Yn y rhifyn diweddaraf o’n Cyfres Mewnwelediad, mae’r Athro Ken Jones yn archwilio’r llenyddiaeth academaidd a pholisi rhyngwladol ar Arwain Dysgu Proffesiynol. Mae’r papur yn gydymaith i adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a bydd yn ffordd ddefnyddiol i arweinwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o ddysgu proffesiynol a sut mae’n rhyngweithio ag arweinyddiaeth ysgolion.
Bu’r Athro Ken Jones yn dysgu yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru i weithio fel Pennaeth yr Ysgol Addysg a Deon Cyfadran y Dyniaethau ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Bu’n Uwch Ymgynghorydd Dysgu a Datblygiad Proffesiynol yn PCYDDS ac mae bellach yn Athro Emeritws.
Mae ei waith rhyngwladol wedi cynnwys symposia arweiniol ar Ddysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth mewn llawer o wledydd Ewropeaidd, yn UDA ac yn India. Mae’n gyd-gynullydd Rhwydwaith 1 (Dysgu a Datblygiad Proffesiynol) y Gymdeithas Ymchwil Addysg Ewropeaidd (EERA).
Mae wedi bod yn Rheolwr Olygydd y cyfnodolyn Professional Development in Education (https://www.tandfonline.com/toc/rjie20/current) ers 2002 ac mae bellach yn Gadeirydd y Bwrdd Golygyddol. Roedd yn un o aelodau a wnaeth sefydlu’r Gymdeithas Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol (IPDA) ac IPDA Cymru.
Mae bellach yn gweithio fel ymgynghorydd addysg annibynnol.