Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Coed Duon

Ysgol Gynradd Coed Duon

Wedi’i gynllunio i alluogi dulliau arloesol o ddysgu ac addysgeg

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Coed Duon yn awdurdod lleol Caerffili. Ar hyn o bryd, mae 416 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 15 o ddosbarthiadau a mynediad dau ddosbarth gan gynnwys meithrinfa a Phlant sy’n Codi’n 3 oed. Mae 22% o ddisgyblion yn gymwys i gael PYDd ac mae gan 16% ADY. Ychydig iawn o ddisgyblion sydd o gefndir ethnig lleiafrifol neu Gymraeg iaith gyntaf.

 

Dull a gymerwyd

Mae Ysgol Gynradd Coed Duon wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol. Mae’r astudiaeth achos hon i amlygu’r daith a gymerwyd dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu athroniaeth Cyfnod Sylfaen o’r Meithrin hyd at Flwyddyn Chwech fel ffocws ar gyfer gwybodaeth addysgeg a chynllunio’r cwricwlwm.

Ymunodd y pennaeth â’r ysgol yn 2018. Cydweithiodd yr holl randdeiliaid i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol. Gyda’n gilydd fe benderfynon ni ganolbwyntio ar addysgeg a’r profiadau dysgu roedden ni eisiau eu darparu ar gyfer plant Ysgol Gynradd Coed Duon tra’n canolbwyntio ar yr egwyddorion addysgeg ar gyfer Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r astudiaeth achos hon yn dogfennu taith ddysgu broffesiynol Ysgol Gynradd Coed Duon i greu amgylchedd dysgu sy’n darparu cyfleoedd dysgu cyfunol i ddisgyblion yn seiliedig ar athroniaeth y cyfnod sylfaen isod:

Mae’r holl staff yn cymryd rhan lawn mewn dysgu proffesiynol ar lefel unigol, cyfnod, ysgol, clwstwr a rhanbarthol gyda Chwricwlwm i Gymru. Cafodd y pedwar diben eu hystyried o ddechrau’r daith ac mae disgyblion, ochr yn ochr â staff, wedi defnyddio dogfennaeth i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae’r pedwar diben yn cael eu gwireddu yn Ysgol Gynradd Coed Duon. Roedd yr holl randdeiliaid yn ymwneud â chreu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol a oedd â’r pedwar diben wrth galon bywyd yr ysgol. Ailymwelir â hyn a’i atgyfnerthu’n rheolaidd wrth i staff a disgyblion ymdrochi yn y pedwar diben. Caiff effaith a dealltwriaeth bellach a gefnogir gan ymchwil a chymhwyso ymarferol eu rhannu mewn ffordd gefnogol gan arweinwyr a’r holl staff.

Mae Ysgol Gynradd Coed Duon yn ysgol mynediad dau ddosbarth. Mae’r staff yn gweithio o fewn timau carfan grwpiau blwyddyn ac yn rhannu’r addysgu a’r dysgu rhwng dwy ystafell ddosbarth ac ardal allanol. Mae’r dull colegol hwn yn creu cyfle i staff rannu gwybodaeth a medrau. Ar ddechrau’r daith, roedd metawybyddiaeth (ac mae’n dal i fod) yn ffocws mawr i gefnogi plant gyda’u dysgu. Ymgymerwyd ag ymchwil i’r pwll dysgu a’r meddylfryd twf a’i addasu i anghenion y plant. Rhannwyd dysgu proffesiynol gyda rhieni, cydweithwyr a llywodraethwyr trwy bosteri dysgu proffesiynol a oedd yn cynnwys yr ymchwil a wnaed a’r effaith a arsylwyd.

