Comisiynodd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol bapur Cyfres Mewnwelediad yn archwilio rolau cydweithredol Gweithwyr Ieuenctid ac Arweinwyr Ysgol wrth gyflwyno Cwricwlwm i Gymru. Mae’r astudiaeth hon yn amlygu sut mae cyfuno addysg ffurfiol ac addysg anffurfiol yn gwella canlyniadau myfyrwyr. Mae hefyd yn darparu argymhellion allweddol ar gyfer arweinwyr addysgol a llunwyr polisi ar fabwysiadu ymagwedd arweinyddiaeth systemau at weithredu Cwricwlwm i Gymru. Trwy adolygiad llenyddiaeth a grwpiau ffocws gyda Gweithwyr Ieuenctid ac Arweinwyr Ysgol a phobl ifanc, mae’r ymchwil yn pwysleisio gwerth gwaith ieuenctid mewn addysg ac yn galw am integreiddio cryfach o fewn y system.