Yr oedd yn fore oer a chras ym mis Tachwedd pan laniodd ein hawyren yn Dublin.Roedd ein Symposiwm Arweinyddiaeth Ganolog Tri-Gwlad gyntaf i’w gynnal ym Maynooth, taith fer i ffwrdd. Roedd yn gyfle gwych am ychydig o ddyddiau i gydweithio gyda phobl gyda’r un meddylfryd, gan rannu ein gwybodaeth a’n profiad am arfer arweinyddiaeth ganol effeithiol. Hwyluswyd y diwrnod cyntaf yn wych gan yr Athro Christine Forde gyda detholiad o gynrychiolwyr o Iwerddon, yr Alban a Chymru. Buom yn cydweithio i feithrin ein dealltwriaeth ac i nodi materion allweddol arweinyddiaeth ganol. Buom yn trafod rhai o’r ffactorau hwyluso a rhwystro cyffredin wrth ddatblygu arweinyddiaeth ganol ar draws y tair gwlad. Yna, gwnaethom gynnig strategaethau a chamau gweithredu i gryfhau capasiti y system a chefnogaeth i ddarparu a gwasanaethu arweinyddiaeth ganol.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw cawsom gyfle i ymweld â ‘An Chomhairle Mhúinteoireachta’ – Cyngor Addysgu Iwerddon, lle cyfarfuom â Tomás Ó Ruairc, a roddodd drosolwg diddorol iawn i ni o’r gwaith y mae’n ei wneud.
Ar yr ail ddiwrnod rhoddodd ein gwesteiwyr, o’r Ganolfan Arweinyddiaeth Ysgolion yn Iwerddon, gyfle i ni ymweld ag ysgolion lleol. Am brofiad anhygoel! Rhannwyd yn ddau grŵp – ymwelodd ein cydweithwyr uwchradd ag ysgol wych Ysgol Gymunedol Celbridge. Ynghyd â’m cydweithwyr cynradd cefais y fraint o gael croeso cynnes gan ddisgyblion a staff Ysgol Hŷn Mary Mother of Hope. Cannodd gôr yr ysgol eu cân ysgol wrth i ni gyrraedd, ac fe wnaethon ni hyd yn oed ddod ar draws rhai profiadau newydd gyda sesiynau mewn pêl-droed Gaeleg a hurling! Uchafbwynt y bore i mi oedd rhannu gwers gyda dosbarth o ddisgyblion a siaradodd â ni am eu dysgu, a wnaeth un grŵp hyd yn oed dysgu Gwyddeleg sylfaenol i ni.
Wrth i’r symposiwm ddod i ben, roedd consensws cryf bod yn rhaid i’r gynghrair hon barhau. Cawsom ddeialog wych a chafwyd positifrwydd ac egni sylweddol gan bawb dan sylw. Dysgon ni gymaint oddi wrth ein gilydd a theimlem ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un nod i sicrhau gwell gallu i arwain ar gyfer y dyfodol.
Sue Roberts, Cydymaith yr Academi a Phennaeth Ysgol Ffordd Dyffryn