Skip to main content
English | Cymraeg

Lleisiau o’r Maes: Matthew O’Brien

Matthew O’Brien

Pennaeth Ysgol Gynradd Gellifedw

Dechreuodd Matthew O’Brien ddysgu yn 1999 ac mae wedi cael gwybodaeth drylwyr o’r Cwricwlwm Cynradd ac mae ganddo brofiad o addysgu ar draws yr oedran yn amrywio o’r Dderbynfa i Flwyddyn 6 ac mewn Cyfleuster Addysgu Arbennig.

Yn ystod ei yrfa, aeth ymlaen o athro dosbarth gyda chyfrifoldebau’r cwricwlwm i ddau ddirprwy brifathrawiaeth, ac yn 2008 cafodd ei secondio gan yr Awdurdod Lleol fel pennaeth dros dro. Yn 2009, fe’i penodwyd yn bennaeth ysgol Iau ac yn fuan llwyddodd i gyfuno’r Babanod a’r ysgolion Iau.

Mae’n bennaeth Ysgol Gynradd Gellifedw ers Tachwedd 2013; ysgol sy’n meithrin chwilfrydedd naturiol plant, ac yn datblygu dysgwyr hapus, hyderus.

Mae hwyluso Dysgu Proffesiynol staff yn ganolog i athroniaeth Matthew. Mae holl staff Ysgol Gynradd Gellifedw yn llwyddo i ddeall gweledigaeth yr ysgol ac o ganlyniad, maent yn gweithio gyda’i gilydd fel cymuned. Dros amser, mae’r ysgol wedi llwyddo i sicrhau gwelliannau sylweddol ac yn cynnal y rhain mewn ffordd ystyrlon. Mae llawer o hyn wedi’i gyflawni drwy gefnogi dysgu proffesiynol y staff a chryfhau cydweithio gyda rhieni a’r gymuned ehangach.

Rhan o gynhadledd Arwain o’r Canol: Arweinwyr Canol Yng Nghymru yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ar 30 Mawrth 2023.