Skip to main content
English | Cymraeg
Darpariaeth Arweinyddiaeth a Gymeradwywyd mewn ysgrifen wen ar gefndir gwyrdd

Darpariaeth Arweinyddiaeth a Gymeradwywyd

 Un o’n dibenion craidd yw cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu cydlyniad a sicrhau ansawdd ar gyfer ystod o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth addysgol trwy broses gymeradwyo a arweinir gan gymheiriaid.

Pan fyddwn yn cymeradwyo darpariaeth arweinyddiaeth, rydym yn datgan bod gennym hyder yng ngallu’r darparwr i ddatblygu a darparu ansawdd. Mae statws arnodedig yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn dangos bod y darparwr wedi bodloni’r meini prawf cymeradwyo a’r safonau uchel y mae’n eu mynnu gan ddarparwyr. Mae’n rhoi sicrwydd i arweinwyr bod y ddarpariaeth y maent yn buddsoddi ynddi yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau ar gyfer dysgwyr.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth a dolenni i’r ddarpariaeth sydd wedi’i chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar hyn o bryd a’r darparwyr sy’n cynnig y dysgu proffesiynol hwn.

Lawrlwythwch copi o’r Prosbectws Cymeradwyo
Darparwyr â darpariaeth a gymeradwywyd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol:

 

Endorsed Leadership Development Provision Logos

Archwiliwch y ddarpariaeth

ILM Diploma Lefel 5 ar Egwyddorion Arwain a Rheoli

Cam Yrfa: Athrawon ar lefel arweinyddiaeth ganol

ILM ar gyfer Addysgwyr

Cam Yrfa: Arweinwyr ac Arweinwyr Ysbrydoledig

Rhaglen Arweinyddiaeth Ddigidol

Cam Yrfa: Ar gyfer Penaethiaid, Uwch Dimau Arwain, Arweinwyr Canol ac Arweinwyr Digidol.

Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol

Cam Yrfa: Arweinwyr ac Arweinwyr Ysbrydoledig

Datblygu Arweinyddiaeth Ganol mewn Lleoliad Cynradd

Cam Yrfa: Arweinwyr canol presennol ac arweinwyr y dyfodol ledled Cymru

Tystysgrif Lefel 6 mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd

Cam Yrfa: Staff addysgu ac ymarferwyr o ysgolion a lleoliadau uwchradd (11-18)

ALP – Rhaglen Arweinyddiaeth Uwch 6 Diwrnod

Cam Yrfa: Cyfarwyddwyr, Cynghorwyr, Penaethiaid, Uwch arweinwyr

Rhaglen Hyfforddiant Weithredol Uwch 3 Diwrnod

Cam Yrfa: Cyfarwyddwyr, Cynghorwyr, Penaethiaid, Uwch arweinwyr

Gwytnwch 3 Diwrnod

Cam Yrfa: Pob lefel

Cyfres Uwch Arweinwyr a Llywodraethwyr DARPL

Cyfnod Gyrfa: Arweinwyr a Llywodraethwyr
Impact in Learning logo

Codi Cyrhaeddiad Disgyblion trwy Arwain Ymgysylltiad Rhieni

Cam Yrfa: Rhieni a gofalwyr

Rhaglen Datblygu Darpar Arweinwyr Ysgol (ASL)

Cam Yrfa: Aelodau o dimau arwain ysgolion a’r rhai sy’n dymuno cyflawni rolau arweinyddiaeth ysgol uwch
Leading Purpose Logo

Tystysgrif Hyfforddi a Mentora ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Cam Yrfa: Unrhyw un sy'n gweithio gyda Phobl Ifanc neu arwain oedolion yn y Sector Ieuenctid

Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Arweinwyr Addysg

Cam Yrfa: Arweinwyr addysgol

OLE – Rhaglen Arweinyddiaeth Ragorol mewn Addysg

Cam Yrfa: Swyddi rheoli canol yn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion

Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cam Yrfa: Ar gyfer athrawon sydd â’u bryd ar arweinyddiaeth ganol neu sy’n ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol.

Prentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cam Yrfa: Addas i reolwyr canol sy’n gyfrifol am raglenni a/neu adnoddau sylweddol sy’n awyddus i gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y sector addysg i rôl uwch
Regional Consortia Logo

Rhaglen Datblygu Rheolwyr Canol

Cam Yrfa: Arweinwyr canol ledled Cymru sydd â meysydd cyfrifoldeb a/neu’n rheolwr llinell ar staff.
Regional Consortia Logo

Rhaglen Datblygu Uwch Arweinwyr

Cam Yrfa: Arweinwyr sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am agwedd ar arweinyddiaeth ar draws sefydliad.
Regional Consortia Logo

Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid - Paratoi ar gyfer CPCP

Cam Yrfa: Ar gyfer darpar benaethiaid er mwyn paratoi ar gyfer cyflawni’r asesiad sy’n ofynnol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).
Regional Consortia Logo

Rhaglen Datblygu Penaethiaid Dros Dro a Phenaethiaid Newydd

Cam Yrfa: Penaethiaid newydd neu dros dro
Regional Consortia Logo

Rhaglen Datblygu Penaethiaid Profiadol

Cam Yrfa: Penaethiaid profiadol

Making Change Stick

Cyfnod Yrfa: Pawb mewn addysg – athrawon, arweinwyr, staff cymorth, disgyblion a rhieni a gofalwyr.

Rhaglen Arwain a Rheoli Gwaith Ieuenctid

Cam Yrfa: Uwch arweinwyr a darpar arweinwyr a rheolwyr mewn gwaith ieuenctid

Astudiaethau Achos

Taith ddysgu ddiddiwedd – gobeithio!

Taith ddysgu ddiddiwedd – gobeithio! Pan ofynnwyd i mi ysgrifennu am fy nhaith arweinyddiaeth fe …

Stori Arweinyddiaeth: Russ Dwyer

Stori Arweinyddiaeth: Russ Dwyer Bu Nia Miles, Pennaeth Mewnwelediad yn yr Academi Genedlaethol ar g…

Ewch amdani a gwrandewch i gyngor eich mentoriaid

Ewch amdani a gwrandewch i gyngor eich mentoriaid Rwy’n cofio cyrraedd Ysgol y Strade, yn Llanelli…