Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Tregatwg

LPL GreenYsgol Gynradd Tregatwg

Wedi’i wreiddio mewn gwelliant proffesiynol a gwella ysgolion

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri. Mae’n ysgol gynradd gymunedol fawr sydd â 500 o blant ar y gofrestr a thros 70 o staff. Bu’n ysgol arloesi ar gyfer dysgu am y cwricwlwm a dysgu proffesiynol, ac mae wedi defnyddio’r cyfle hwn i ymgorffori dull gweithredu ysgol gyfan ym maes dysgu proffesiynol.

Cadoxton Primary School

Dull a ddilynwyd

Ein gweledigaeth ar gyfer dysgu proffesiynol yw sicrhau bod “Amser a Lle” wedi’u hymwreiddio ym mywyd yr ysgol. Trwy gyfrwng proses ymholi gyson rydym yn defnyddio gwaith monitro a gwerthuso i lywio unrhyw newidiadau, twf a gwelliant. Rydym yn defnyddio ymarfer myfyriol, hyfforddi a mentora fel dull o roi ymreolaeth i bawb.

Wrth gynllunio ein dysgu proffesiynol mewn ffordd strategol, rydym yn dechrau trwy ofyn pam, sut, a beth rydym am ei wneud er mwyn cefnogi gweledigaeth glir ar gyfer ein dulliau gweithredu i wella’r ysgol a chynllunio’r cwricwlwm. Rydym yn myfyrio ar ein gweledigaeth gyda’n holl randdeiliaid yn rheolaidd ac yn defnyddio’r broses hon i ganolbwyntio ar ein dibenion craidd.

Mae ein cynnig dysgu proffesiynol yn unigryw i Ysgol Tregatwg, ac mae’r prif flaenoriaethau’n deillio o’n Cynllun Datblygu Ysgol. Mae ein Cynllun Datblygu Ysgol yn cael ei greu yn ystod diwrnod adolygu ysgol gyfan, sy’n digwydd ym mis Mawrth, fel bod modd creu cynllun newydd yn ystod tymor yr haf. Mae ein Cynllun Datblygu Ysgol yn cael ei greu o dan dri phennawd – Dull Gweithredu Tregatwg, Cynllunio Ein Cwricwlwm, Galluogedd Personol a Thwf Cymunedol. Hefyd, mae ein cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer ein holl staff yn ymateb i’r amgylchedd allanol a’r sefyllfa bresennol. Er enghraifft, roedd yr egwyddorion ar gyfer creu cynllun cwricwlwm ysgol effeithiol yn berthnasol i’r broses o greu a chynllunio ein darpariaeth dysgu o bell. Rydym yn defnyddio grymoedd diwylliannol allweddol i werthuso ein dysgu a chynllunio ein cwricwlwm, megis yr amgylchedd, iaith, disgwyliadau uchel, dysgu dilys, cysylltiadau ystyrlon, arferion ar gyfer dysgu, amser a lle ar gyfer archwilio, modelu meddwl a dysgu.

Dyna’n union yw ein taith cwricwlwm, taith gam wrth gam sydd wedi’i chynllunio. Rydym wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn dod i wybod a deall beth mae’r pedwar diben yn ei olygu yn ein cyd-destun ni, gan ganolbwyntio ar bob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh) ar wahân fel bod staff yn deall sut maen nhw’n galluogi’r pedwar diben, a pha addysgeg a dulliau gweithredu sy’n berthnasol i’r MDPh hwnnw. Un enghraifft o hyn yw staff yn cydweithio i greu llyfrau lloffion mawr er mwyn darparu enghreifftiau ymarferol o bob MDPh yn ystod pob cam cynnydd. Mae angen i ni fod ag agwedd hyblyg at newid sy’n seiliedig ar beth sy’n digwydd yn y byd, gan groesawu unrhyw gyfleoedd sy’n codi ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â’n diben a’n gweledigaeth graidd.

Rydym bellach mewn sefyllfa i ddeall a threialu sut mae’r pedwar diben a’r MDPh yn gweithio gyda’i gilydd, gan ganolbwyntio ar sut mae dysgu’n trosglwyddo o un maes i faes arall. Rydym wedi treulio amser yn cydweithio â’r Bartneriaeth Addysgu a Dysgu – gan ddefnyddio’r berthynas rydym wedi’i datblygu gyda’r asiantaeth allanol hon. Rydym wedi ystyried egwyddorion cynnydd cyn mapio ein cynnig cwricwlwm ar lefel ysgol ar sail anghenion ein dysgwyr a’u teuluoedd. Hefyd, rydym wedi canolbwyntio ar sut mae datblygiad plant yn gwella ein dealltwriaeth o gynnydd.

Ochr yn ochr â’n map cwricwlwm, rydym wedi datblygu taith asesu gan fynd ati i feddwl yn ofalus am beth rydym yn ei wneud, pam rydym yn ei wneud, ac ar gyfer pwy. Rydym wedi archwilio sut mae asesu dysgu yn wahanol i asesu ar gyfer dysgu a sut beth yw hyn yn ymarferol.

Mae ymholi gweithredol wedi bod yn allweddol i’r ysgol erioed, a thrwy ein gwaith ymchwil rydym wedi edrych ar fodelau rhyngwladol er mwyn ein galluogi i ddatblygu dysgu seiliedig ar ymholi fel dull addysgegol.

Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi mesur effaith y dull hwn o ddysgu proffesiynol trwy gynnal sgyrsiau datblygiad proffesiynol gyda staff a phlant. Mae hyn wedi dangos newid clir mewn diwylliant, ac mae athrawon a staff yn teimlo bod dysgu proffesiynol yn perthyn iddyn nhw ac yn berthnasol i’r broses o wella’r ysgol a chynllunio’r cwricwlwm. Rydym wedi gweld yr effaith fwyaf ar y plant a sut y maent yn siarad am eu dysgu fel proses gyda thystiolaeth o’u cryfderau a’r camau nesaf ar gyfer datblygu. Mae effaith datblygu systemau a phrosesau llwyddiannus i sicrhau bod ein hysgol yn sefydliad sy’n dysgu yn cynnwys:

  • Meithrin gweledigaeth gyffredin ar gyfer dysgu proffesiynol a fynegir gan bawb
  • Dealltwriaeth glir o natur cwricwlwm a arweinir gan ddiben a’r hyn sy’n wahanol i’n cwricwlwm presennol
  • Dysgu seiliedig ar ddatblygiad plant
  • Dathlu llwyddiant yn rheolaidd
  • Yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn mapio ein blaenoriaethau ac yn nodi sut maen nhw’n cyd-fynd â’r Genhadaeth Genedlaethol yn yr hirdymor
  • Deall fframwaith y cwricwlwm a’i ddefnyddio i greu ein cwricwlwm ysgol ein hunain
  • Penderfynu ar ein haddysgeg allweddol a’i hymwreiddio fel model dysgu proffesiynol effeithiol
  • Mae llai yn fwy – gwaith trylwyr a chywir gyda ffocws gwirioneddol ar arafu pethau
  • Treialu a myfyrio – mae hon yn broses anodd sy’n cymryd amser
  • Cydweithio ag ysgolion a sefydliadau eraill i hwyluso gweithio mewn partneriaeth.
Pob Astudiaethau Achos