Rydyn yn falch i ddathlu cydnabyddiaeth ein hymrwymiad i les cydweithwyr, staff, Cymdeithion ac arweinwyr addysgol ledled Cymru, trwy dderbyn achrediad Aur gan Fuddsoddwyr mewn Pobl – rydym yn buddsoddi mewn lles.
Mae gwaith lles yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn rhan annatod o’n gweledigaeth. Fel y nodwyd yn ein cynllun corfforaethol rydym o ddifrif am les arweinwyr, a byddwn yn blaenoriaethu ac yn cefnogi lles holl weithwyr y proffesiwn. Felly, mae cael ein cydnabod am y wobr hon, yn ystod cyfnod mor anodd, yn glod i ni.
Mae ein polisi lles wedi’i ganoli o amgylch y pum ffordd o les: Cysylltiad, Dysgu, Rhoi, Bod yn Egnïol a Chymryd Sylw, sydd wedi rhoi cyfeiriad inni ar lawer o’n ffrydiau gwaith a’n gweithgareddau. Mae adeiladu perthnasoedd empathetig a proffesiynol gyda’r rhai rydym yn gweithio gyda nhw wedi bod yn sylfaenol i lwyddiant y wobr hon ac mae’n cadarnhau ymhellach bwysigrwydd gwaith y Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer Lles Arweinwyr gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Felly, mae bod o ddifrif am les wedi meithrin dull iach o fewn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol tuag at hunanofal a sicrhau bod amser a lle yn cael ei neilltuo i feithrin arferion da. Rydyn ni’n rhoi pwys mawr ar gefnogi elusennau, sicrhau gweithio rhesymol ar-lein, hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd personol a gwaith, a chymryd rhan mewn ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgareddau tîm gan gynnwys – ioga, cwrdd â’r asynnod a bingo. Yn ogystal â hyn, mae’r tîm wedi ymgymryd â hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ddiweddar trwy MHFA Cymru.
Roedd gweithio ochr yn ochr â Buddsoddwyr mewn Pobl fel rhan o’r asesiad yn brofiad gwych. Roedd y broses yn glir, yn drylwyr a chawsom gefnogaeth barhaus drwyddi gan ein hwylusydd Bethan. Cafodd yr holl staff craidd a nifer o’r Cymdeithion gyfle i rannu eu meddyliau a’u profiadau trwy gyfweliadau ac holidauron ac roedd yr adborth hwn yn sail i’r adroddiad terfynol. Rydym yn edrych ymlaen at ein gwaith parhaus gyda Buddsoddwyr mewn Pobl, gan weithredu’r argymhellion sy’n iawn i ni a chynnal y safon uchel a gyflawnwyd.
Nia Miles, Ymgynghorydd Arloesedd a Lles
Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru