Skip to main content
English | Cymraeg

Recriwtio a Chadw Uwch Arweinwyr Ysgolion yng Nghymru

Ekaterina Aleynikova, Jasmin Rostron, Sophie Kitson (Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) a James Zuccollo, Eva Jiménez (Sefydliad Polisi Addysg)

­Mae rôl arweinydd ysgol yn hanfodol i lywio’r amgylchedd addysgol a dylanwadu ar lwyddiant cyffredinol ysgol. Mae arweinwyr ysgol effeithiol yn ysbrydoli ac ysgogi athrawon a myfyrwyr, gan greu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol a meithrin diwylliant ysgol gadarnhaol a chynhwysol. Fodd bynnag, mae cynnal y cyflenwad o arweinwyr ysgol yng Nghymru yn heriol.

Yn y cyd-destun hwn, nod yr ymchwil hwn yw ehangu a dyfnhau’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar yr heriau o ran recriwtio a chadw uwch arweinwyr ysgolion yng Nghymru, a sut y gellid mynd i’r afael â’r heriau hynny.

Comisiynwyd yr ymchwil hwn gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac fe’i hysgrifennwyd gan NIESR a’r Sefydliad Polisi Addysg.

LAWRLWYTHWCH Y PAPUR

National institute of Economic and Social Research LogoEducation Policy Institute Logo