Skip to main content
English | Cymraeg

Lleisiau o’r Maes: Cath Hicks

Cath Hicks, Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr ac Adnoddau

Ymunodd Cath Hicks ag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales (WEA De Cymru bryd hynny) felarbenigwr AD yn 2008, yn dilyn rolau AD blaenorol yn y sector preifat a’r sector dielw. Ers hynny mae ei rôl ofewn y sefydliad wedi datblygu’n barhaus, ac ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Gwasanaethau ac Adnoddau Dysgwyr.

Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli’r sefydliad, mae meysydd cyfrifoldeb Cath yn cynnwys Gwasanaethau Dysgwyr, Marchnata, Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, Cymraeg a Dwyieithrwydd, ac AD. Gan adrodd i’rPrif Weithredwr, mae Cath yn darparu arweinyddiaeth strategol, rheolaeth, a datblygiad y strategaeth ADa’r strategaeth gwasanaethau dysgwyr i gefnogi’r Cynllun Strategol a’r amcanion ariannol. Mae Cath hefydyn arwain y gwaith o hyrwyddo a datblygu arlwy Cymraeg gweithgar yn holl weithgareddau’r sefydliad arlefel strategol, gan sicrhau bod natur ddwyieithog y sefydliad yn cael ei ragweld yn effeithiol ledled Cymru.