Skip to main content
English | Cymraeg
Clwstwr Ysgolion Cyfarthfa

LPL GreenClwstwr Ysgolion Cyfarthfa

Wedi’i gryfhau gan gydweithio proffesiynol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Clwstwr Cyfarthfa yn cynnwys un ysgol uwchradd a phum ysgol gynradd yn sir Merthyr Tudful – Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Ysgol Gynradd Caedraw, Ysgol Gynradd Coed y Dderwen, Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Ysgol Gymunedol Heolgerrig ac Ysgol Gynradd Twynyrodyn.

 

Dull a ddilynwyd

Mae datblygu’r Cwricwlwm Newydd yn dasg sy’n wynebu pob ysgol. Fel clwstwr, roeddem yn teimlo bod hwn yn gyfle amserol fynd i’r afael â hyn fel grŵp o ysgolion, gan gyfuno ein datblygiad proffesiynol a’n staff gyda’i gilydd i gefnogi ein gilydd ar y daith.

Cyfarfu penaethiaid y clwstwr yn ystod haf 2021 i drafod sut y gallai ein staff gydweithio i greu cwricwlwm nad yw’n agored i drafodaeth ar gyfer y clwstwr a fyddai’n fan cychwyn ar gyfer cynllun cwricwlwm pob ysgol. Roeddem am sicrhau cysondeb o ran y dull cyfannol a’r profiadau a’r cyfleoedd fyddai pob plentyn yn eu cael, waeth o ba ysgol yn y clwstwr maen nhw’n dod ohoni wrth bontio i’r ysgol uwchradd.

Nodwyd anghenion datblygiad proffesiynol, a oedd yn gyson ar draws ein holl ysgolion, a’u cysylltu â’n cynlluniau datblygu ysgol. Yn dilyn hyn, trefnwyd diwrnodau HMS clwstwr a hyfforddiant allanol ar gyfer yr holl aelodau staff sy’n gysylltiedig ag anghenion datblygiad proffesiynol ein hysgolion, pob un wedi’i gysylltu’n agos â’r Cwricwlwm Newydd ac addysgeg.

Ar ben hynny, lluniwyd rhaglen ar gyfer tymor yr hydref lle gallai pob arweinydd Maes Dysgu a Phrofiad (AOLE) o bob ysgol ddod at ei gilydd i rannu eu dysgu proffesiynol a chydweithio i greu cwricwlwm clwstwr ymarferol nad yw’n agored i drafodaeth. Roeddem yn cydnabod y byddai’r Cwricwlwm Newydd yn unigryw ac yn bwrpasol i’n hysgolion a’n cyd-destunau ein hunain, ond roedd angen i edefyn redeg drwy’r cyfan, gan ddechrau gyda chyd-destun y clwstwr.

Rhoddwyd amser i’r staff ymgyfarwyddo â dogfennau allweddol sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm cyn dod at ei gilydd, a threfnwyd cymorth gan Gonsortiwm Canolbarth y De ar gyfer y sesiwn gychwynnol ar gyfer pob AOLE i gyflwyno’r cefndir, darparu cymorth ac arweiniad, er mwyn rhannu unrhyw ymchwil a rhaeadru arferion da o’r rhanbarth. Yna, fe wnaeth arweinwyr AOLE gydweithio i ddechrau creu dogfennau’r cwricwlwm, gyda Phennaeth neu ymarferydd arweiniol o un o ysgolion y clwstwr yn bresennol i helpu i hwyluso pob cyfarfod.

Mae gan y clwstwr hanes hirsefydlog o gydweithio llwyddiannus ac mae Penaethiaid yn cyfarfod bob wythnos i drafod materion perthnasol. Ar ôl cynnal pob cyfarfod AOLE, byddai penaethiaid yn casglu adborth ac yn trafod unrhyw addasiadau sydd eu hangen i symud ymlaen. Edrychwyd ar y dogfennau gwaith yn rheolaidd a lle’r oedd angen amser datblygu proffesiynol ychwanegol, trefnwyd amser ar gyfer gwaith cydweithredol pellach. Nid yw’n gynnyrch gorffenedig o bell ffordd a bwriedir i’r dull o gydweithio barhau am beth amser i ddod.

Mae’r arweinwyr wedi dechrau datblygu dogfen datblygiad proffesiynol cydweithredol i rannu’r arbenigedd sydd ar gael ym mhob ysgol fel y gellir trefnu cymorth a hyfforddiant yn y clwstwr wrth symud ymlaen. Er enghraifft, nodi arbenigwyr a allai helpu ysgolion eraill o ran addysgu dawns, drama, neu iaith dramor fodern. Hefyd, cytunodd y clwstwr i gyflwyno enwau staff ar gyfer cyfleoedd datblygiad proffesiynol allanol sy’n gysylltiedig â chynllunio’r cwricwlwm fel y bydd o leiaf un person o’r clwstwr yn cael hyfforddiant i’w raeadru i weddill yr ysgolion. Yn yr un modd, mae pob pennaeth wedi dechrau ar hyfforddiant arweinyddiaeth gyda’r awdurdod lleol sy’n gysylltiedig â chynllunio’r cwricwlwm i hyrwyddo ein dysgu proffesiynol ein hunain a dangos ein bod ni i gyd yn dysgu gyda’n gilydd.

Mae ein hysgolion yn wahanol iawn ac mae sawl dull gwahanol o fynd i’r afael â’r hyn a wnawn a’r hyn sydd ei angen yn ein hysgolion unigol. Er hynny, rydym yn credu bod cryfder yn ein dull cydweithredol o ddatblygiad proffesiynol ac yn cydnabod yr edefyn sy’n ein clymu at ein gilydd, sef dymuno’r gorau i’n plant a’n staff waeth o ba ysgol y maent yn dod ohoni. Ein cwricwlwm nad yw’n agored i drafodaeth yw asgwrn cefn ein cwricwlwm fel clwstwr.

Mae’r staff wedi cael cyfle i ddatblygu’n broffesiynol, gyda chefnogaeth cydweithwyr â chefndiroedd a phrofiadau cwricwlwm tebyg yn ogystal â chymorth allanol. Mae hyn wedi arwain at fwy o hyder ymhlith staff i ddatblygu’r dulliau o ymdrin â’r cwricwlwm newydd ar lefel clwstwr ac ysgol. Mae wedi arwain hefyd at y clwstwr yn gallu rhannu llwyth gwaith – gan gydweithio yn hytrach na gweithio’n unigol.

O’r datblygiad proffesiynol a’r HMS a rennir, rydym eisoes wedi gweld effaith ar draws yr ysgolion o ran addysgeg darllen a rhifedd a safonau a chynnydd disgyblion, er ei bod hi’n ddyddiau cynnar ar y daith hon o hyd.

Pob Astudiaethau Achos