Skip to main content
English | Cymraeg
Croesawu Cymdeithion Carfan 6

Croesawu’r Cymdeithion Carfan 6 newydd

Mae’n bleser gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol groesawu 16 o arweinwyr newydd i rôl Cydymaith yn ein chweched garfan. Mae’r Cymdeithion i gyd yn uwch arweinwyr addysgol gweithredol ac yn adnodd amhrisiadwy sy’n sicrhau bod llais yr arweinyddiaeth yn cael ei glywed yn holl waith cynllunio, gweithgaredd a myfyrdod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Dywedodd Tegwen Ellis, Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol: “Pleser ac anrhydedd o’r mwyaf yw croesawu’r garfan ddiweddaraf o uwch arweinwyr addysgol i ddod yn Gymdeithion yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r arweinwyr ansawdd uchel hyn dros y ddwy flynedd nesaf a gweld sut mae eu hangerdd a’u brwdfrydedd dros bopeth arweinyddiaeth yn helpu i lunio gweledigaeth a phwrpas yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.”

Yr 16 Cydymaith newydd yw:

  • Nick Allen, Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot, Sir Benfro
  • Rhys Buckley, Ysgol WR Gynradd Bro Cleddau, Sir Benfro
  • Mathew Dunn, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Bro Morgannwg
  • Trystan Edwards, Ysgol Garth Olwg, Rhondda Cynon Taf
  • Aaron Ellis, Ysgol Y Deri, Bro Morgannwg
  • Martin Evans, Ysgol Gymraeg Pontardawe, Abertawe
  • Anna Griggs, Ysgol Gynradd Buttington Trewern, Powys
  • Loren Henry, Urban Circle Casnewydd, Cymru Gyfan
  • Karl Lawson, Ysgol John Bright, Conwy
  • Emma Lippiett, Coleg Sir Benfro, Sir Benfro
  • Siân Alderton Ross, Ysgol Nant y Groes, Conwy
  • Mel Ryan, Youth Cymru, Cymru Gyfan
  • Adele Slinn, Ysgol Bryn Alyn, Wrecsam
  • Dawn Spence, Awdurdod Lleol Sir y Fflint, Sir y Fflint
  • Darren Thomas, Ysgol Gynradd Pantysgallog, Merthyr Tudful
  • David Thomas, Gwella Ysgolion Abertawe, Abertawe

I ddarganfod mwy am y Cymdeithion newydd, darllenwch eu bywgraffiadau ar ein gwefan.

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn penodi carfan flynyddol o Gymdeithion, pob un ohonynt yn uwch arweinwyr addysgol gweithredol ar hyn o bryd. Mae’r Cymdeithion yn rhoi cyfleoedd i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gael mynediad at eu harbenigedd a’u gwybodaeth fel arweinwyr addysgol presennol.

Mae gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol bellach garfannau lluosog o Gymdeithion o bob rhan o Gymru sy’n symud ymlaen drwy fodel arweinyddiaeth system aeddfed ac maent yn cael effeithiau mesuradwy ar y system addysg y tu hwnt i’w sefydliadau eu hunain.

I ddysgu mwy am y Rôl y Cydymaith, ewch i’n tudalen Arweinyddiaeth System.

Yn ôl