Skip to main content
English | Cymraeg
Mewn Trafodaeth: Lles Arweinwyr Addysgol yng Nghymru: Eu Hawliau

Mewn Trafodaeth: Lles Arweinwyr Addysgol yng Nghymru: Eu Hawliau

Dyddiad ac Amser

Dydd Iau 6 Mawrth 10yb-12yp

Mewn Trafodaeth: Lles Arweinwyr Addysgol yng Nghymru: Eu Hawliau

Dydd Iau 6 Mawrth 10yb-12yp

Ymunwch â ni am drafodaeth banel ddifyr sy’n archwilio canfyddiadau Lles Arweinwyr Addysgol yng Nghymru: Eu Hawliau, adroddiad comisiwn newydd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae’r ymchwil hwn yn trafod yr angen i flaenoriaethu lles arweinwyr ysgolion ledled Cymru, gan dynnu ar eu profiadau bywyd a’r heriau maent yn eu hwynebu yn y system addysg heddiw.

Cewch glywed gan y Cymdeithion a ymchwiliodd ac a ysgrifennodd adroddiad y comisiwn, ynghyd â rhanddeiliaid addysg allweddol, wrth iddynt archwilio argymhellion yr adroddiad. Bydd y drafodaeth yn amlygu strategaethau ymarferol sy’n canolbwyntio ar  wella’r gefnogaeth ar gyfer lles arweinwyr ar draws y system addysg.

Cofrestru yn hanfodol.

Dogfennau Cysylltiedig

Dadlwythiadau

Hysbysiad Preifatrwydd