Ailgynlluniwyd yr amgylchedd ffisegol i archwilio modelau a chyfleoedd dysgu uniongyrchol, wedi’u hwyluso ac annibynnol. Defnyddiwyd arbenigedd o fewn yr ysgol i gefnogi’r newid angenrheidiol tuag at weledigaeth newydd yr ysgol. Roedd defnyddio MDPh fel sail ar gyfer cyfleoedd dysgu yn golygu bod cynllun yr ystafelloedd dosbarth wedi newid yn sylweddol. Cynlluniwyd dysgu proffesiynol i gefnogi ymchwil i ddatblygiad plant. Cytunodd y staff ar feysydd a fyddai’n angenrheidiol i gefnogi dilyniant o’r blynyddoedd cynnar i flwyddyn 6. Cynhaliwyd ymweliadau â lleoliadau eraill a oedd yn defnyddio dull tebyg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn dilyn cyfnod o ymchwil a newid cyflym roedd yn gyfnod lle bu staff yn cydweithio i atgyfnerthu eu dysgu a pharhau i werthuso a newid yr amgylchedd i ddiwallu anghenion eu carfan o blant.

Mae dysgu annibynnol yn nodwedd gref o gynllunio’r cwricwlwm ar gyfer Ysgol Gynradd Coed Duon. Nododd staff ddysgu proffesiynol yr oedd ei angen i wella’r newidiadau yn yr amgylchedd dysgu. Cymerodd staff lawer o gyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn meysydd fel gwaith coed, chwarae bloc a hylendid bwyd. Dilynwyd hyn gan gydweithio ar lefel ysgol i sicrhau y byddai’r dysgu proffesiynol yn trosi’n ddarpariaeth barhaus gynyddol drwy’r ysgol o’r meithrin i flwyddyn 6.

Mae’r awyr agored yn cael ei defnyddio fel rhan o’r amgylchedd dysgu drwy’r ysgol. Mae hyn yn parhau i fod yn rhan o gynllun datblygu’r ysgol gan fod cyfleoedd i gefnogi’r wybodaeth addysgegol yn cael eu cymryd i sicrhau bod symud dysgu’r plentyn yn ei flaen yn ffocws i’r holl staff.

Mae dulliau asesu wedi bod yn nodwedd gref o’r cylch MER. Mae staff wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau heriol yn bwrpasol i sicrhau nad oedd newidiadau i gynllun y cwricwlwm yn golygu gostyngiad mewn safonau. Parhaodd sesiynau â ffocws i ddarparu’r safonau disgwyliedig gan y plant. Fodd bynnag, mae’r dysgu annibynnol wedi mynd ar daith ei hun lle mae staff a disgyblion wedi treialu sawl dull o sgaffaldio a chefnogi’r plant i gyflawni’r un safonau yn annibynnol ac wrth weithio’n uniongyrchol gydag athro. Mae hyn yn barhaus ac mewn cyfnod o gydgrynhoi. Nodwyd bod angen amser i sefydlu systemau a dysgu proffesiynol i gefnogi’r systemau sy’n cael eu hadolygu’n barhaus.

Mae staff yn gweld dysgu proffesiynol fel hawl sy’n cefnogi ac yn meithrin cydlyniad sy’n gysylltiedig ag addysgeg a chynllunio’r cwricwlwm. Mae Ysgol Gynradd Coed Duon yn atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd mewn diwylliant sy’n annog staff i ddefnyddio cyfleoedd dysgu proffesiynol i werthuso a gwella dulliau addysgu a dysgu. Mae dysgu proffesiynol yn cael ei gynllunio trwy gyfuniad o staff cyfan, ffocws cyfnod, tîm ac unigol ac mae cysylltiadau cryf â GCA wedi darparu cyfleoedd i weithio gyda modelau ymchwil gwahanol. O ganlyniad, mae staff yn gwerthfawrogi’r dysgu proffesiynol sy’n cael effaith ar eu haddysgu. Mae arweinwyr yn yr ysgol yn cydnabod pwysigrwydd darparu amser ac adnoddau i alluogi dysgu proffesiynol effeithiol ac mae’r uwch dîm arwain a’r llywodraethwyr wedi ymrwymo i gefnogi pob un o’r staff i gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus.

Pob Astudiaethau Achos