Skip to main content
English | Cymraeg

Datgloi Arweinyddiaeth: Yr Athro Alma Harris

Mae cyfres weminar Datgloi Arweinyddiaeth yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn rhaglen ddysgu broffesiynol sy’n archwilio Arweinyddiaeth yng Nghymru a’i chyd-destun addysgol. Mae pob gweminar yn cael ei harwain gan siaradwr gwadd nodedig.

Mae’r recordiadau gweminar hyn wedi’u cynllunio ar gyfer arweinwyr mewn rolau arwain uwch yn ysgolion, y sector ieuenctid a cholegau addysg bellach a’u nod yw eu cefnogi yn eu rolau fel arweinwyr systemau. Wedi’i recordio a’i gyflwyno’n ddigidol drwy’r platform Zoom.

Mae’r bennod hon yn cynnwys yr Athro Alma Harris, Dirprwy Bennaeth Ysgol, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Addysgu Ôl-raddedig, Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe.

Mae’r podlediad yma o gyfres 5 o’r gweminarau Datgloi Arweinyddiaeth.