Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi ymrwymo i helpu i greu system addysg Gymraeg lle mae “lles arweinwyr addysgol yn cael ei flaenoriaethu a’i gefnogi’n systematig”. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer Lles Arweinwyr Addysgol. Er mwyn llywio’r gwaith hwn, chynhaliodd yr Academi Arweinyddiaeth arolwg cenedlaethol o arweinwyr ysgolion yn haf 2020.
Roedd yr arolwg yn agored i arweinwyr ysgolion ledled Cymru rhwng 15 Mai a 5 Mehefin 2020 a chasglwyd dros 1,000 o ymatebion i’r arolwg. Casglwyd yr ymatebion yn ystod cyfnod clo Covid-19 cyntaf ac nid oedd goblygiadau lles pwysig y pandemig yn rhan o ffocws yr arolwg ac ni chyfeiriwyd unrhyw gwestiwn yn uniongyrchol ato. Fodd bynnag, mae’n debygol bod yr amgylchiadau eithriadol hyn wedi dylanwadu ar ymatebion. Mae’r adroddiad Lles Arweinwyr Ysgolion Arolwg Cenedlaethol Ysgolion yn nodi’r canfyddiadau allweddol.