Dylid sicrhau bod adfywio wrth wraidd system addysg newydd. Byd cynaliadwyedd, pobl fentrus ac arloeswyr sy’n sbarduno newid, ac mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae angen galluoedd arnom i ymdrin â materion nad ydym wedi eu hystyried eto. Mae’r angen am bobl sy’n gallu gweld cyfleoedd, pobl sy’n wych am ddatrys problemau a meddylwyr sy’n canolbwyntio ar weithredu yn fwy nag erioed. Gellir dadlau ein bod ar groesffordd bwysig, ac mae’r papur Cyfres Mewnwelediad hwn gan yr Athro Emeritws Andy Penaluna yn gosod y llwyfan ar gyfer meddwl am ddyfodol addysg yng Nghymru.
Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cefnogi arweinyddiaeth addysgol ar bob lefel, ac rydym wedi bod yn gwrando ar brofiadau rhyngwladol ac yn casglu ein mewnwelediadau ein hunain o’r hyn y mae dyfodol llwyddiannus yn ei olygu i’r rhai sy’n gyfrifol am addysgu pobl ifanc. Er ein bod yn gwybod mai ansicrwydd yw’r unig sicrwydd, ac y bydd ein dysgwyr yn wynebu heriau na allwn eu dychmygu eto, rydym yn dal i gael trafferth wrth geisio deall beth mae hynny’n ei olygu o ran cwricwlwm addas yn y dyfodol.
Mae llawer o gwestiynau heb eu hateb, mewn llawer o achosion maent eto i’w gofyn, heb sôn am eu hystyried yn fanwl. Fel y bydd unrhyw fabolgampwr da yn dweud, mae chwarae er mwyn osgoi colli’n wahanol iawn i chwarae i ennill. Mae meddwl ar gyfer y dyfodol yn elfen ganolog o chwarae i ennill, ac mae cysylltu â’n cymunedau a’n rhanddeiliaid y tu hwnt i addysg yn hanfodol.
Mae’r papur Cyfres Mewnwelediad hwn yn agor y drysau i feddwl cyfoes ac yn cynnig cipolwg ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i’n dysgwyr, ein hathrawon ac wrth gwrs, ein harweinwyr.