Y llynedd -“cyn-COVID”, os gall unrhyw un ohonom gofio amser o’r fath, roeddem yn wynebu gostyngiadau gyllideb gynyddol a ffordd o ddarparu CPA ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn yr hyn a all yn aml fod yn ddosbarthiadau eithaf heriol.
Cawsom syniad o grwpio disgyblion yn fertigol mewn grwpiau bach o 7 neu 8 a defnyddio ein staff cymorth a’n harbenigedd UTA i gyflwyno a datblygu blociau hanner tymor o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar les a fyddai’n galluogi i weddill yr athrawon i gael eu CPA a rhoi cyfle delfrydol i ni ddatblygu’r pedwar diben ymhellach.
Yna cyrhaeddodd COVID gyda’i holl asesiadau risg, swigod, ansicrwydd a hyd yn oed mwy o angen i fynd i afael â lles disgyblion a staff. Felly amser i ailfeddwl, yn hytrach na grwpiau fertigol aethom gyda rhannu’r dosbarthiadau a chadw’r staff yn gweithio o fewn eu swigod; gyda dros 50% o gofrestr yr ysgol gyda ADY a’r GDD, mae’n golygu bod gennym gyfoeth o staff cymorth angenrheidiol.
Nodwyd doniau cudd: gan gynnwys beicio, dawns greadigol, coginio, diwylliant Japan, ioga, garddio, gweithredoedd caredigrwydd a gwnïo i enwi ond rhai. Ar ôl grwpio’r plant sylweddolwyd bod angen i ni ategu’r staffio ac felly edrych ar yr hyn yr oeddem eisoes yn gallu ei gynnig, daethom â thri darparwr sesiwn arall i mewn; hyfforddwr chwaraeon, cerdd ac ymarferydd ysgolion coedwig.
Erbyn hyn, trefnwyd gweithgareddau llesiant bob prynhawn Llun, wedi’u hasesu’n llawn o risg COVID. Bedair wythnos i mewn hyd yn hyn, mae’r plant yn hapus ac yn ymgysylltu, mae oedolion yn mwynhau’r amser gyda’r plant ac mae’r holl athrawon dosbarth yn cael amser CPA di-dor. Yn wir, mae’n ennill lles i gyd!
Alison Ellis, Pennaeth Ysgol Gynradd Maesyrhandir