Mae Ysgol Gynradd Coed Duon yn awdurdod lleol Caerffili. Ar hyn o bryd, mae 416 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 15 o ddosbarthiadau a mynediad dau ddosbarth gan gynnwys meithrinfa a Phlant sy’n Codi’n 3 oed. Mae 22% o ddisgyblion yn gymwys i gael PYDd ac mae gan 16% ADY. Ychydig iawn o ddisgyblion sydd o gefndir ethnig lleiafrifol neu Gymraeg iaith gyntaf.
Mae Ysgol Gynradd Coed Duon wedi ymrwymo i ddarparu’r profiadau dysgu gorau i’n plant mewn diwylliant heb fai, mentro lle mae staff yn cael eu hannog i ymgymryd ag ymchwil, ymholi proffesiynol a defnyddio arbenigedd allanol.
Fel ysgol dysgu broffesiynol rhanbarthol ar gyfer y consortia GCA, roedd yn hollbwysig ein bod yn galluogi ein staff i ymgymryd ag ymchwil a fyddai’n sicrhau bod ein holl arferion yn gyfredol ac yn adlewyrchu cyd-destun rhyngwladol, cenedlaethol a rhanbarthol. Roedd ymchwil ac ymholi yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth ynghyd â staff yn ymgysylltu’n llawn â’r ysgol fel sefydliad dysgu, yn golygu bod ymchwil ac ymholi yn rhan annatod o ddiwylliant yr ysgol.
Yn fewnol, nodwyd dysgu broffesiynol fel ffocws yn y cynllun datblygu ysgol ac roedd yr holl staff yn cymryd rhan mewn prosesau dysgu proffesiynol gyda chymorth. I ddechrau, gweithiodd yr holl staff ar y cyd mewn timau i bennu ymchwil a fyddai’n llywio arferion o fewn yr ysgol. Dechreuodd pob un o’r staff eu dyddiaduron dysgu eu hunain i gofnodi unrhyw ddysgu proffesiynol a oedd yn cynnwys eu myfyrdodau eu hunain, eu hymrwymiadau i weithredu ac effaith. Yna rhannwyd yr effaith ar ffurf posteri dysgu broffesiynol sydd i’w gweld ar wefan yr ysgol.
Er bod ymchwil gweithredu wedi dod yn gyfrwng i gefnogi gwella ysgolion yn gyflym, roedd yn amlwg y byddai arbenigedd allanol yn helpu i sicrhau’r dyfnder angenrheidiol. Nododd arweinwyr ysgol staff a fyddai’n cymryd rhan mewn sawl prosiect ymholiad allanol:
Mae’r holl gyfleoedd dysgu proffesiynol amrywiol wedi galluogi’r ysgol i ddatblygu arlwy dysgu proffesiynol hynod effeithiol sy’n cynnwys staff ar bob lefel.
Mae staff yn gweld dysgu proffesiynol fel hawl sy’n cefnogi ac yn meithrin cydlyniad sy’n gysylltiedig ag addysgeg a chynllunio’r cwricwlwm. Rydym wedi gallu atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd mewn diwylliant sy’n annog staff i ddefnyddio cyfleoedd dysgu proffesiynol i werthuso a gwella dulliau addysgu a dysgu. Mae dysgu proffesiynol yn cael ei gynllunio trwy gyfuniad o staff cyfan, cyfnod, tîm a ffocws unigol. Mae cysylltiadau cryf â’r GCA wedi rhoi cyfleoedd i staff weithio’n rheolaidd ar lefel clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol ar faterion addysgol cyfredol sy’n cael eu llywio gan ymchwil a chydweithio.