Skip to main content
English | Cymraeg

Pam Gwlad y Basg?

Dyna’r cwestiwn a ofynnwyd i mi pan esboniais y byddwn i ffwrdd o’m dwy ysgol am wythnos ym mis Ionawr, er mwyn teithio i Wlad y Basg gyda’r Academi Arweinyddiaeth. ‘Pam mynd i Wlad y Basg?’ holodd fy staff a llywodraethwyr. Roedd y disgyblion yn y gwasanaeth eisiau gwybod ‘beth sydd ’na yng Ngwlad y Basg’, a rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n holi ‘lle’n union mae Gwlad y Basg?!’ fy hun. Gyda chyn lleied o wybodaeth felly, trois at fy Mac i wneud rhywfaint o ymchwil sydyn.

Y penawdau

  • Mae llywodraeth Gwlad y Basg wedi buddsoddi’n helaeth mewn addysg. Pe bai’r rhanbarth yn cael ei gyfrif fel gwlad, dim ond Denmarc ac Awstria fyddai â lefel gwariant uwch fesul disgybl yn Ewrop.
  • Mae tua hanner ysgolion Gwlad y Basg yn gymysgedd o rai cyhoeddus a phreifat, lle mae’r wladwriaeth yn talu’r rhan fwyaf o’r cyllid ond lle mae disgwyl i rieni gyfrannu hefyd.
  • Dywed gweinidog addysg Gwlad y Basg fod cysylltiad cryf rhwng ymrwymiad i addysg a hunaniaeth y genedl. “Mae addysg yn allweddol i gadw’n diwylliant yn fyw” meddai.

Ac i’r rheini ohonoch, fel fi, sy’n meddwl lle’n union mae Gwlad y Basg… dyma’r map.

Graffiau’r llywodraeth

Deg awr ar ôl glanio yn Bilbao, dyma fi a’m cydweithwyr yn canfod ein hunain yng nghrombil swyddfeydd cyngor y ddinas. Wedi gair o groeso gan y cyfarwyddwr, roedd yr hyn a glywsom am effaith y polisi ar yr iaith Fasgeg yn arbennig yn galonogol.

Mae’n cynnig tri model ieithyddol; A Addysgu trwy gyfrwng y Sbaeneg a mymryn o Fasgeg; B 50:50 Sbaeneg: Basgeg a D (ffaith sydyn i chi: does dim llythyren ‘C’ yn yr iaith Fasgeg) addysg cyfrwng Basgeg ac ychydig iawn o Sbaeneg. Gwelwyd newid dramatig yn y rhanbarth dros 30 mlynedd, gyda chanran y rhieni a ddewisodd ysgolion model D wedi cynyddu o 15.9% ym 1986 i 66.9% erbyn 2017.

Sut aethon nhw ati?

Isod, rydw i wedi rhestru’r uchafbwyntiau i mi. Mae’n amhosib nodi popeth a ddysgais mewn blog mor gryno, ond rhaid cofio bod llawer o’r mentrau a drafodwyd ond yn bosib ag arian gan y llywodraeth.

    • Cynllun strategol cynnar o ailgyfeirio athrawon sy’n siarad Basgeg er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i addysgu mewn ardaloedd â sgiliau Basgeg gwan.
    • Hyfforddiant iaith sabothol dwy flynedd i bob athro.
    • Rhaglen ddynodedig y llywodraeth i hyrwyddo’r syniad o ‘Fasgegeiddio’ awyrgylch yr ysgol (NOLEGA) sy’n cynnwys canolfannau preswyl am gyfnod byr; grantiau i ysgolion hyrwyddo byd y theatr; perfformio caneuon traddodiadol; cynlluniau cyfnewid rhwng ysgolion o ardaloedd sosioieithyddol gwahanol er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Fasgeg ymhlith disgyblion a chystadlaethau a gwobrau blynyddol am ysgrifennu rhyddiaith, barddoniaeth ac areithyddiaeth.

Ond beth am farn y plant?

Dyma pryd y daeth y cymariaethau (a’r problemau) rhwng Cymru a Gwlad y Basg i’r amlwg. Roeddem yn ffodus o ymweld â phum ysgol yng Ngwlad y Basg, yn amrywio o rai cyhoeddus i breifat, iau ac uwchradd, oll yn darparu model ieithyddol D yn eu cymunedau. Pan ofynnwyd dau gwestiwn syml, yr un ateb gawson ni gan bob plentyn fwy neu lai:

 “Ydych chi’n siarad Basgeg gartref?” Yr ateb unfrydol oedd “nac ydw”, ac mai’r Sbaeneg oedd y dewis iaith wrth siarad â theulu a ffrindiau.

Fodd bynnag, wrth ofyn “ai Basgiad neu Sbaenwyr ydych chi?” yr ateb hollol unfrydol oedd… “Basgiaid!”

Sy’n arwain at ffactor allweddol iawn i’w ystyried – y ffaith nad yw cymhwysedd neu allu ieithyddol yn sicrhau defnydd o’r iaith. A bod defnyddio iaith yn dibynnu ar ffactorau eraill, yn enwedig faint o alw sydd ymhlith y cyhoedd. Heb rieni rhugl sy’n defnyddio’r iaith ar yr aelwyd, yr oll gall ysgolion ei wneud (a hynny ar gryn gost) yw creu siaradwyr ail iaith cymwys, sy’n eilaidd i oroesiad yr iaith Fasgeg.

I gloi

Roedd cyfansoddiad Sbaen ym 1978 yn datgan fod dyletswydd ar Sbaenwyr i wybod Sbaeneg. Ond hefyd, ychwanegodd y gallai pob rhanbarth ddatgan ei iaith swyddogol ei hun, gan awgrymu hawl y cymunedau hynny i reoleiddio’r defnydd o’r iaith honno. Does dim dwywaith fod rhanbarth ymreolaethol Gwlad y Basg wedi manteisio ar yr hawl hwn a chyflawni pethau, gan drawsnewid gallu ieithyddol ei gweithlu a newid shifft ddiwylliannol ei dinasyddion i gofleidio iaith a threftadaeth y Fasgeg.

Cyflawnwyd y gwaith hwn gan genhedlaeth a ddioddefodd ormes ieithyddol a diwylliannol dan law Sbaen oes Franco. Amser a ddengys a fydd y genhedlaeth newydd yn mynnu hawliau ieithyddol â’r fath arddeliad. A fyddan nhw’n rhannu brwdfrydedd eu rhieni dros eu mamiaith neu a fydd eu hunaniaeth yn cyd-fynd â’r gymuned fyd-eang mewn byd sy’n prysur grebachu?

Fe wnaethon ni ddefnyddio llawer o drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod ein hymweliad.  Fe dynnais i’r llun hwn ar fy niwrnod cyntaf yng Ngwlad y Basg, ac roedd hi’n olygfa gyffredin iawn. Criw o blant yn eu harddegau ar y ffordd i’r ysgol. Roedd yn fy atgoffa i o’r athronydd Americanaidd John Dewey a ddywedodd “The most important attitude that can be found is the desire to go on learning.”  Heb os, roedd y Basgiaid ifanc a welais yn ymgorffori’r agwedd hon, yn union fel yr arbenigwyr a gwrddais oedd yn awyddus i ddysgu am ein harferion gorau ninnau ’nôl yng Nghymru. Fel cyd-ymdaith yr Academi Arweinyddiaeth, rwy’n gobeithio defnyddio’r hyn a ddysgwyd gan system addysg Gwlad y Basg er mwyn helpu i lywio ein syniadau ni hefyd.

Richard Monteiro – Pennaeth Ffederasiwn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Yn ôl