Cymhlethdod datblygu diwylliant a hunaniaeth genedlaethol Cymru

Cymhlethdod datblygu diwylliant a hunaniaeth genedlaethol Cymru – Safbwynt Pennaeth

Mae diffinio diwylliant a hunaniaeth genedlaethol mewn fformat cryno sy’n galluogi’r cwricwlwm newydd i gael ei gyflwyno yn her sy’n wynebu pob ysgol. Gofynnwyd i Gymdeithion yr Academi o garfan 2 ystyried y cwestiwn “Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu hunaniaeth Gymreig o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus?”

Ar ôl naw mis o ymchwil a thrafod helaeth, mae cymhlethdod a maint y dasg hon hyd yn oed yn fwy amlwg erbyn hyn.

Y blog hwn yw fy myfyrdodau o’r gwaith a wnaed ar ymweliad ymchwil ag Ontario, Canada ym mis Ionawr 2020. Ymwelodd grŵp o chwe Chydymaith o garfan dau yr Academi Arweinyddiaeth â Chanada i archwilio a deall system addysg ddwyieithog gymharol. Roedd gan bob Cydymaith yr Academi Arweinyddiaeth friff penodol megis arweinyddiaeth ymchwil, atebolrwydd ac ati. Yn y blog hwn, cyfeiriaf at fy maes ffocws penodol; diwylliant a hunaniaeth. Bydd canfyddiadau ymchwil holl ymweliadau ymchwil Cymdeithion yr Academi Arweinyddiaeth yn cael eu cyflwyno yn adroddiad terfynol comisiwn carfan 2.

Yn y testun canlynol rwyf wedi ceisio mynegi fy nghanfyddiadau a’m meddyliau fy hun am ddiwylliant a hunaniaeth Cymru a myfyrio ar fy nhaith a’m profiad personol fy hun. Mae Cymru’n wlad fach sydd â diwylliant cryf a chyfoethog sydd wedi datblygu dros amser gyda phoblogaeth amrywiol a dylanwadau o sawl tarddiad. Mae unigolion a chymunedau wedi cyfrannu at wahanol rannau o’r diwylliant hwn. Mae swm y cyfan yn yr achos hwn yn llawer mwy na’r rhannau. Nid oes unrhyw ddau berson wedi datblygu na chynnal yr un agweddau ar ddiwylliant Cymru. Fodd bynnag, mae eu cyfraniad a’u dylanwad cyfunol yn diffinio’r tir a rannwn.

Mae dinasyddiaeth yn cyd-fynd a’r cyfrifoldeb i gynnal ein diwylliant traddodiadol a hefyd i barhau i ddatblygu a thyfu’r agweddau amrywiol ar ein hunaniaeth genedlaethol. Bydd angen cynnal a datblygu gweithredol er mwyn ail-adeiladu meysydd diwylliant sydd mewn perygl o gael eu colli ac i lunio ein cyfeiriad diwylliannol yn y dyfodol. Mae datblygu’r cwricwlwm Cymraeg newydd yn enghraifft wych o’r datblygiad pwrpasol hwn. Mae’n ymddangos bod sefydlu ysgolion Cymraeg yn enghraifft wych o fenter i ddiogelu a thyfu’r hunaniaeth hon.

Mae’r pwyntiau isod yn grynodeb o’r wybodaeth a gasglwyd o’n hymweliad ymchwil â Chanada ac maent wedi’u llunio i gychwyn trafodaeth a fydd, rwy’n gobeithio, yn cynorthwyo sefydliadau i ddiffinio eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Ottawa, Canada 27ain Ionawr 2020 – 2il Chwefror 2020
Briff ymchwil – Diwylliant a Hunaniaeth

Dyma ddeg maes i’w trafod a’u hystyried wrth gyflwyno canllawiau ynghylch datblygu arweinyddiaeth i feithrin diwylliant Cymreig bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus.

1.Mae hunaniaeth unigol yn hylifol. Nid yw wedi’i ddiffinio’n glir nac yn statig. Mae’n datblygu gydag amser ac yn amrywio’n fawr o berson i berson a lle i le; yn fwy na dim, mae’n ganlyniad cymhleth i ddylanwadau a phrofiadau.

2. Sut mae hunaniaeth Gymreig wedi newid, ac a allwn ragweld sut olwg fydd arno yn y dyfodol? Mae hunaniaeth a diwylliant yn fwy nag iaith, ond ffordd o fyw a theimlad cryf o berthyn. Mae hunaniaeth ddiwylliannol yn llawer mwy na barn unrhyw unigolyn ei hun. Er mwyn teimlo’n rhan o’r diwylliant hwn, rhaid i unigolion gael cyfleoedd i gyfrannu at ei dwf a’i ddatblygiad.

