Mae cyfres weminar Datgloi’r Cwricwlwm yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn rhaglen ddysgu broffesiynol sy’n archwilio Arweinyddiaeth yng Nghymru a’i chyd-destun addysgol. Mae pob gweminar yn cael ei harwain gan siaradwr gwadd nodedig.
Mae’r bennod hon yn cynnwys yr Athro Graham Donaldson. Ar hyn o bryd mae’r Athro Donaldson yn ymgynghorydd ar ddiwygio addysg i Lywodraeth Cymru ac yn aelod o Gyngor Rhyngwladol Ymgynghorwyr Addysg Prif Weinidog yr Alban. Roedd hefyd yn aelod o’r Panel Arbenigwyr sy’n cefnogi’r adolygiad o gyrff cenedlaethol yn yr Alban ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi’r adolygiad o gymwysterau cenedlaethol yn yr Alban.