Skip to main content
English | Cymraeg
Arwain Dysgu Proffesiynol Header

Mae dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol…

Wedi’i wreiddio mewn gwelliant proffesiynol a gwella ysgolion

Mae gwella proffesiynol yn flaenoriaeth i arweinwyr ysgolion eu hunain. Maent yn datgan eu hymgysylltiad parhaus â dysgu proffesiynol yn glir i ddangos mai dyma’r norm, nid cyfres o brofiadau untro. Eu nod yw creu diwylliant lle mae staff yn gweld eu hunain fel dysgwyr a gwerthuswyr y ffyrdd maent yn cefnogi dysgu disgyblion (Daly, 2020; Morris et al, 2020;). Mae’r diwylliant dysgu proffesiynol maent yn ei sefydlu yn yr ysgol yn alluogol, rhyngweithiol, cydweithredol a phroffesiynol gritigol (Estyn, 2017; Woods a Roberts, 2018). Mae prif egwyddorion a disgwyliadau dysgu proffesiynol yn cael eu deall a’u gweithredu’n gyson. Mae’r broses yn ceisio bod yn gynaliadwy ac yn bosibl o fewn yr adnoddau sydd ar gael ac efallai y bydd ‘hwyluswyr dysgu proffesiynol’ dynodedig yn cael cyfrifoldeb am hyn (Perry and Booth, 2021; Le Fevre et al, 2015).

Mae arweinwyr yn gwerthfawrogi nad gwneud yr un peth yn well yw gwella. Mae nodau priodol yn cael eu pennu gydag adolygiad parhaus o addysgeg ac arweinyddiaeth fel ffocws, ond mae arweinwyr yn cydnabod nad yw dysgu proffesiynol yn broses linol yn aml ac y gall dysgu, ac eithrio hyfforddiant penodol, gael llawer o ganlyniadau (Boylan et al, 2018).  Mae cydweithwyr yn trafod, adolygu a gwerthuso eu haddysgu a’u harweinyddiaeth yn rheolaidd. Maent yn cymryd rhan mewn ymholiad proffesiynol beirniadol, gan ganolbwyntio ar beth sy’n bwysig iddyn nhw fel gweithwyr proffesiynol yn ogystal â’r hyn a restrwyd fel blaenoriaethau’r ysgol neu flaenoriaethau’r llywodraeth (Lambirth et al, 2021; Llywodraeth Cymru, 2019). Mae gweithwyr proffesiynol yn gofyn am safbwyntiau o wahanol ffynonellau (arweinwyr, cydweithwyr, disgyblion) i ddarparu safbwyntiau ar eu gwaith ac maent yn barod i newid cyfeiriad os oes angen (Harris, Jones a Crick, 2020). Gall safbwyntiau a gafwyd drwy ddysgu proffesiynol herio’r status quo ac mae arweinwyr yn defnyddio dulliau trawsnewidiol yn agored wrth ymarfer.

O ystyried y diwygiadau cwricwlwm presennol yng Nghymru, mae pwysigrwydd dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad a gweithrediad y cwricwlwm o arwyddocâd cenedlaethol yn ogystal â lleol. Mae gan arweinwyr ysgolion yng Nghymru her arbennig o ran cydbwyso blaenoriaethau unigolion ac ysgolion o fewn gofynion cenedlaethol newidiol (Llywodraeth Cymru, 2017; Cordingley et al. 2020).

Jones, K. (2022)

Cyfres Mewnwelediad: Arwain Dysgu Proffesiynol (2022)

Cordingley, P. et al (2020)

Developing great leadership of CPDL

Harris, A. et al (2020)

“Curriculum leadership: a critical contributor to school and system improvement.” School Leadership & Management 40:1-4

Lambirth, A. et al (2021)

Teacher-led professional development through a model of action research, collaboration and facilitation, Professional Development in Education, 47:5, 815-833,

Boylan, M. et al (2018)

Rethinking models of professional learning as tools: a conceptual analysis to inform research and practice, Professional Development in Education, 44:1, 120-139

Daly, C. et al (2020)

How do ecological perspectives help understand schools as sites for teacher learning?, Professional Development in Education, 46:4, 652-663

Morris J.E. et al (2020)

The role of leadership in establishing a positive staff culture in a secondary school. Educational Management Administration & Leadership. 48(5):802-820

Perry, E. and Booth, J. (2021)

The practices of professional development facilitators, Professional Development in Education

Estyn (2017)

Cymorth a chydweithio rhwng ysgolion – crynodeb a phapur trafod Caerdydd: Estyn
Document Icon

Le Fevre, D. et al (2015)

Developing adaptive expertise: The practice of effective facilitators, University of Auckland

Llywodraeth Cymru (2019)

Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol Hwb
Collaborative School Leadership. A critical guide

Woods, P. and Roberts, A. (2018)

Collaborative School Leadership. A critical guide. London: Sage

Gwneud y Cysylltiad

Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu

Datblygu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i’r holl staff

Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth

Dysgu Proffesiynol (rolau arweinyddiaeth proffesiynol)

Taith Dysgu Proffesiynol

Modelu arweinyddiaeth ddysgu

Taith Dysgu Proffesiynol

Dysgu proffesiynol staff

Cael Eich Ysbrydoli

Gofynnwyd i arweinwyr ysgolion ledled Cymru ddweud wrthym sut maen nhw’n Arwain Dysgu Proffesiynol, gan ddefnyddio pob un o’r wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol fel man cychwyn. Mae’r astudiaethau achos sy’n deillio o hynny’n cynnig cipolwg ar bob math o ddulliau effeithiol o Arwain Dysgu Proffesiynol a fydd, gobeithio, yn dod â’r dilysnodau’n fyw ac yn ysbrydoli ffyrdd strategol newydd a ffres o feddwl i arweinwyr eraill yng Nghymru. Rydym am i chi Gael Eich Ysbrydoli.

Darllenwch yr astudiaethau achos

 

Ymunwch

Os oes gan eich ysgol neu glwstwr enghraifft o ymarfer y gellid ei gynnwys yn yr adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol – o dan un (neu fwy) o wyth dilysnod dysgu proffesiynol gydag arweiniad da, rydym am glywed gennych chi.

Cysylltwch â ni