Darganfyddwch Ein Hadnoddau ar Hwb
Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn gyffrous i gyhoeddi bod ei hadnoddau dysgu proffesiynol bellach ar gael ar Hwb fel rhan o lyfrgell adnoddau newydd Llywodraeth Cymru. Gall arweinwyr addysgol gael mynediad i amrywiaeth eang o gynnwys: darllen papurau Cyfres Mewnwelediad; dal i fyny ar weminarau gyda siaradwyr ysbrydoledig a gwrando ar bodlediadau yn trafod ystod o bynciau arweinyddiaeth.
Mae’r adnoddau sydd ar gael ar Hwb yn cynnwys:
- Recordiadau gweminarau: Cewch fynediad i amrywiaeth o recordiadau weminarau, megis Datgloi Arweinyddiaeth a Chynadleddau Arweinyddiaeth gyda siaradwyr fel yr Athro Graham Donaldson, Diana Osagie, yr Athro Mick Waters, Dr Simon Breakspear, Michael Fullan a llawer mwy.
- Podlediadau: Gwrandewch ar drafodaethau craff ag arweinwyr ysbrydoledig ac academyddion rhyngwladol o bob rhan o’r sector addysg – ysgolion, y sector gwaith ieuenctid, y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol – a thu hwnt. Mae’r podlediadau hyn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnig safbwyntiau amrywiol a chyngor ymarferol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol.
- Papurau Cyfres Mewnwelediad: Archwiliwch gasgliad o bapurau Cyfres Mewnwelediad gan ymchwilwyr yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’r papurau hyn yn darparu dadansoddiad manwl a chanfyddiadau ar wahanol agweddau ar arweinyddiaeth addysgol megis Arweinyddiaeth System, Arwain Arfer Myfyriol, Recriwtio a Chadw Uwch Arweinwyr Ysgolion yng Nghymru a mwy.
Anogir arweinwyr ac ymarferwyr i archwilio’r ystorfa chwiliadwy hon i wella eu taith dysgu broffesiynol. Ymwelwch â Hwb heddiw i ddarganfod adnoddau gwerthfawr sydd wedi’u teilwra i ddiwallu’ch holl anghenion arweinyddiaeth.