Mae arweinwyr dysgu proffesiynol yn deall sut mae gwahanol weithwyr proffesiynol yn dysgu ac yn eu galluogi i gael y profiadau dysgu mwyaf priodol (Llywodraeth Cymru, 2020; Evans, 2019). Maent yn gwerthfawrogi bod dysgu proffesiynol yn fwy na digwyddiadau neu weithgareddau unigol ac yn pwysleisio bod y broses o ddysgu, ymgorffori, myfyrio a mireinio yn un barhaus (Timperley, 2011; Jones, 2015). Maent yn cydnabod (yn ffurfiol ac yn anffurfiol) potensial arwain eraill ac yn galluogi pawb i gymryd rhan weithredol mewn dysgu proffesiynol rhwng cyfoedion. Maent yn annog dulliau creadigol a chyfunol o ddysgu proffesiynol (Jones et al, 2020) ac yn creu ymwybyddiaeth o’r angen am gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym myd addysg (Forde and Torrance, 2021; Harris and Jones, 2019). Maent yn sensitif i les pob dysgwr wrth gyflwyno newid drwy ddysgu proffesiynol a gweithredu mentrau newydd (Day, 2016; MacDonald Brown, 2020; Scott et al, 2021).
Datblygu gweledigaeth a rennir sy’n canolbwyntio ar ddysgu pob dysgwr I Datblygu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i’r holl staff
Dysgu Proffesiynol (rolau arweinyddiaeth proffesiynol)
Gofynnwyd i arweinwyr ysgolion ledled Cymru ddweud wrthym sut maen nhw’n Arwain Dysgu Proffesiynol, gan ddefnyddio pob un o’r wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol fel man cychwyn. Mae’r astudiaethau achos sy’n deillio o hynny’n cynnig cipolwg ar bob math o ddulliau effeithiol o Arwain Dysgu Proffesiynol a fydd, gobeithio, yn dod â’r dilysnodau’n fyw ac yn ysbrydoli ffyrdd strategol newydd a ffres o feddwl i arweinwyr eraill yng Nghymru. Rydym am i chi Gael Eich Ysbrydoli.
Darllenwch yr astudiaethau achos
Os oes gan eich ysgol neu glwstwr enghraifft o ymarfer y gellid ei gynnwys yn yr adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol – o dan un (neu fwy) o wyth dilysnod dysgu proffesiynol gydag arweiniad da, rydym am glywed gennych chi.