Skip to main content
English | Cymraeg

Gwahoddiad i Uwchgynhadledd Addysg y Byd 2024

Mae’r Uwchgynhadledd Addysg Byd (WES) yn ddigwyddiad byd-eang sy’n dod â’r addysgwyr a’r arweinwyr meddwl gorau o bob rhan o’r byd ynghyd. Mae’r gynhadledd flynyddol sy’n dod â dros 400 o siaradwyr rhyngwladol at ei gilydd, dros 4 diwrnod byw, gyda mynediad am flwyddyn at ddysgu proffesiynol drwy ei borth Summit Central sy’n cynnwys deunydd am gannoedd o oriau.

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, wedi sicrhau cytundeb unigryw i gynnig cofrestriad am ddim i staff addysg ledled Cymru.

I sicrhau eich lle am ddim yn Uwchgynhadledd Addysg y Byd 2024, ewch i Hwb i gofrestru ar gyfer cyfrif neu fewngofnodi (os ydych wedi mynychu digwyddiadau blaenorol) drwy’r ddolen hon.

Drwy gofrestru ar gyfer Uwchgynhadledd Addysg y Byd 2024, byddwch yn gallu cymryd rhan am ddim yn yr Uwchgynhadledd ei hun (18-21 Mawrth) a bydd gennych hefyd 12 mis o fynediad am ddim i adnoddau WES.

Ar ôl cofrestru, bydd dolen fynediad atoch wythnos cyn yr Uwchgynhadledd i weld y rhaglen lawn ac archebu sesiynau unigol.

Yn ôl