Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Tregatwg

LPL GreenYsgol Gynradd Tregatwg

Yn canolbwyntio ar gefnogi pob dysgwr ac yn ystyried lles

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Tregatwg wedi’i lleoli yn y Barri ym Mro Morgannwg. Mae 500 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 88 o ddisgyblion meithrin rhan-amser. Mae 14 dosbarth blwyddyn a phedwar dosbarth meithrin yn yr ysgol. Mae tua 36% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae gan 31% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Cadoxton Primary School Pupils

Dull a ddilynwyd

Mae lles wedi bod wrth wraidd ein cynllun datblygu ysgol am y pum mlynedd diwethaf. Mae’n rhaid i’n cynnig dysgu proffesiynol ganolbwyntio ar ddysgwyr ac ystyried eu lles, oherwydd rydym yn gwybod y gallai fod yn anodd iddynt ymgysylltu â phob agwedd ar fywyd yr ysgol os nad yw eu lles yn cael ei gefnogi a’i reoleiddio’n dda.

Mae plant a’u lles wrth wraidd ein diben fel ysgol, a hon yw ein blaenoriaeth fwyaf. Heb les cadarnhaol, mae ein staff yn gwybod nad yw ein plant yn barod i ymgysylltu â dysgu ac na fydd ein staff ar eu gorau ar gyfer y dysgwyr.

Mae ein cynnig dysgu proffesiynol wedi canolbwyntio’n strategol ar ein hymagwedd ysgol gyfan at les, ond mae sawl agwedd i hyn. Rydym wedi ystyried nodweddion canlynol ein dysgwyr:

  • Lles seicolegol – boddhad bywyd dysgwyr, eu hymdeimlad o bwrpas, hunanymwybyddiaeth ac absenoldeb problemau emosiynol.
  • Lles corfforol – dysgwyr yn mabwysiadu ffordd o fyw iach, ac iechyd cyffredinol dysgwyr.
  • Lles cymdeithasol – perthynas dysgwyr ag aelodau’r teulu, cyfoedion ac athrawon, a theimladau dysgwyr am eu bywyd cymdeithasol
  • Lles gwybyddol – hyfedredd dysgwyr i gymhwyso’r hyn y maent yn ei wybod i ddatrys problemau.

Yn dilyn y pandemig, rydym yn gwybod bod angen mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan at les i sicrhau bod yr ysgol yn iach yn emosiynol ac yn feddyliol; mae hyn yn helpu plant i ffynnu, dysgu a llwyddo trwy ddarparu cyfleoedd i’r plant a’r oedolion o’u cwmpas ddatblygu cryfderau a sgiliau ymdopi sy’n sail i gadernid.

Mae ein dull gweithredu wedi’i ymwreiddio yn niwylliant ac ethos yr ysgol erbyn hyn, ac mae’n cael effaith sylweddol ar iechyd a lles dysgwyr gan ei fod yn dylanwadu ar eu hymdeimlad o berthyn a gwerth. Mae ein plant a’n staff yn disgwyl i’r ysgol fod yn lle diogel sy’n eu gwerthfawrogi’n gyfartal a’u parchu, ac mae gennym ymagwedd holistaidd at gefnogi lles da, sy’n cael ei ystyried yn fater i bawb.

Eleni rydym wedi canolbwyntio ein hamser a’n hymdrechion ar les staff a lles rhieni. Rydym yn ystyried ein hunain yn fwy na dim ond lleoliad sy’n addysgu plant yn academaidd, ac rydym yn neilltuo amser ac adnoddau i ddatblygu / cefnogi ein teuluoedd fel y gallant ffynnu. Mae hyn wedi cynnwys seicolegydd sy’n gweithio gyda theuluoedd i helpu i feithrin teuluoedd cadarnhaol a gwydn.

Hefyd, rydym wedi neilltuo amser i ddatblygu ein gweithgareddau corfforol a datblygu dealltwriaeth ein staff o lythrennedd corfforol, gan nodi pwysigrwydd bod yn gorfforol egnïol i ddatblygu lles corfforol a meddyliol staff a disgyblion.

Mae effaith y gwaith hwn yn cynnwys:

  • 90% o’r staff yn dweud eu bod yn teimlo bod rheolwyr llinell yn gwerthfawrogi eu lles i raddau mwy.
  • 72% o’r staff yn teimlo eu bod yn gallu rheoli eu lles eu hunain yn effeithiol y rhan fwyaf o’r amser.
  • 84% o’r staff wedi datblygu strategaethau amrywiol i gefnogi eu lles eu hunain – cynnydd o 30%.
  • Y rhan fwyaf o’r staff yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn rhan o gymuned yr ysgol (Hydref 2021).
  • Pawb o’r staff yn dweud bod mwy o blant yn barod i ddysgu ac ymgysylltu’n gadarnhaol â phrofiadau dysgu.
  • Mae bron pob un o’r Cynorthwywyr Cymorth Dysgu wedi dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn eu gallu i gefnogi lles dysgwyr.
Pob Astudiaethau Achos