3. Sut mae llunwyr polisi yn sicrhau bod pob preswylydd yn cael cyfle i fod yn rhan o ddiwylliant Cymru? Mae plwraliaeth yn hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant ac yn datblygu’r cysyniad dwyochredd: mae’n wastad yn rhywbeth sy’n datblygu. Rhan o gryfder gwlad flaengar, oddefol yw’r gydnabyddiaeth “os yw’r ateb yn rhy syml yna gallai fod yn ddadleuol”.

4. Sut rydym yn sicrhau bod y canllawiau a ddarperir yn gynhwysol ac yn berthnasol i bawb sy’n byw yng Nghymru? Mae angen nodi’r amrywiaeth o fewn eich hun, er mwyn cydnabod yn llawn y cymhlethdod mewn eraill. Mae diffiniadau syml o hunaniaeth yn anodd gan fod poblogaeth cenedl yn cael ei hadeiladu o gymysgedd cymhleth, mae hyn yn cynnwys rhyw, crefydd, rhywioldeb, addysg, oedran, anabledd ac ati.

5. Sut ydyn ni’n cefnogi unigolion i ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain o fewn cyd-destun Cymreig? Mae iaith yn ddangosydd canolog o hunaniaeth ddiwylliannol; mae mor bwerus â hil a chrefydd wrth greu ymdeimlad o berthyn. Gyda globaleiddio, mae’r risg i ieithoedd lleiafrifol yn real. Mae cymhathu i ieithoedd blaenllaw a ddefnyddir gan y mwyafrif yn fygythiad i fodolaeth ieithoedd lleiafrifol. Lle mae polisi hanesyddol wedi gwahaniaethu yn erbyn defnyddio ieithoedd brodorol, mae hyn yn ychwanegu cymhlethdod ac yn danwydd teimlad o anghyfiawnder.

6. Mae iaith yn allweddol wrth gynnal hunaniaeth Gymreig genedlaethol. Sut y caiff ei gynnal a’i gryfhau? mae gan y Cenhedloedd set sylfaenol o werthoedd sy’n cael eu llunio drwy weithgarwch diwylliannol. Mae lluosedigrwydd yn hyrwyddo cyffredinrwydd y gwerthoedd hyn ac mae’n seiliedig ar bolisïau Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Defnyddir y rhain fel y pwynt cyfeirio yn y gyfraith. Hunaniaeth genedlaethol yw cydnabod hunaniaethau lluosog o fewn diwylliant y wlad. Mae angen deall o ble y daeth gwlad i ddeall sut i’w symud ymlaen yn llwyddiannus ac addasu i gyfleoedd a heriau yn y dyfodol.

7. Beth fydd angen i genedlaethau’r dyfodol ei ddysgu am hanes a dyheadau Cymru yn y dyfodol, yng nghyd-destun cymdeithas sy’n ddiwylliannol weithgar a gwybodus? Mae perygl y gallai llunio polisïau diwylliannol fod o fewn cylch gwaith cul wrth i boblogaeth gwlad ddod yn amrywiol. Mae’r ddealltwriaeth o egwyddorion democrataidd yn hollbwysig os yw gweledigaeth cenedl i’w gwireddu a sicrhau bod gan bawb lais. Mae angen i arweinwyr ofyn y cwestiynau anodd, breuddwydio’n fawr a chael y lle a’r cyfle i ddatblygu set effeithiol o bolisïau a diwylliant sy’n adlewyrchu amrywiaeth cynyddol ac eang o bobl.

8. Sut y bydd arweinwyr yn sicrhau bod cyfeiriad diwylliannol yn y dyfodol yn adlewyrchu poblogaeth gynyddol amrywiol Cymru? Mae deddfwriaeth i hyrwyddo neu ddiogelu hunaniaeth, gan gynnwys iaith, hanesyddol a cyfredol yn ddadleuol. Mae deddfwriaeth wael yn creu polareiddio barn ac mae ganddi oblygiadau hirdymor. Yn y sefyllfa waethaf, dangoswyd yng Nghanada y gall greu hunangadwraeth ac elitaeth o fewn ffactorau’r gymuned. Gall hyn fod yn wahaniaethol a/neu wanhau’r ymdeimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a pherthyn.

9. Beth yw effaith deddfwriaeth hanesyddol a deddfwriaeth bresennol ledled Cymru? Rhaid i fynediad unigolyn at ddysgu iaith frodorol ei wlad fod yn deg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn gallu adeiladu hunaniaeth ddiwylliannol a cenedlaethol.

10. Pa mor effeithiol yw’r polisi presennol o ran sicrhau bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn gallu dysgu Cymraeg ac yn gallu defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg? Mae’r ffordd y mae’r byd y tu allan yn gweld hunaniaeth genedlaethol yn hollbwysig ar sawl lefel. Mae’r canfyddiad hwn yn dylanwadu ar y berthynas sy’n bodoli rhwng cenhedloedd. Sut mae gweddill y byd yn gweld hunaniaeth a diwylliant Cymru a sut y gellir gwella’r canfyddiad hwn yn yr 21ain Ganrif?

 Roger Guy, Cydymaith yr Academi a Phennaeth Ysgol Gynradd Gilwern

Yn ôl