Skip to main content
English | Cymraeg
Arwain Dysgu Proffesiynol Header

Mae dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol…

Wedi’i adeiladu ar farn feirniadol o ymchwil, ymholiad proffesiynol ac arbenigedd allanol

Mae ymarfer proffesiynol yn seiliedig ar ymchwil. Mae llawer ohoni’n cael ei hysgrifennu ar gyfer cynulleidfa academaidd ac yn gysylltiedig â chyd-destun, ond yn gynyddol mae gan unigolion fynediad i ganfyddiadau mawr a bach o ymchwil gan ymarferwyr ar-lein (gweler, er enghraifft CollectivED Working Paper Series). Gall y cyfryngau cymdeithasol ddarparu cyfrwng defnyddiol ar gyfer cael y wybodaeth ddiweddaraf o ran ymchwil, ond mae llygad feirniadol yn hanfodol (Carpenter a Krutka, 2015). Nid oes rhaid i’r uwch arweinydd fod yn ‘arbenigwr’ ar gael gafael a defnyddio ymchwil, ac efallai y bydd eraill (yn enwedig athrawon dan hyfforddiant neu gydweithwyr sydd newydd gymhwyso) yn arweinwyr gwell yn y maes hwn.

Mae ymholiad proffesiynol yn adnodd defnyddiol i athrawon ac arweinwyr. Mae’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysg ac Arweinyddiaeth yng Nghymru yn datgan: “Ceir ymgysylltu strwythuredig mewn cymuned ymchwil weithredu a thystiolaeth o arfer sy’n cael ei llywio gan waith darllen ehangach a chanfyddiadau ymchwil ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol.” (Llywodraeth Cymru, 2020).

Mae diwylliant dysgu proffesiynol yr ysgol yn annog a chefnogi hyn, ond mae’r broses yn feirniadol, yn cael ei rhannu, ac yn arwain at weithredu, gan ddefnyddio tystiolaeth i lywio cynllunio ac ymarfer. Nid yw ffocws ymholiad proffesiynol wedi’i gyfyngu i flaenoriaethau’r ysgol, er ei bod hi’n anochel y bydd y ffocws yn cyd-fynd â nhw yn y rhan fwyaf o achosion (Llywodraeth Cymru, 2019).

Tra bod modd trefnu a darparu llawer o ddysgu proffesiynol o fewn y gymuned ysgol, mae yna le i fewnbwn allanol hefyd, ar y cyd ag arbenigwyr mewnol. Mae arweinwyr ysgolion yn glir am y cymorth sydd ei angen a’r cyfraniad y gall arbenigedd allanol ei wneud i sicrhau dyfnder mewn dysgu proffesiynol ac i ymgorffori’r dysgu yn arferion yr ysgol (Cordingley et al 2015; Cordingley et al. 2020).

Jones, K. (2022)

Cyfres Mewnwelediad: Arwain Dysgu Proffesiynol (2022)

Carpenter, J.P. et al (2015)

Engagement through microblogging: educator professional development via Twitter, Professional Development in Education, 41:4, 707-728

CollectivED Working Paper Series (2020)

Leeds Beckett University Carnegie School of Education

Cordingley, P. et al (2015)

'Developing great teaching: lessons from the international reviews into effective professional development.', Project Report. Teacher Development Trust, London

Cordingley, P. et al (2020)

Developing Great Leadership of CPDL, CUREE

Llywodraeth Cymru (2019)

Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol Hwb

Llywodraeth Cymru (2020)

Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth Hwb

Gwneud y Cysylltiad

Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu

Sefydlu Diwylliant Ymholi, Arloesi ac Archwilio I Dysgu gyda a chan yr amgylchedd allanol a’r system ddysgu ehangach I Datblygu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i’r holl staff

Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth

Dysgu Proffesiynol (rolau arweinyddiaeth ffurfiol)

Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol
Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholi Addysgol
Taith Dysgu Proffesiynol

Gweithredu’r cwricwlwm a datblygiadau pellach

Cael Eich Ysbrydoli

Gofynnwyd i arweinwyr ysgolion ledled Cymru ddweud wrthym sut maen nhw’n Arwain Dysgu Proffesiynol, gan ddefnyddio pob un o’r wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol fel man cychwyn. Mae’r astudiaethau achos sy’n deillio o hynny’n cynnig cipolwg ar bob math o ddulliau effeithiol o Arwain Dysgu Proffesiynol a fydd, gobeithio, yn dod â’r dilysnodau’n fyw ac yn ysbrydoli ffyrdd strategol newydd a ffres o feddwl i arweinwyr eraill yng Nghymru. Rydym am i chi Gael Eich Ysbrydoli.

Darllenwch yr astudiaethau achos

 

Ymunwch

Os oes gan eich ysgol neu glwstwr enghraifft o ymarfer y gellid ei gynnwys yn yr adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol – o dan un (neu fwy) o wyth dilysnod dysgu proffesiynol gydag arweiniad da, rydym am glywed gennych chi.

Cysylltwch â ni