Bydd arweinwyr yn cynllunio rhywfaint o gymorth dysgu proffesiynol yn systematig i sicrhau cysondeb â blaenoriaethau polisi cenedlaethol a chydlyniant ar draws camau, adrannau a/neu feysydd dysgu. Mae gan unigolion daith ddysgu broffesiynol yn eu meddwl hefyd, er nad yw hyn yn eithrio dysgu proffesiynol anffurfiol a allai fod yn ad hoc ac yn bachu unrhyw gyfle ond yn ysgogiadol ac effeithiol iawn (Cordingley et al. 2020).
Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu cynlluniau dysgu proffesiynol ystyrlon a realistig, sy’n creu cyfleoedd rheolaidd, dilyniant, gweithgareddau atgyfnerthu a chymorth sydd gyda’i gilydd yn ffurfio cyfanwaith ystyrlon (Roy et al, 2021).
Mae rhai mathau o ddysgu proffesiynol angen ffocws tymor hirach (dau dymor neu flwyddyn o leiaf) fel bo’r dysgu’n cael ei ymgorffori mewn ymarfer a digon o amser yn cael ei roi i weld gwelliannau ym mhrofiad disgyblion. Caiff hyn ei ystyried wrth werthuso effaith cymorth dysgu proffesiynol (Jones, 2021).
Datblygu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i’r holl staff
Dysgu Proffesiynol (rolau arweinyddiaeth ffurfiol)
Gofynnwyd i arweinwyr ysgolion ledled Cymru ddweud wrthym sut maen nhw’n Arwain Dysgu Proffesiynol, gan ddefnyddio pob un o’r wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol fel man cychwyn. Mae’r astudiaethau achos sy’n deillio o hynny’n cynnig cipolwg ar bob math o ddulliau effeithiol o Arwain Dysgu Proffesiynol a fydd, gobeithio, yn dod â’r dilysnodau’n fyw ac yn ysbrydoli ffyrdd strategol newydd a ffres o feddwl i arweinwyr eraill yng Nghymru. Rydym am i chi Gael Eich Ysbrydoli.
Darllenwch yr astudiaethau achos
Os oes gan eich ysgol neu glwstwr enghraifft o ymarfer y gellid ei gynnwys yn yr adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol – o dan un (neu fwy) o wyth dilysnod dysgu proffesiynol gydag arweiniad da, rydym am glywed gennych chi.