Pwrpas y papur hwn yw archwilio, trafod a rhannu tystiolaeth ar yr hyn sy’n arfer myfyriol, pa effaith y mae arfer myfyriol yn ei chael, a pha arferion arweinyddiaeth addysgol sy’n gysylltiedig ag annog a chefnogi ymarfer myfyriol. Mae’r papur yn trafod datblygiadau mewn damcaniaethau, cysyniadau, a dulliau ar gyfer arfer myfyriol, yna’n ystyried defnydd ac arweinyddiaeth arweinwyr o arfer myfyriol.