Bydd Syr Alasdair Macdonald CBE yn cyflwyno gweminar Datgloi Arweinyddiaeth nesaf yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
Ar ôl graddio o Brifysgol Aberdeen bu Alasdair yn gweithio ym Malawi, mewn amrywiaeth o rolau yn ysgolion Llundain ac am bedair blynedd ym Mhapua Gini Newydd. Bu’n Bennaeth Ysgol Morpeth yn Tower Hamlets am 21 mlynedd hyd at fis Awst 2013. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cododd cyrhaeddiad yn yr ysgol yn sylweddol ac roedd arolygiadau OFSTED yn 2007 a 2013 yn graddio Morpeth yn Eithriadol. Cafodd yr ysgol sylw fel un o’r 12 ysgol yng nghyhoeddiad OFSTED “Achieving against the odds”.
Roedd yn aelod o Grŵp Cyfeirio Prifathrawon yr Adran Addysg a gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol iddo arwain adolygiad cenedlaethol o Addysg Bersonol, Cymdeithasol ac Iechyd. Yn 2003 dyfarnwyd y CBE iddo ac yn 2009 cafodd ei urddo’n farchog am wasanaethau i addysg.
Mae wedi gweithio yng Nghymru mewn amrywiaeth o swyddi – ymgynghorydd ar Her Ysgolion Cymru, Eiriolwr ar gyfer y GAD, aelod bwrdd ar ddatblygiad yr Academi Arweinyddiaeth ac aelod o Gorff Adolygu Cyflogau Athrawon. Yn fwy diweddar cynhaliodd adolygiad ar Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal.
Ar hyn o bryd mae Alasdair yn Gadeirydd London East Alternative Provision, yn aelod o fwrdd Partneriaeth Addysg Tower Hamlets ac yn Gadeirydd y Grŵp Gweledigaethau Newydd ar gyfer Addysg.
Mae Datgloi Arweinyddiaeth yn gyfres o weminarau dysgu proffesiynol, sy’n archwilio arweinyddiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’r gweminarau wedi’u cynllunio ar gyfer y rheini mewn rolau arweinyddiaeth uwch o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) a’u nod yw cefnogi eu meddwl a’u hymarfer.
Mae’r gweminar hwn yn darparu dysgu proffesiynol ysbrydoledig o ansawdd uchel sy’n ddiddorol, yn ysgogol ac yn gynhwysol. Bydd y gweminar yn cynnwys cyfle i drafod a rhannu syniadau mewn ystafelloedd grŵp gydag arweinwyr o bob rhan o Gymru.
Am ddim, cofrestru’n hanfodol