Skip to main content
English | Cymraeg

Pen-i-ben

Ynghanol prysurdeb a bwrlwm bywyd ysgol, rydw i wedi bod yn neilltuo hanner awr yr wythnos i mi fy hun ar gyfer sesiynau lles Pen-i-Ben yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Efallai bod hyn yn cael ei ystyried braidd yn hunanol, ond rhaid cofio y bydd pawb o gymuned yr ysgol yn elwa yn y pen draw o gael pennaeth sy’n blaenoriaethu lles ei hunan. Mae lles yn flaenoriaeth cenedlaethol ac mae mynychu’r sesiynau fel pennaeth yn rhoi neges glir i’r holl rhan-ddeiliaid o statws lles o fewn yr ysgol.

Does dim gwaith paratoi, dim teithio a dydy’r sesiynau byth yn rhedeg dros amser. Rydw i hefyd ar safle’r ysgol os oes argyfwng yn codi ar fyrder. Mae yna ffocws wythnosol i’w drafod ar amryw o bynciau tu allan i fyd addysg. Mae’r sesiwn hanner awr yn rhoi toriad i’r ymennydd ac yn rhoi cyfle i’r corff ymlacio wrth fwynhau sgyrsiau ysgafn gyda chyfoedion.  Mae cael cyfle i drafod pynciau tu allan i fyd addysg yn helpu rhoi pyrsbectif ar waith sy’n gallu neud i chi deimlo eich bod yn mynd o dan y don weithiau. Wrth ddychwelyd i ffocysu ar waith ysgol, rwy’n teimlo fod fy ymennydd yn fwy effeithiol wrth drin a thrafod y cant a mil o bethau sydd i’w wneud ac rwy’n teimlo ychydig yn ysgafnach.

Rwyf hefyd wedi dod i adnabod nifer o gyfoedion ledled Cymru trwy sgrîn fy ngliniadur a mae hi wedi bod yn fraint cael rhannu profiadau. Yn amlwg mae pawb yn rhy brysur o ddydd i ddydd, ond buaswn yn argymell yn gryf i bob pennaeth neilltuo hanner awr yr wythnos i fynychu’r sesiynau Pen-i-Ben – mi fyddwch chi, eich teulu a’ch ysgol gyfan yn elwa yn y pen draw.

Cyfranogwyr Pen-i-Ben

Yn ôl