Skip to main content
English | Cymraeg
Arwain Dysgu Proffesiynol Header

Mae dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol…

Yn bwrpasol ar gyfer ymarferwyr ac yn cael ei lywio ganddynt

Mae arweinwyr yn cydnabod bod llawer o bobl yn cyfrannu at addysg dysgwyr ac yn gallu cyfrannu at ddysgu proffesiynol addysgwyr. Nid yw pwysigrwydd gwrando ar fyfyrwyr a dysgu gyda myfyrwyr yn cael ei anwybyddu (Margolis, 2017). Mae rhai addysgwyr, er enghraifft athrawon cyflenwi, staff rhan-amser a chynorthwywyr cymorth dysgu yn cael eu gwthio o’r neilltu weithiau gan arweinwyr dysgu proffesiynol. Efallai y bydd angen gwneud trefniadau ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys; mae ganddynt lawer iawn i’w gynnig i ddysgu proffesiynol prif ffrwd hefyd. Mae dysgu proffesiynol unigolion yn cael ei ddylanwadu’n gryf gan, ond heb ei gyfyngu i, gyd-destunau a blaenoriaethau o ddydd i ddydd unigolion. Bydd datblygiad yn y dyfodol ac anghenion gyrfa yn cael eu hystyried hefyd. Mae arweinwyr yn cefnogi ymarferwyr unigol i ysgwyddo cyfrifoldeb am eu dysgu proffesiynol (Llywodraeth Cymru, 2020) yng nghyd-destun blaenoriaethau ysgol, cenedlaethol, proffesiynol a phersonol ehangach (Llywodraeth Cymru, 2017; Llywodraeth Cymru, 2019).

Mae arweinwyr yn ysgogi sgyrsiau proffesiynol i amlygu’r cyfraniadau y mae unigolion yn eu gwneud at ddysgu eraill. Maent yn annog y rhai agosaf at ymarferwyr unigol i ddarparu’r cymorth hwn drwy fentora, annog neu ymholiad critigol (Lofthouse, 2020) ac yn darparu cymorth pellach i’r rhai sy’n cyflawni rolau mentora.

Mae arweinwyr yn cydnabod na fydd unigolion wedi ymrwymo i un ysgol gydol eu gyrfa a byddant yn annog dysgu proffesiynol ehangach fel datblygu arweinyddiaeth, rhwydweithio ehangach ac ymgysylltu proffesiynol dyfnach fel rhaglen Meistr (Llywodraeth Cymru, 2021). Mae ‘man cychwyn’, profiad a dyheadau pob ymarferwr ar gyfer ei ddisgyblion yn llywio ymgysylltiad gwahanol, wedi’i bersonoleiddio gyda dysgu proffesiynol (e.e. dysgu ar gyfer sefydlu, gwella sgiliau mentora, ymestyn athrawon medrus iawn) (Porritt, Spence-Thomas a Taylor 2017; Carpendale, et al, 2021).

Mae dysgu proffesiynol yn cael ei wahaniaethu ac mae hynny’n fodd o ddatblygu ymarfer newydd yn ogystal ag adeiladu ar brofiad cyfredol (atgyfnerthu) (Jones, 2020). Mae nodi anghenion dysgu proffesiynol yn cael ei alinio â phrosesau arfarnu, rheoli perfformiad neu bennu amcanion ysgolion (ASCL, 2018).

Mae yna werth mewn dulliau llai ffurfiol o ddysgu proffesiynol, yn seiliedig ar ddylanwad yn hytrach nag awdurdod, gydag ‘athrawon-arweinwyr’ yn gweithredu fel sbardunwyr newid ac yn ysbrydoli cydweithwyr tuag at well ymarfer addysgol (Margolis a Strom, 2020; Nguyen, Harris, a Ng, 2019). Mae dysgu proffesiynol o’r fath wedi’i adeiladu ar berthynas â chyfoedion, parch ac ymddiriedaeth yn hytrach nag unrhyw awdurdod ffurfiol, ond bydd yn gofyn am gefnogaeth arweinwyr ysgol i’w wneud yn dderbyniol a’i alluogi i ffynnu (Dodman, 2021).

Jones, K. (2022)

Cyfres Mewnwelediad: Arwain Dysgu Proffesiynol (2022)

Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (2018)

Leadership of Professional Development and Learning

Carpendale, J. et al (2021)

Balancing fidelity with agency: understanding the professional development of highly accomplished teachers, Professional Development in Education

Dodman, S.L (2021)

Learning, leadership, and agency: A case study of teacher-initiated professional development, Professional Development in Education

Nguyen, D. et al (2019)

A review of the empirical research on teacher leadership (2013-2017), Journal of Educational Administration

Porritt, V. et al (2017)

Leading Professional Learning and Development p121-130 in Earley, P. and Greany, T. (2017) School Leadership and Education System Reform London: Bloomsbury

Jones, K (2020)

Multi-dimensional professional learning: a leadership perspective European Educational Research Association

Lofthouse, R. (2020)

Introduction to CollectivED and Issue 12 CollectiveED Working Papers Issue 12 December 2020

Margolis, J. et al (2017)

The missing link in teacher professional development: student presence, Professional Development in Education

Margolis, J. and Strom, K. (2020)

Assessing the success of teacher leadership: the case for asking new questions, Professional Development in Education

Llywodraeth Cymru (2019)

Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, Hwb

Llywodraeth Cymru (2020)

Taith Dysgu Proffesiynol Hwb

Llywodraeth Cymru (2021)

MA (Gradd Meistr) Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) Hwb

Gwneud y Cysylltiad

Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu

Datblygu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i’r holl stafflearning opportunities for all staff

Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth

Dysgu Proffesiynol (rolau arweinyddiaeth proffesiynol)

Taith Dysgu Proffesiynol

Modelu arweinyddiaeth ddysgu

Taith Dysgu Proffesiynol

Dysgu proffesiynol staff

Cael Eich Ysbrydoli

Gofynnwyd i arweinwyr ysgolion ledled Cymru ddweud wrthym sut maen nhw’n Arwain Dysgu Proffesiynol, gan ddefnyddio pob un o’r wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol fel man cychwyn. Mae’r astudiaethau achos sy’n deillio o hynny’n cynnig cipolwg ar bob math o ddulliau effeithiol o Arwain Dysgu Proffesiynol a fydd, gobeithio, yn dod â’r dilysnodau’n fyw ac yn ysbrydoli ffyrdd strategol newydd a ffres o feddwl i arweinwyr eraill yng Nghymru. Rydym am i chi Gael Eich Ysbrydoli.

Darllenwch yr astudiaethau achos

 

Ymunwch

Os oes gan eich ysgol neu glwstwr enghraifft o ymarfer y gellid ei gynnwys yn yr adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol – o dan un (neu fwy) o wyth dilysnod dysgu proffesiynol gydag arweiniad da, rydym am glywed gennych chi.

Cysylltwch â ni