Skip to main content
English | Cymraeg

Asesu Plant yn Fathemategol gydag Adborth Personol Di-oed

Ysgol Bro Preseli

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad â Dr Angharad Thomas, athrawes fathemateg yn Ysgol Bro Preseli, i ganfod sut y clywodd am y Grant Arloesedd drwy eu Pennaeth, sy’n Gydymaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ac sy’n gyfarwydd â manteision datblygu a gwella arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.

 

Y Broblem

Diben prosiect Ysgol Bro Preseli oedd datblygu ffordd o asesu dysgwyr yn ddigidol, yn benodol mewn mathemateg. Mae asesu ac adborth yn greiddiol i gynnydd dysgwyr, ond gall hyn gymryd cryn amser i athrawon gynllunio a pharatoi ar eu cyfer. Os oes angen ymarfer ychwanegol ar ddysgwr hefyd, yna mater i’r athro yw creu adnoddau ychwanegol. Cynnig yr ysgol oedd defnyddio’r Grant Arloesedd i ryddhau aelod o staff o’r adran fathemateg i dreulio amser yn datblygu asesiadau ar-lein. Ymhelaetha Dr Thomas: “Mae system ar-lein am ddim, Numbas, sy’n rhoi cyfle i ddatblygu aseiniadau pwrpasol ar gyfer pob grŵp blwyddyn a phwnc mewn mathemateg. Ceir sawl mantais wrth ddefnyddio’r rhaglen hon, megis rhoi camau i mewn ar gyfer cwestiynau cymhleth a thynnu rhai marciau os bydd disgyblion yn clicio i weld y camau. Hefyd mae’n rhoi adborth uniongyrchol wedi’i bersonoli ar ôl prawf neu aseiniad gwaith cartref.”

Byddai’r grant yn galluogi’r aelod staff a ddewiswyd i ddysgu sut i ddefnyddio’r rhaglen hon orau fel bod yr holl adborth asesu mathemateg wedi’i bersonoli ac yn cael ei roi yn ddi-oed ar ôl i’r disgybl gwblhau’r asesiad, gan sicrhau’r cyfleoedd dysgu gorau posibl.

 

Y Fethodoleg

Roedd camau cyntaf y prosiect yn cynnwys yr athro mathemateg yn canolbwyntio ar ddatblygu asesiad a oedd yn addas i ddechrau at ddibenion dysgwyr Cyfnod Allweddol 3. Roedd y prosiect yn wynebu rhai heriau cyn derbyn y cyllid, megis cyfyngiadau amser i ysgrifennu cwestiynau, gosod cyfyngiadau ar newidynnau’r rhaglen, ac ysgrifennu adborth, ond datryswyd y rhain gan y Grant Arloesedd. Mater arall oedd bod Numbas yn ei gwneud hi’n hawdd amrywio cwestiynau trwy fformiwlâu, fodd bynnag, roedd yr amrywiaeth ar hap hwn o rifau yn golygu y byddai gan rai dysgwyr gwestiynau anoddach nag eraill. Gellid datrys hyn naill ai drwy greu taflen adolygu i gael amrywiaeth o rifau ond dim ond rhoi rhifau penodol ar gyfer y prawf, neu drwy fod yn hynod ofalus wrth gyflwyno cyfyngiadau i’r system wrth ddewis rhifau. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, cysylltodd yr ysgol ag adran fathemateg Prifysgol Newcastle a ddatblygodd y rhaglen Numbas. Eglura Dr Thomas: “O ganlyniad i ofyn am help, llwyddodd yr ysgol i greu cwestiwn lle nid yn unig mae’r rhifau yn newid, ond mae’n bosib tynnu lluniau cylchoedd, sgwariau, ac ati, lle mae nifer y siapiau yn newid i bob dysgwr.”

 

Y Canlyniadau

Mae prosiect Ysgol Bro Preseli yn parhau, a bwriad yr ysgol yw defnyddio’r system asesu newydd ar gyfer rhai o brofion diwedd uned dosbarth Blwyddyn 7 a bydd y dosbarthiadau eraill yn sefyll asesiad papur er mwyn cymharu. Wrth symud ymlaen, blaenoriaethau’r prosiect fydd ychwanegu at fanc cwestiynau’r rhaglen, cyfieithu’r rhyngwyneb rhwng y dysgwyr a’r feddalwedd, edrych ar sut i gofnodi marciau’r dysgwyr yn haws, ac ehangu’r tîm a all ddefnyddio’r meddalwedd.

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan yr arloesi digidol sydd wedi’i feithrin yn Ysgol Bro Preseli. Dywedodd Dr Thomas: “Mae’r prosiect hwn yn dangos ei bod yn bosibl creu asesiadau ar gyfer mathemateg y gellir eu ffurfweddu’n llwyr ar gyfer pob oedran.

Mae’n ymddangos bod y system sy’n ysgrifennu’r feddalwedd yn gymhleth i ddechrau ond pe bai grŵp o athrawon/defnyddwyr yn gweithio gyda’i gilydd, byddai’n bosib creu banc enfawr o gwestiynau ar gyfer defnydd athrawon mathemateg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.”

 

Cyngor i Eraill

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cefnogi llawer o ysgolion yng Nghymru ar eu taith arloesi, mae Dr Thomas yn cadarnhau: “Mae’r cyllid yn rhoi cymhelliant ac yn ei gwneud yn rhwyddach i ysgolion allu ymgymryd â’r gwaith arloesol heb effeithio’n andwyol ar y ddarpariaeth bresennol yn yr ysgol.

Os nad ydym wedi dysgu unrhyw beth arall o ddyddiau Covid-19, fe wnaethom ni ddysgu pwysigrwydd bod yn gyfforddus yn defnyddio technoleg. Mae cymaint o ddatblygu systemau a meddalwedd newydd, ein cyfrifoldeb ni yw gweld a allwn nid yn unig gynyddu cyrhaeddiad ond ehangu’r profiadau o fewn ein pynciau.”

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesedd ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos