwn. Mae sawl strategaeth wedi’u gweithredu i feithrin a chynnal diwylliant arloesi gwirioneddol yn yr ysgol gydag adrannau eraill gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau digidol:

  • Annog cydweithio a chyfathrebu: Drwy gyfarfodydd adrannol, mae’r ysgol yn annog cydweithio rheolaidd rhwng gwahanol adrannau i rannu arferion a syniadau gorau ar gyfer defnyddio cyfarwyddiadau. Gall hyn hefyd gynnwys sesiynau hyfforddi trawsadrannol i sicrhau bod pawb yn defnyddio’r cyfarwyddiadau yn yr un ffordd.
  • Defnyddio data i lywio penderfyniadau: Defnyddio data o’r cyfarwyddiadau i lywio penderfyniadau am hyfforddiant a dysgu defnyddwyr. Gall hyn gynnwys olrhain cynnydd dysgwyr dros amser a defnyddio’r data i addasu hyfforddiant a gwella deilliannau dysgwyr.
  • Annog arbrofi a chymryd risg: Annog athrawon i arbrofi gyda ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio cyfarwyddiadau yn eu hymarfer. Gall hyn gynnwys annog athrawon i roi cynnig ar dechnolegau, dulliau a strategaethau newydd, a mentro’n ofalus.
  • Dathlu a rhannu llwyddiannau: Dathlu a rhannu llwyddiannau sy’n cael eu cyflawni drwy ddefnyddio cyfarwyddiadau. Gall hyn gynnwys rhannu straeon am sut mae cyfarwyddiadau wedi gwella deilliannau dysgwyr neu wneud y broses asesu’n fwy effeithlon. Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo diwylliant o arloesi ac annog eraill i ddilyn.

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesi yw edrych tuag at y dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru fabwysiadu’r arloesedd digidol sydd wedi’i feithrin gan Ysgol Gyfun Pontarddulais. Un o effeithiau mwyaf arwyddocaol y dull seiliedig ar gyfarwyddiadau yw ei fod yn sicrhau bod dysgwyr yn derbyn adborth cyson a strwythuredig ar draws eu meysydd pwnc, gan hyrwyddo dull mwy cydlynol a chyson o addysgu a dysgu. Mae’r cysondeb hwn yn helpu dysgwyr i ddeall eu cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn fwy clir ac yn galluogi athrawon i nodi patrymau a thueddiadau ym mherfformiad dysgwyr, gan roi cyfle am ymyriadau wedi’u targedu’n well ac sy’n fwy effeithiol. Yn ogystal, mae’r dull hwn wedi bod yn fuddiol iawn i athrawon, gan nad oes rhaid iddynt dreulio llawer o amser yn meddwl am system farcio ar gyfer pob aseiniad. Yn hytrach, gall penaethiaid adrannau ac arweinwyr pynciau bennu apiau cyfarwyddiadau y gall yr holl athrawon o fewn y maes pwnc eu defnyddio, gan arbed amser gwerthfawr a hyrwyddo proses asesu symlach. Mae Dylan yn ymhelaethu: “O’n profiad ni gyda’r prosiect hwn hyd yn hyn, mae’n amlwg sut y byddai ysgolion yn elwa o fabwysiadu system debyg. Mae athrawon a oedd yn anghyfarwydd â’r dull cyfarwyddiadau nawr yn ei ddeall yn llawn ac yn gallu ei ddefnyddio’n hyderus, sy’n golygu bod yr holl athrawon yn gallu gweld y manteision.”

 

Cyngor i eraill

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cefnogi llawer o ysgolion yng Nghymru ar eu taith arloesi. Meddai Dylan: “Roedd ein taith arloesi ddigidol ni’n hawdd iawn diolch i’r cymorth a’r gefnogaeth a gawsom gan Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Roedd yr arian yn rhoi cyfle i ni archwilio syniadau newydd, felly byddwn yn argymell ysgolion eraill i wneud cais am y Grant Arloesedd fel y gall pawb ohonom gael y cyfle i ddatblygu arweinyddiaeth addysgol yn ein hysgolion.”

 

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesedd ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos